123 | 122 | 121 | 120 | 119 | 118 | 117 | 116 | 115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106

Adroddiad y Trefnydd Rhifyn y Haf 2014

Y Diwrnod Agored

Bu'r Diwrnod Agored eleni yng Ngwesty'r Waterloo, Betws-y-coed yn Ilwyddiannus iawn. Cafodd y gynulleidfa fodd i fyw yng nghwmni Dr D. Ben Rees, Beti George ac Einion Wyn Thomas. Gobeithir gweld y sgyrsiau mewn print maes o law.

Y Cyfarfod Blynyddol

Cafwyd Cyfarfod blynyddol buddiol iawn gyda chefnogaeth derbyniol yr aelodau. Cynhelir y pwyllgor nesaf ar 11 Ebrill 2015.

Profedigaeth

Estynnwn ein cydymdeimlad tuag at Elwyn Williams, ein Is-gadeirydd, yn ei brofedigaeth.

Gwibdeithiau

Cafwyd tair gwibdaith i'w cofio eleni. Bu'r tair yn llwyddiannus iawn a chafwyd llawer mwy eleni yn eu cefnogi. Roedd yn werthchweil ymweld a Gwinllan Pant-du. Dyma fenter anhygoel. Pwy fyddai'n meddwl sefydlu gwinllan yng Ngogledd Cymru. Dyna wnaeth Richard Huws a'i deulu.Os nad ydych wedi bod yno, ewch ar bob cyfrif. Bydd yna groeso cartrefol yn eich disgwyl yno.

Diolch i Helga am drefnu'r ymweliad d'r Eglwys Gadeiriol yn Llanelwy. Amlinellwyd y cefndir gan Y Parch David Griffiths a chafwyd cyfle i weld Beibl William Morgan, ymweliad ag Ysgol yfun Gymraeg gyntaf, Glan Clwyd. Diolch i'r Prifathro Martin Davies am roi o'i amser prin i'n goleuo am gefndir a haves yr ysgol. Aethom wedyn i weld bedd Dic Aberdaron yn Eglwys y Plwy gyfagos.

Buom yn ffodus iawn i gael Mary Thomas i'n tywys o amgylch Cartref Mary Jones yn Llanfihangel-y-Pennant. Cawsom gyfle hefyd i ymweld ag Eglwys Tywyn i weld Carreg Cadfan sydd fi'r Gymraeg gynharaf arm hynny o'r 8 wythfed ganrif.

Is-Olygyddiaeth

Bu Dafydd Chilton yr Is-olygydd yn ddiwyd iawn ac erbyn hyn mae wedi ysgwyddo'r gofal dros holl erthyglau'r Casglwr. Mae ei frwdfrydedd yn codi calon y Golygydd.

Ffeiriau

Bu Ffair Aberystwyth yn llwyddiant mawr a daeth llawer mwy i'w chefnogi elem. Mae hi bellach yn ddigwyddiad blynyddol yn y dref. Diolch i Gwyn Tudur am drefnu popeth mor ddeheuig.

Bydd Ffair eto yn y Borth ac os dowch draw mi fyddwch yn siwr o gael hyd i gyfrol brin, o bosibl un yn bunch yn chwilio amdani ers blynyddoedd. Bydd yn cael ei chynnal yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy ar 27 Medi. Dowch yn llu. Diolch i Ann Corkett a Bruce Griffiths am drefnu'r achlysur.

Darlith yr Eisteddfod

Rydym yn hynod ffodus i gael Dr. Don Treharne i'n diddannu yn yr Eistedfodd. Bydd yn darlithio ym Mhabell 2 ar 5 Awst am 11.30. Dowch yn llu.

Y Llywydd Anrhydeddus

Penderfynwyd gwahodd Gwilym Tudur, Siop y Pethe, i fod yn Llywydd Anrhydeddus Y Gymdeithas. Ei syniad ef oedd sefydlu Cymdeithas o'r fath a hynny ym 1976. Roedd yn ei theimlo'n anrhydedd o gael ei ddewis.

Y We

Diolch i Denis Roberts a Keith Parry am eu gwaith yn diweddaru'r safle we. Trowch i mewn iddi ar www.casglwr.org