115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106 | 105 | 104 | 103 | 102 | 101 | 100 | 99 | 98

Golygyddol Rhifyn Y Gwanwyn 2011

Y Diwrnod Agored yn Llanuwchllyn

Eleni rydym yn cynnal ein Diwrnod Agored yn Nhafarn yr Eryrod, Llanuwchllyn ar 16 Ebrill. Gobeithir cael stondinau llyfrau yno eto i dynnu dŵr i'ch dannedd.

Mae yna arlwy wedi cael ei threfnu ar eich cyfer y tro yma eto a chefnogir yr achlysur gan yr Academi.

Mae'n angenrheidiol eich bod yn dychwelyd y ffurflen a'ch dewis o fwyd yn brydlon os ydych am sicrhau lle ar y diwrnod.

Y Cyfarfod Blynyddol

Mae croeso i bob aelod fynychu'r cyfarfod am ddim. Ond bydd yn rhaid talu os am fod yn rhan o'r diwrnod i gyd. Rhydd y cyfarfod gyfle i unigolyn ddatgan ei safbwynt ac i gynnig newidiadau.

Ffeiriau

Er gwaethaf y tywydd garw, bu'r Ffair yng Nghaerdydd yn llwyddiant. Ceir adroddiau llawnach ar y dudalen 61.

Cynhelir y Ffair nesaf yn Y Morlan Aberystwyth ar 7fed o Fai. Mae croeso i unrhyw aelod logi bwrdd yno os ydynt awydd cael gwared â rhai o'u trysorau! Diolch i Gwyn Tudur am y gwaith o drefnu'r Ffair.

Gobeithir hefyd cynnal Ffair arall yn y Borth ddiwedd mis Medi nesaf. Ond fe gewch fwy o wybodaeth yn y rhifyn nesaf.

Gwibdeithiau

Mae Nia Rhosier wedi estyn gwahoddiad i ni eleni ymweld â Chapel Coffa Ann Griffiths a'r Ddolwar Fach ynghyd â Chapel John Hughes. Gobeithir cael te yn y Tanws, Llangynwy. Nia hefyd fydd yn ein tywys o le i le. Diolch iddi am ei diddordeb a'i thrafferth.

Rydym ni'n ffodus iawn i gael Gwyn Jones, Llanefydd i'n harwain i ymweld â chartref Catrin o Ferain, Eglwys Llanefydd, lle y'i claddwyd, ac wedyn Llaeth y Llan am bryd ysgafn.

Mae Emrys Wynne hefyd yn bwriadu trefnu 'Taith Glyndwr'ar Sadwrn 10 Medi.

Mi fyddwn yn falch pe byddech yn ymdrechu i fod yn bresennol ar y gwibdeithiau.

Eisteddfod Genedlaethol, Wrecsam

Dyma'r amser o'r flwyddyn yr ydym yn gorfod llogi stondin ar gyfer ein Prifwyl yno. Bydd tair o stondinau llyfrau eraill y drws nesaf inni. Dyma gyfle i gyfarfod ag aelodau ac i geisio denu rhai newydd.

Yr Aelodaeth

Mae Ann Corkett wedi cymryd drosodd y swydd o Swyddog Aelodaeth ac y mae hi wedi sylwi bod nifer sy'n talu drwy archeb Banc yn dal i dalu £7.50. Ni ellir cysylltu'n uniongyrchol â'r aelod yn aml gan nad oes enw wrth y cyfrif, dim and rhif. Tybed felly, ellwch gysylltu â 'ch banc i sicrhau mai £10 yr ydych yn ei dalu.

Hoffwn ddiolch i Ann am ymgymryd â'r swydd bwysig yma. Os ydym am oroesi, mae'n rhaid sicrhau bod y cyllid yn gywir.

Y We

Gobeithio bod y rhai ohonoch sy'n ymgodymu â 'r cyfrifiadur yn troi i mewn i'r we. Mae'n bosibl edrych ar ôl-rifynnau Y Casglwr yn eithaf hwylus. Diolch i Dennis Roberts, swyddog y We a Keith Parry am eu trylwyredd a'u dyfalbarhad. Y safle yw www.casglwr.org