107 | 106 | 105 | 104 | 103 | 102 | 101 | 100 | 99 | 98 | 97 | 96 | 95 | 94 | 93 | 92

Golygyddol rhifyn 91 - Gaeaf 2007

Yr Eisteddfod Genedlaethol

Bu'r Eisteddfod Genedlaethol yn llwyddiant ysgubol yn gyffredinol ac i ni fel Cymdeithas, hefyd. Daeth cannoedd i ymweld â'r Babell a chafwyd tanysgrifwyr newydd. Mae'n amlwg fod y diwyg newydd yn plesio. Diolch i Rheinallt, Angharad ac yn enwedig i Helga am y cymorth a estynnwyd yn ystod yr wythnos. Roedd y Trysorydd yno i sicrhau fod yr ochr ariannol mewn trefn. Gresyn na fyddai mwy o aelodau yn barod i gynorthwyo ar y stondin.

Ffair y Bala a'r Ocsiwn

Cafwyd Ffair ac Ocsiwn lwyddiannus iawn. Hoffwn ddiolch i Buddug Medi am agor y Ffair mor ddeheuig ac am ei chyfraniad anrhydeddus i goffrau'r Gymdeithas, a hefyd i Jeff Towns, Nesta Wyn Jones ac yn enwedig Ted Huws, am roi nifer o lyfrau ac eitemau yn rhodd i'r Gymdeithas ar gyfer yr Ocsiwn.

Diwrnod Agored

Oherwydd y costau, bu'n rhaid dewis canolfan arall yn lle Plas Tan y Bwlch ar gyfer y Diwrnod Agored. Eleni mae gwesty Bron Eifion, Cricieth wedi cael ei glustnodi. Mae'n Westy bendigedig a dim ond y Gymdeithas fydd yno ar y diwrnod. Cawn gyfle hefyd i fodio drwy hen lyfrau, a hyd yn oed eu prynu! Lle cyfyngedig fydd yno, felly, y cyntaf i'r felin fydd hi, mae arna i ofn.

Y darlithwyr gwadd yw'r Parch Harri Parri, Hafina Clwyd a'r Athro Deri Tomos. Mae'n argoeli i fod yn ddiwrnod pleserus.

Y Tanysgrifiad

Bu ymateb arbennig i'r codiad yn y Tanysgrifiad ac eisoes mae rhai cannoedd wedi ymateb drwy newid eu Harchebion Banc i'r Gymdeithas. Mae yna, er hynny, nifer yn dal heb ymateb. Dwi'n byw mewn gobaith!!

Beth am brynu tanysgrifiad blwyddyn yn anrheg i gyfaill?

Rhodd Gymorth

Er bod nifer heb lofnodi'r ffurflen uchod, rydym bellach yn elwa'n ariannol bob blwyddyn rhwng 22 y cant a 28 y cant o bob tâl aelodaeth a rhodd. Diolch i bawb sydd wedi cytuno i gefnogi'r cais.

Y Raffl

Mae'r raffl eleni wedi bod yn hynod lwyddiannus ac mae'r elw'n fodd i dalu am y stondin ar faes yr Eisteddfod, sydd bellach wedi codi i oddeutu £700

Casglwr y Nadolig.

Mae'r Casglwr, fwy neu lai, yn barod ar gyfer y Wasg. Felly, dwi'n gobeithio gallu gyrru'r cylchgrawn i'r aelodau ddechrau'r mis nesaf. Bellach, rwy'n derbyn cyfraniadau yn gyson gan gyfranwyr newydd, sy'n gwneud fy ngwaith i fel golygydd yn haws.

Y Trysorydd

Rydw i a'r Trysorydd yn cyfarfod yn rheolaidd bob mis i geisio datblygu strategaeth i ddenu mwy o aelodau ac i chwynnu'r rhai sydd heb dalu er derbyn rhybudd. Mae'r Trysorydd wedi gallu sicrhau cyllid ychwanegol o'r Rhodd Gymorth ac wedi llwyddo i gadw'r Gymdeithas mewn elw mewn blwyddyn anodd.

Diolch i chi am ymddiried ynom.