113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106 | 105 | 104 | 103 | 102 | 101 | 100 | 99 | 98 | 97 | 96 | 95
Golygyddol Rhifyn Y Gwanwyn 2009
Yr Eisteddfod
Cafwyd wythnos lwyddiannus iawn yn y Brifwyl yng Nghaerdydd, a darlith ddiddorol gan y Dr R. Elwyn Hughes. Diolch iddo am ei gefnogaeth i'r Gymdeithas.
Y Ffair Lyfrau
Denodd Ffair Lyfrau yn y Bala groesdoriad diddorol yn brynwyr a llyfrbryfaid, a buom yn ffodus iawn i gael cefnogaeth arbennig gan y cyfryngau. Diolch, hefyd, i Evan L. Dobson am agor y Ffair ac am ei eiriau caredig a'i gymorth parod.
Y Raffl
Bydd enwau'r enillwyr yn ymddangos yn rhifyn Y Pasg. Cafwyd cefnogaeth dda iawn eleni eto. Mae'r elw a ddaw oddi wrth y gwerthiant yn fodd inni dalu am y stondin yn y Brifwyl. Diolch i bawb a gymerodd ran.
Diwrnod Agored
Cynhelir y Diwrnod Agored eleni yng Ngwesty'r Eryrod, Llanrwst. Mae gwledd wedi ei pharatoi ar eich cyfer yng nghwmni Gwilym Owen, y Dr. Bruce Griffiths a Gaynor Morgan Rees. Mae'r arlwy yn un amrywiol, felly dylai apelio at bawb.
Rydym hefyd wedi bod yn lwcus i gael prisiau rhesymol iawn y tro hwn, yn ogystal â digon o le ar gyfer y pryd.
Mi fydd yn rhaid ichi symud yn gyflym i sicrhau lle. Cyntaf i'r felin...
Llyfrgell Rydd, Caerdydd
Rhaid canmol y Dr E. Wyn James am ei ddycnwch yn sicrhau na bu gwerthiant llyfrau y Llyfrgell Rydd Caerdydd. Annodd deall beth oedd Chris Dafis yn ceisio ei wneud wrth roi rhesymau dros werthu llyfrau prin sy'n rhan o'n hetifeddiaeth. Pan gyll y call...
Y Wefan
Mae Safle We y Gymdeithas yn araf ddatblygu yn nwylo Denis Roberts (Swyddog y We), a cheir nifer o luniau gwerth edrych arnynt o'r Diwrnod Agored ym Mron Eifion, Yr Eisteddfod a'r Ffair Lyfrau. Cerwch i mewn i www.casglwr.org i'w gweld. Os oes gennych chi luniau diddorol sy'n addas i'r Casglwr, anfonwch nhw ataf ac fe wnawn eu cynnwys ar y safle. Cofiwch droi i mewn i : www.casglwr.org
Grant Cyngor Llyfrau Cymru
Cyflwynwyd cais i Gyngor Llyfrau Cymru am grant i hyrwyddo marchnata, ymestyn nifer y tudalennau ac i argraffu rhifyn arall o'r cylchgrawn. Mae'r canlyniad i fod i'w ddatgelu ym mis Tachwedd.
Bydd y rhifyn hwn yn ei wely cyn y gallwn gyhoeddi'r canlyniad ichi. Gobeithio bod diwyg Y Casglwr at galon y Pwyllgor Dewis y tro yma, beth bynnag. Cawn weld.
Rhag Ofn Ysbrydion
Llongyfarchiadau i'r Parch J. Towyn Jones am ei gyfrol uchod. Mae gan Towyn stori iasol arall ichi yn y rhifyn hwn. Darllenwch y llyfr a'r gyfrol mewn ystafell lwyr dywyll gan obeithio y byddwch yn goroesi. Bu Dr Bruce Griffiths, ac Ann, ei wraig, yn y lansiad a gynhaliwyd yn Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, ac os trowch at safle we'r Gymdeithas, fe allwch weld y lluniau.
Gwibdeithiau
Gobeithir trefnu gwibdeithiau eto eleni. Os oes gennych ryw syniadau, cysylltwch â'r golygydd. Ceir mwy o wybodaeth yn y rhifyn nesa' am y teithiau arfaethedig. Mae'r arlwy yn un amrywiol, felly dylai apelio at bawb.