2011 | 2010 | 2009 | 2008 | 2007 | 2006
Diwrnod Agored 2011
Cynhelir y diwrnod agored yn ystod y gwanwyn. Mae’n gyfle i’r aelodau ddod at ei gilydd i gymdeithasu ac i wrando ar ddarlithoedd gan rai o ddarlithwyr gorau ein cenedl. Yn ystod y diwrnod cynhelir y cyfarfod blynyddol. Mae’r achlysur hwn wedi bod yn un poblogaidd iawn dros y blynyddoedd. Isod ceir gwybodaeth am y diwrnod agored nesaf. Os am wybodaeth am gyfarfodydd y gorffennol yna cliciwch ar y linc am y blynyddoedd gwahanol uchod.

Bu'r Diwrnod Agored yn Nhafarn yr Eryrod, Llanuwchllyn yn llwyddiannus iawn. Daeth hanner cant i fwynhau cyfraniadau Y Bonwr Wil Aron, Y Bonwr Emyr Llywelyn a'r Bonwr Gwyn Llywelyn. Cadeiriwyd yr achlysur gan Helga Martin (Cadeirydd y Gymdeithas).