114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106 | 105 | 104 | 103 | 102 | 101 | 100 | 99 | 98 | 97 | 96

Golygyddol Rhifyn yr Haf 2009

Diwrnod Agored yn Llanrwst

Cafwyd diwrnod fyth gofiadwy yng Ngwesty'r Eryrod. Roedd y tywydd yn ardderchog a chafodd pawb eu bodloni. Sicrhawyd llwyddiant y diwrnod gan y tri siaradwr. Hoffwn ddiolch i Gwilym Owen, Gaynor Morgan Rees a Dr Bruce Griffiths am eu cyfraniadau hynod ddifyr ac amrywiol. Mi fydd yn anodd dilyn y llwyddiant hwn y tro nesaf. Cafwyd cyfle hefyd i brynu llyfrau yno a diolch i'r llyfrwerthwyr Dafydd Jones, yr Hen Bost, Gwynedd Williams, a Trystan Lewis am osod eu stondinau yno. Ymwelodd rhai ag Eglwys Grwst i weld arch Llywelyn Fawr. Mae'n bwysig ein bod yn gwbod am leoliadau ein creiriau hanesyddol. Gobeithir cael erthyglau i'r perwyl hyn cyn bo hir.

Ffeiriau

Bu Ffair lwyddiannus iawn yn Aberystwyth eleni a mawr ddiolch i Gwyn Tudur am ei threfnu mor ddeheuig. Am fod yr Eisteddfod yn Y Bala eleni ni fydd Ffair yno ym mis Medi. Felly yn hytrach, gobeithir cynnal un ddiwedd Tachwedd a'i gwneud yn Ffair Nadolig. Cofiwch y dyddiad - 28 Tachwedd.

Gwibdeithiau

Bu gwibdaith lwyddiannus iawn i Gae'r Gors, cartref y Dr Kate Roberts, a buom yn ffodus iawn o'r tywydd. Diolch hefyd i Dewi Tomos am roi sgwrs am y lle ac am fynd drwy ei gyfrol ar yr awdures. Gorffennwyd yr achlysur รข lluniaeth ysgafn dan law medrus Megan Lloyd Williams.

Cofiwch am y wibdaith arall i Langyndeyrn yng ngofal Donald Williams ar 12 Gorffennaf. Dyw hi ddim yn rhy hwyr i ymuno. Os oes gennych unrhyw syniad lle gellir ymweld ag o, gadewch imi wybod. Rydym yn awyddus i gael gwibdeithiau i wahanol ardaloedd yng Nghymru.

Yr Eisteddfod yn y Bala

Bydd y Gymdeithas â stondin ar faes y Brifwyl unwaith eto eleni. Y tro hyn, disgwylir mwy o stondinau llyfrau ail-law nag o'r blaen - pum stondin i gyd. Felly, rydych yn sicr o gael rhyw gyfrol at eich dant. Os ydych am roi rhyw awr yn y stondin pa ddiwrnod, gadewch imi wybod. Bydd unrhyw gymorth yn dderbyniol.

Swyddogion Newydd

Mae Angharad Jones ein Hysgrifenyddes wedi dymuno rhoi'r gorau i'r swydd wedi pedair blynedd. Hoffwn ddiolch iddo am ei gwaith trylwyr a chydwybodol dros y blynyddoeddd. Bydd y Dr Bruce Griffiths yn ysgwyddo'r swydd. Dymunwn rwydd hynt iddo.

Mae'r Gymdeithas yn ffodus i gael dau newyddian ar y Pwyllgor hefyd sef Megan Tomos ac Elfed Roberts. Croeso iddynt, a bydd eu cyfraniadau yn sicr i fod o gymorth mawr i ddatblygiad y Gymdeithas.

Y Raffl Flynyddol

Eisoes trefnwyd raffl flynyddol ac mae yna ddau lyfryn yn cael eu cynnwys gyda'r Casglwr. Mi fyddwn yn falch iawn pe byddech yn gallu eu gwerthu, gan fod yr elw yn mynd i dalu am y stondin yn y Brifwyl.