103 | 102 | 101 | 100 | 99 | 98 | 97 | 96 | 95 | 94 | 93 | 92 | 91

Golygyddol rhifyn 92 - Gwanwyn 2008

Diwyg Y Casglwr

Boddhad mwyaf oedd clywed Gwilym Owen ar y Radio, ddechrau'r flwyddyn, yn dewis Y Casglwr fel cylchgrawn a oedd wedi gwneud y cynnydd mwyaf, yn ei diwyg y llynedd. Da clywed canmoliaeth, ac yn sicr mae'n rhoi hwb i fudiad fel ni sydd yn ddi¬grant.

Diwrnod Agored ym Mron Eifion

Eleni, rydym wedi dewis lleoliad newydd sbon ichi. Mae Bron Eifion (gweler y llun ar y clawr) ryw thwarter milltir ar y dde fel yr ydych yn gadael Cricieth am Lanystumdwy. Mae'n anodd iawn ei fethu. Rydym wedi meddiannu'r tŷ moethus hwn am y diwrnod, ac mae'r wledd ddiwylliannol, hefyd, yn arlwy ynddo'i hun. Mi fydd yna lyfrau a recordiau ar werth eto eleni. Gan nad oes lle ym Mhortmeirion ar gyfer 2009, rydym wedi gwneud yn siwr ein bod yno yn 2010. Bydd y Cyfarfod Blynyddol yn cael ei gynnal yn y prynhawn. Mae dros banner o'r llefydd wedi mynd eisoes, felly, Cofiwch ddychwelyd y ffurflen archebu yn ddiymdroi.

Aelodaeth

Calonogol iawn yw'r ymateb gan yr aelodau i'r codiad yn y tanysgrifiad i £10. Mae yna ychydig o waith eto i gorlannu pawb. Ond rwy'n sicr, hefo dipyn bach o amynedd, hyderaf yn fawr y llwyddwn. Mae'r Trysorydd wedi chwynnu y rhai sydd ddim yn talu, a bellach, mae'r sefyllfa ariannol yn iach, ac erbyn hyn, mae'r aelodaeth yn taro'r mil.

Ffeiriau

Bydd Ffair Lyfrau'r Pasg eleni'n cael ei chynnal yn Y Morlan, Aberystwyth ar 10fed Mai. Hoffwn ddiolch i Gwyn Tudur am ei barodrwydd i'w threfnu unwaith eto. Rydym eisoes wedi llogi Ysgol y Berwyn ar gyfer Y Ffair a'r Ocsiwn, ar Sadwrn 20fed Medi.

Gwibdeithiau

Trefnir dwy wibdaith eleni. Gwahoddwyd ni gan Elfed Roberts i ymweld a'r Las Ynys, cartref Ellis Wynne. Mae'r annedd yma, sy'n rhan annatod o'n hanes, angen cyfalaf i'w gynnal, felly, gobeithio y gwnewch ymdrech lew i ymuno â'r ymweliad. Bydd yr ail daith yn ymweld a'r Ysgwm lle bydd Gerald Williams, nai Hedd Wyn, yn ein croesawu ac yn rhoi sgwrs ar yr hanes. Yna cawn gyfle i ymweld â cherflun o Hedd Wyn yng nghanol y pentre, ymweliad â Chanolfan Ednowain, ac yna te ysgafn yng nghaffi'r pentref. Cofiwch anfon eich ffurflen i nodi pa daith yr ydych am fod yn rhan ohoni. Yn amgaeedig gyda chopi diweddaraf Y Casglwr mae ffurflenni ar gyfer y digwyddiadau hyn. Dychwelwch hwy yn ddiymdroi, os gwelwch yn dda.

Stondin ar Faes yr Eisteddfod

Mae'r trefniadau ar gyfer llogi'r stondin ar gyfer y Brifwyl yng Nghaerdydd ar y gweill. Mae cael ein presenoldeb yno yn fodd i hysbysebu'r Gymdeithas ac i gynyddu'r aelodaeth.

Grant y Cynulliad

Siomedig a sarhaus oedd cynnig grant o £200 mil i gychwyn Papur Newydd Y Byd. Sut ddaethpwyd i'r casgliad yma, tybed, o ystyried fod yr wythnosolyn Golwg yn cael £80 mil a Barn yn cael £70 mil. Mae pob sefydliad arall megis Canolfan y Mileniwm a'r Gerddi Botanegol wedi cael eu hachub ddwywaith, ac mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi manteisio yn ariannol droeon. Mae dros bum mil o gopiau o'r Gwyddoiadur wedi cael eu gwerthu hyd yma. Felly, mae yna ddigon o bobl allan yna i brynu papur dyddiol Cymraeg, dim ond iddynt gael cyfle. Roedd gobaith gyda phapur annibynnol i gael llais newydd ar Gymru, ond mae'n amlwg fod Plaid Cymru wedi colli'r weledigaeth yn llwyr. Tybed a yw eu nyth yn rhy glyd o fod yn rhan o'r Llywodraeth?

Beth bynnag, rydym ar drothwy rhoi cynnig am grant oddi wrth y Cyngor Llyfrau. Mae'n bwysig ein bod yn rhoi cais i mewn unwaith eto. Pwy a wŷr beth ddigwyddith y tro hyn. Rydym yn deall fod yna fwy o gyllid ar gael. Hei lwc.