115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106 | 105 | 104 | 103 | 102 | 101 | 100 | 99 | 98

Golygyddol Rhifyn yr Haf 2010

Diwrnod Agored yn Llanrwst eto

Cafwyd diwrnod byth gofiadwy yng Ngwesty'r Eryrod eto eleni. Roedd y tywydd yn ardderchog a chafodd pawb eu bodloni. Sicrhawyd Ilwyddiant y diwrnod gan y tri siaradwr. Hoffwn ddiolch i Dr Robyn Lewis, Y Bonwr Lyn Ebenezer a'r Dr Goronwy Wynne am eu cyfraniadau hynod ddifyr ac amrywiol. Cafwyd cyfle hefyd i brynu Ilyfrau yno a diolch i'r Ilyfrwerthwyr Dafydd Jones, yr Hen Bost, Gwynedd Williams a Dr Bruce Griffiths am osod eu stondinau yno.

Ffeiriau

Bu Ffair Iwyddiannus iawn yn Aberystwyth eleni a mawr ddiolch i Gwyn Tudur am ei threfnu mor ddeheuig. Gobeithir cynnal Ffair yn Ysgol David Hughes, y Borth, ar 25 Medi. Diolch i'r Dr. Bruce Griffiths ac Ann Corkett am fynd ati i'w threfnu.

Gwibdeithiau

Bu gwibdaith lwyddiannus iawn i Lanuwchllyn i weld y cynlluniau sydd ar droed gan Gylch y Llan i achub yr Eglwys leol. Cafwyd sgwrs gan Beryl Jones Griffiths (Cadeirydd Cylch y Llan) ar hanes y fro a'u henwogion a chafwyd taith o amgylch y pentref i weld beddau Syr O. M. Edwards a'i fab Syr Ifan ap.

Gorffennwyd yr achlysur â lluniaeth ysgafn yn Nhan y Castell a diolch cynhesaf i Lis Williams a Megan Evans am drefnu'r wledd.

Croesawyd ni ar yr ail wibdaith i Langernyw gan y Cynghorydd John Hughes. Cafwyd sgwrs ddiddorol ganddo a chyfle i ymweld ag Amgueddfa Henry Jones, yr Eglwys a'r fynwent lle y claddwyd Robert Roberts, y Sgolar Mawr a thaid a nain Waldo Williams. Trefnwyd lluniaeth inni yn Nhafarn y Bont.

Os oes gennych unrhyw syniad lle y gellir ymweld ag o, gadewch imi wybod. Rydym yn awyddus i gael gwibdeithiau i wahanol ardaloedd yng Nghymru.

Yr Eisteddfod yng Nglyn Ebwy

Bydd y Gymdeithas â stondin ar faes y Brifwyl unwaith eto eleni. Y tro hyn, disgwylir yr un nifer o stondinau llyfrau ail-law ag o'r blaen. Felly, rydych yn sicr o gael rhyw gyfrol at eich dant. Os ydych am roi rhyw awr yn y stondin pa ddiwrnod, gadewch imi wybod. Bydd unrhyw gymorth yn dderbyniol.

Diolch hefyd i'r Dr. E. Wyn James am ei barodrwydd i ymgymryd a'r ddarlith flynyddol.

Y Raffl Flynyddol

Eisoes trefnwyd raffl flynyddol ond y tro hwn mae yna dri llyfryn yn cael eu cynnwys gyda'r Casglwr. Mi fyddwn yn falch iawn pe byddech yn gallu eu gwerthu, gan fod yr elw yn mynd i dalu am y stondin yn y Brifwyl.

Y We

Cofiwch am ein Safle We. Cymerwch gyfle i droi iddi. Diolch i Dennis Roberts, Swyddog y We ac i Keith Parry am eu dyfalbarhad. Trowch i www.casglwr.org.

Cydymdeimlad

Estynnwn ein cydymdeimlad tuag at Gwyn Tudur a'r teulu ym marwolaeth ei dad, Y Parch Tudor Davies. Bu'n gyfaill mawr i'r Gymdeithas.