115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106 | 105 | 104 | 103 | 102 | 101 | 100 | 99 | 98

Golygyddol Rhifyn yr Nadolig 2010

Y Brifwyl yng Nglyn Ebwy

Llwyddiant mawr fu'r Eisteddfod eleni eto. Buom yn ffodus iawn i gael Dr. Wyn James i draddodi darlith y Gymdeithas ac i Helga Martin am ei chadeirio. Cafwyd cynulleidfa deilwng iawn.

Diolch i Helga am roi o'i hamser prin yn ystod yr wythnos i warchod y Stondin, i ddenu tanysgrifwyr newydd ac i annog yr eisteddfodwyr i brynu tocynnau raffl. Galwodd Angharad heibio a threulio sawl awr ar y stondin i gynorthwyo.

Ffeiriau

Bu Ffair lwyddiannus iawn yn Y Borth ym mis Medi a mawr ddiolch i Ann Corkett a Dr. Bruce Griffith am ei threfnu. Ceir mwy o hanes o dan y pennawd Gweithgareddau. Am y tro cyntaf cynhelir Ffair yng Nghaerdydd eleni a hynny yng Nghanolfan y Wallich, Heol y Gadeirlan, Caerdydd ar 4 Rhagfyr. Gall unrhyw aelod logi bwrdd yno am £15. Cefnogwch yn llu.

Canfed Rhifyn Y Casglwr

Daeth rhifyn cyntaf Y Casglwr allan ar gyfer Pasg 1977 ac ers hynny mae wedi ymddangos yn rheolaidd dros y blynyddoedd. Y Rhifyn hwn yw'r canfed a dylid cael rhyw fath o ddathliad i ddynodi'r achlysur.

Tybed a oes gennych chi ryw syniad sut y dylid dathlu? Mi fyddai cael cerflun o ben Bob Owen yn fodd i bwysleisio parhâd y Gymdeithas. Ond mae angen casglu arian ar gyfer menter o'r fath.

Y Raffl Flynyddol

Mae'r Raffl wedi bod yn llwyddiannus iawn eleni eto ac mae'n fodd i ni gael llogi'r babell ar y maes. Mae'n codi ein calon hefyd i gael cynifer ohonoch yn anfon rhoddion. Mae pob ceiniog yn dderbyniol iawn.

Mi fydd enwau enillwyr y raffl yn ymddangos yn rhifyn Y Gwanwyn gan y bydd ei thynnu yn rhy hwyr i'r rhifyn hwn.

Diwrnod Agored

Eleni rydym yn ymweld â Llanuwchllyn a hynny ar 18 Ebrill. Mae gennym arlwy ar eich cyfer ac rydym wedi llwyddo i gadw'r pris i lawn.

Gwibdeithiau

Mae angen syniadau ar gyfer gwibdeithiau eleni. Crafwch eich pennau a gadewch imi wybod. Mae Nia Rhosier wedi ein gwahodd ni i ymweld â Chapel John Hughes, Pont Rhobert ond mi adawaf i chi feddwl am yr ail un.

Y We

Cofiwch am ein Safle We. Mae boll rifynnau'r Casglwr, ag eithro'r tair blynedd ddiwethaf wedi cael eu cynnwys ar y we. Diolch i Dennis Roberts, Swyddog y We ac i Keith Parry am eu dyfalbarhad. Cymerwch gyfle i droi iddi ar www.casglwr.org.