108 | 107 | 106 | 105 | 104 | 103 | 102 | 101 | 100 | 99 | 98 | 97 | 96 | 95 | 94 | 93 | 92
Golygyddol rhifyn 93 - Haf 2008
Diwrnod Agored
Bu'r diwrnod yn hynod lwyddiannus gyda 66 o aelodau yn bresennol. Hoffwn ddiolch i'r tri siaradwr, Y Parch Harri Parri, Hafina Clwyd, a'r Athro Deri Tomos am eu cyfraniadau hynod ddiddorol.
Y flwyddyn nesaf, rydym wedi llogi Gwesty'r Eryrod, Llanrwst. Ond ceir mwy o wybodaeth yn rhifyn y Nadolig.
Cadeirydd Newydd
Penderfynodd Rheinallt Llwyd roi gorau i fod yn Gadeirydd y Gymdeithas am resymau personol. Hoffwn ddiolch iddo am ei frwdfrydedd a'i waith dros y Gymdeithas. Etholwyd Helga Martin o Ysbyty Ifan yn ei le. Rydym yn ffodus i gael aeold mor deyrngar i lywio gwaith y Gymdeithas. Etholwyd Nia Rosier ar y pwyllgor a Buddug Medi yn is-gadeirydd hefyd.
Y Safle We
Penodwyd, hefyd, Dennis Roberts yn Swyddog y We. Mae ef a Keith Parry o'r Ffôr wedi bod yn brysur iawn yn sefydlu'r we ac eisoes maent wedi dechrau cynnwys cyn erthyglau arni, ynghyd â'r Mynegai, ar gyfer y 75 rhifyn cyntaf o'r Casglwr. Mae hyn, yn sicr, yn gam mawr i osod y Gymdeithas yn llygaid y cyhoedd a bydd yn fodd i chwyddo'r aelodaeth yn y pen draw. Trowch i mewn iddi ar www.casglwr.org Mae'n werth ei gweld.
Gwibdeithiau
Cafwyd diwrnod i'w gofio yn ymweliad y Gymdeithas â'r Ysgwrn a Chanolfan Dreftadaeth Ednowain y Traws. Bu croeso Gerald Williams, nai Hedd Wyn, yn arbennig iawn a bu darlith Keith O'Brien ar John Roberts y Pabydd o'r Rhiw Goch, yn agoriad llygaid. Cefnogwyd y daith gan 30 o aelodau.
Yr Eisteddfod
Bydd y Gymdeithas â stondin yn yr Eisteddfod eleni eto. Mae'r Babell yn fan cyrchu, yn fodd i gyfarfod ag aelodau, ac i ennill tanysgrifwyr newydd.
Bydd angen gwirfoddolwyr arnom ni, ac os am gynorthwyo, gadewch i'r Golygydd wybod. Mi fydd awr neu ddwy yn werthchweil.
Y Raffl Flynyddol
Eisoes trefnwyd raffl flynyddol ac mi fydd yna ddau lyfryn yn cyrraedd pob aelod. Mi fyddwn yn falch iawn pe byddech yn gallu eu gwerthu, gan fod yr elw yn mynd i dalu am y stondin yn y Brifwyl.
Y Ffeiriau Llyfrau
Bu Ffair Lyfrau Aberystwyth yn llwyddiannus iawn. Diolch i Gwyn Tudur am ei ymroddiad.
Bydd Ffair nesaf y Gymdeithas yn y Bala ar Medi 21 a chynhelir Ocsiwn yn y prynhawn. Os oes gennych rywbeth diddorol i'w roi yn yr arwerthiant, cysylltwch â'r Golygydd. Dim ond 10% fydd y Gymdeithas yn ei hawlio.