114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106 | 105 | 104 | 103 | 102 | 101 | 100 | 99 | 98 | 97 | 96

Golygyddol Rhifyn yr Gaeaf 2009

Yr Eisteddfod

Bu'r Eisteddfod Genedlaethol eleni llwyddiannus iawn, a chafwyd cyfle i gyfarfod a llawer o aelodau. Mae ein presenoldeb yn y Brifwyl yn bwysig iawn ac yn ffenestr i'r Gymdeithas. Eleni cafwyd 40 aelod newydd, a gwerthwyd cannoedd o lyfrau raffl. Yn sgil hyn, mi fyddan ni wedi cyrraedd mil o aelodau.

Diolch i'r Cadeirydd, Helga Martin, Gwyndaf Roberts, y Trysorydd, Denis Roberts, y Swyddog We, ac i Angharad Jones am eu cymorth yn y stondin dros yr wythnos.

Mae'r wythnos yn gyfle arbennig i'r Gymdeithas hysbysebu yn helaeth ac i gyfarfod ag aelodau o wahanol ardaloedd dros Gymru, ac hyd yn oed dros y ffin, ac i sicrhau erthyglau newydd.

Diolch, hefyd, i Buddug Medi, yr Is-lywydd am draddodi'r ddarlith flynyddol ar y testun Rhai o Enwogion Meirionnydd. Bu'r achlysur yn llwyddinnus iawn, a chafwyd dros ddeugain yn bresennol. Ceir mwy o hanes ar dudalen 28.

Oherwydd bod Y Brifwyl newydd fod yn y Bala, fe ohiriwyd y Ffair Lyfrau o'r Medi arferol, yn nes at y Nadolig. Mae'r achlysur yn argoeli'n dda, ac os oes gennych unrhyw eitem diddorol ar gyfer yr ocsiwn a gynhelir yn y 'pnawn, gadewch imi wybod mewn da bryd.

Y Ffair Lyfrau

Oherwydd bod Y Brifwyl newydd fod yn y Bala, fe ohiriwyd y Ffair Lyfrau o'r Medi arferol, yn nes at y Nadolig. Mae'r achlysur yn argoeli'n dda, ac os oes gennych unrhyw eitem diddorol ar gyfer yr ocsiwn a gynhelir yn y 'pnawn, gadewch imi wybod mewn da bryd.

Y Diwrnod Agored

Gobeithir cynnal Diwrnod Agored eto Ddydd Sadwrn, 17 o Ebrill, 2010. Oherwydd llwyddiant y lleoliad y llynedd, a'r croeso a gafwyd gan y staff, rydym am fynd yn ôl am yr eildro i Westy'r Eryrod, Llanrwst. Mae'r arlwy ar eich cyfer eleni eto yn werthchweil. Os ydych am sicrhau lle, bydd yn rhaid ichi yrru'r arian llawn, hefyd. Mae hyn yn gwneud y gwaith trefnu gymaint yn haws.

Y Raffl

Fe dynnir y raffl flynyddol yn y Pwyllgor ar ddiwedd Tachwedd, a bydd enwau'r enillwyr yn ymddangos yn rhifyn y Gwanwyn. Er mwyn hysbysebu'r Ffair Lyfrau, fe welwch fod Y Casglwr wedi eich cyrraedd yn gynt. Rhydd hyn gyfle da i chi brynu llyfrau mewn digon o bryd cyn y Nadolig.

Gwibdeithiau

Gobeithir trefnu gwibdeithiau eto eleni. Os oes gennych unrhyw syniadau, neu efallai yr hoffech chi drefnu taith, cysylltwch â'r Golygydd er mwyn sicrhau ei hysbysebu yn y rhifyn nesaf.

Rhoddion

Diolch i'r holl aelodau sydd wedi cyfrannu'n hael i goffrau'r Gymdeithas. Mae pob ceiniog yn gymorth mawr inni. Ceir enwau'r cyfranwyr y tu mewn. Bydd mwy yn y rhifyn nesaf.

Rhifyn 100 Y Casglwr

Flwyddyn i rwan bydd Y Casglwr yn cyrraedd Rhifyn 100. Gobeithir cyhoeddi cylchgrawn mwy trwchus i ddathlu'r achlysur a fydd yn cynnwys pigion o rai erthyglau diddorol dros y cyfnod, a hanesion gan yr aelodau cynnar. Os oes gennych stori ddiddorol am y dyddiau cynnar, gadewch imi wybod, er mwyn eu cynnwys. Mi fydd y Diwrnod Agored yn Ebrill 2011 yn fodd inni lunio rhyw fath o arddangosfa.

Ar ran y Gymdeithas, dymunaf Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.