115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106 | 105 | 104 | 103 | 102 | 101 | 100 | 99 | 98
Golygyddol Rhifyn Yr Haf 2011
Diwrnod Agored yn Llanuwchllyn
Cafwyd diwrnod bythgofiadwy yng Ngwesty'r Eryrod, Llanuwchllyn eleni. Roedd y tywydd yn ardderchog a chafodd pawb eu bodloni. Sicrhawyd llwyddiant y diwrnod gan y tri siaradwr. Hoffwn ddiolch i'r Bonwr Wil Aaron, Y Bonwr Emyr Llewelyn a'r Bonwr Gwyn Llywelyn am eu cyfraniadau hynod ddifyr ac amrywiol.
Cafwyd cyfle hefyd i brynu llyfrau a diolch i'r Dr Bruce Griffiths am osod ei stondin yno.
Ffeiriau
Bu Ffair lwyddiannus iawn yn Aberystwyth eleni a mawr ddiolch i Gwyn Tudur am ei threfnu mor ddeheuig. Gobeithir cynnal Ffair yn Ysgol David Hughes, y Borth, ar 24 Medi eleni. Diolch i'r Dr. Bruce Griffiths ac Ann Corkett am fynd ati i'w threfnu.
Gwibdeithiau
Bu gwibdaith lwyddiannus iawn i Ddolanog a Chapel John Hughes dan arweiniad Nia Rhosier. Diolch iddi am ei hymroddiad. Ceir lluniau ar y tudalen ôl.
Gorffennwyd yr achlysur â lluniaeth ysgafn yn Nhafarn Tanws, Llangynyw.
Cynhelir yr ail wibdaith i ymweld â chartref Catrin o Ferain ar 2 Gorffennaf. Fe'n tywysir gan Gwyn Jones. Cawn hefyd gyfle i ymweld â ffatri Llaeth y Llan lle y bydd lluniaeth wedi'i baratoi inni yno. Diolch i Gwyn am ei barodrwydd i'n harwain.
Eleni, trefnir trydydd gwibdaith dan y teitl 'Taith Glyndwr' a hynny ar 10 Medi. Ceir y manylion ar dudalen 18. Diolch i Emrys Wynne ac Alan Baines am ymgymryd a'r gwaith o drefnu.
Os oes gennych unrhyw syniad lle y gellir ymweld ag o, gadewch imi wybod. Rydym yn awyddus i gael gwibdeithiau i wahanol ardaloedd yng Nghymru y flwyddyn nesaf.
Prifwyl Wrecsam
Bydd y Gymdeithas â stondin ar faes y Brifwyl unwaith eto eleni. Y tro hyn, disgwylir yr un nifer o stondinau llyfrau ail-law ag o'r blaen. Felly, rydych yn sicr o gael rhyw gyfrol at eich dant.
Os ydych am roi rhyw awr yn y stondin pa ddiwrnod, gadewch imi wybod. Bydd unrhyw gymorth yn dderbyniol. Diolch hefyd i Gareth Vaughan Williams am ei barodrwydd i ymgymryd รข darlith flynyddol y Gymdeithas ar faes yr Eisteddfod.
Y Raffl Flynyddol
Eisoes trefnwyd raffl flynyddol ond y tro hwn mae yna dri llyfryn yn cael eu cynnwys gyda'r Casglwr. Mi fyddwn yn falch iawn pe byddech yn gallu eu gwerthu, gan fod yr elw yn mynd i dalu am y stondin yn y Brifwyl.
Y Drysoryddiaeth
Rydym yn dal i chwilio am Drysorydd i ysgwyddo'r gwaith ariannol. Tybed allwch chi awgrymu enw?
Y We
Cofiwch am ein Safle We. Cymerwch gyfle i droi iddi. Diolch i Dennis Roberts, Swyddog y We ac i Keith Parry am eu dyfalbarhad. Trowch i www.casglwr.org
Gwaeledd
Da clywed fod Dafydd Jones, Yr Hen Bost yn gwella ar ôl ei lawdriniaeth. Gobeithir ei weld yn y Brifwyl fel arfer.