123 | 122 | 121 | 120 | 119 | 118 | 117 | 116 | 115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106

Gair gan y Prif Weithredwr
Rhif 141 ~ Rhifyn yr Haf 2024

Adroddiad y Prif Weithredwr.
Y Diwrnod Agored.
Bu'r diwrnod yn y Llew Coch, Dinas Mawddwy yn llwyddiant gyda 30 o aelodau yn ei fynychu. Diolch i Haf Llewelyn, Gruffydd Antur a Mair Tomos Ifans am eu cyfraniadau clodwiw (gweler tud. 28).
Y raffl flynyddol.
Yn gynwysedig mae llyfr raffl. Diolch i chi am eich cefnogaeth yn flynyddol. Mae'r Gymdeithas yn hynod ddiolchgar.
Ffair Lyfrau Y Borth.
Bydd Ffair Lyfrau y Gymdeithas yn cael ei chynnal yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy ar Sadwrn Hydref 12fed. Diolch i'r Parch. Gwenda Richards ac Eluned Evans am eu holl waith.
Tudalen danysgrifio.
Yn gynwysedig mae tudalen yn gofyn am eich cymorth i annog cyfeillion i danysgrifio i'r Gymdeithas er mwyn ei chadw'n hyfyw. Goreu oll po fwyaf o aelodau sydd gennym, a byddwn yn hynod falch o'ch cefnogaeth.
Byr deithiau.
Bu'r daith i Fryn Celli Ddu ac Eglwys Biwmares yn un fuddiol. Gorffennwyd gyda phryd o fwyd yn yr Anglesey Arms.
Cynhelir y daith nesaf i Blas Newydd ac Abaty Glyn y Groes, Sadwrn Medi 7fed.
Os byddwch â diddordeb cysylltwch â mi.