115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106 | 105 | 104 | 103 | 102 | 101 | 100 | 99 | 98

Golygyddol Rhifyn y Gwanwyn 2010

Diwrnod Agored yn Llanrwst

Eleni eto rydym yn cynnal yr achlysur yng Ngwesty'r Eryrod, Llanrwst. I rai sydd ddim yn gwybod, mae'r Gwesty wrth y Bont enwog ac mae'n amhosibl ei methu. Bydd yno gyfle hefyd, i brynu llyfrau. Cofiwch nodi beth yw eich dewis chi o fwyd ar gyfer y cinio ganol dydd. Bydd y Cyfarfod Blynyddol yn cael ei gynnal yn y prynhawn.

Mae yna drigain o lefydd ac mae rhai wedi mynd eisoes, felly brys pia hi, a chofiwch ddychwelyd y ffurflen archebu a'r arian ar unwaith.

Cefnogir yr achlysur gan yr Academi.

Ffeiriau

Bydd Ffair Lyfrau'r Pasg yn cael ei chynnal eto yn Y Morlan, Aberystwyth a hynny ar Sadwrn 8 Mai. Hoffwn ddiolch i Gwyn Tudur am fod yn barod i ysgwyddo'r baich. Ni fydd yna Ffair Lyfrau yn y Bala eleni, ysywaeth.

Gwibdeithiau

Trefnir dwy wibdaith eto eleni. Gwahoddwyd ni gan Gylch y Llan, i ymweld â chyn-Eglwys Deiniol Sant, Llanuwchllyn ac i gael sgwrs ar hanes y pentre. Ceir hefyd gyfle i ymweld â'r llecynnau mwyaf nodweddiadol gan orffen hefo paned a chacen yn y Neuadd Bentre. Y bwriad gan Gylch y Llan yw troi'r Eglwys yn ganolfan Treftadaeth a hanes lleol. Yma cheir cyfle i weld â menter ar ei chychwyn.

Gobeithir yn yr ail daith ymweld ag Amgueddfa Henry Jones yn Llangernyw, Yr Eglwys, yr Ywen a'r meini hynafol ynghyd â bedd Robert Roberts, Y Sgolor Mawr yn y Fynwent a'r cerflyn mewn derw o'r Swper Olaf tu ôl i'r pulpud yng Nghapel y Cwm gan orffen hefo sgwrs ar hanes y fro. Bydd lluniaeth wedi ei drefn ar ein cyfer i orffen y diwrnod yn y Dafarn cyfagos.

Eisteddfod Glyn Ebwy

Gobeithir bod yn bresennol eto eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy. Dyma ffenestr siop y Gymdeithas, sy'n fodd i gyfarfod d chyfeillion ac i ddenu aelodau newydd. Beth am i bob un ohonoch geisio ennill un aelod newydd.

Aelodau ddim yn talu

Mae yna niter o aelodau, drwy amryfusedd 'rwy'n siŵr, wedi methu â thalu eu tâl aelodaeth ers tro bellach, a golyga hynny eu bod yn derbyn cyfwerth a £12 oddi wrth y Gymdeithas heb son am y llafur, bob blwyddyn. Bydd yna ymgyrch eleni i sicrhau bod pob aelod yn talu yn llawn ac i'r perwyl hynny mae Megan Tomos yn barod i ysgwyddo'r gwaith. Hoffwn ddiolch iddi am ei pharodrwydd i ymgymryd a'r gorchwyl 11afurus hwn.

Rhoddion

Diolch i holl aelodau sydd wedi cyfrannu'n hael i goffrau'r Gymdeithas. Mae pob ceiniog yn gymorth mawr inni.

Colli Cyfrannwr

Bu marwolaeth sydyn yr Athro Hywel Teifi Edwards yn ddychryn inni i gyd. Mae Cymru wedi colli cymwynaswr mawr. Roedd o i fod i'n hannerch ni yn ein Diwrnod Agored. Ef oedd ein darlithydd gwadd pan y dathlodd y Gymdeithas ei chwarter canrif ym Mhortmeirion yn Ebrill 2002. Ceir Teyrnged D. L. Davies iddo yn y rhifyn hwn.

Estynnwn ein cydymdeimlad llwyraf i'r teulu.

Y We

Mae'r wefan yn mynd rhagddi. Bellach mae yna dri chwarter o rhifynnau Y Casglwr i'w gweld ar y Safle. Diolch i Dennis Roberts (Swyddog y We) a Keith Parry am eu dyfalbarhad. Cofiwch droi i mewn i'r Safle.