Hanes ac Amcanion

Sefydlwyd Cymdeithas Bob Owen yn 1976 ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberteifi. Gan mai’r bwriad oedd ffurfio cymdeithas ar gyfer casglwyr a charwyr llyfrau Cymreig, addas iawn oedd ei henwi ar ôl yr hynafiaethydd, yr achyddwr, y darlithydd huawdl a’r llyfrbryf enwog Bob Owen (1885-1962), a gasglodd lyfrgell ryfeddol o lyfrau a chylchgronau yn ei gartref yng Nghroesor, Meirionnydd. Llywydd cyntaf y gymdeithas oedd E. D. Jones, a’r cadeirydd cyntaf oedd D. Tecwyn Lloyd.

Dros y degawdau diwethaf, mae’r gymdeithas wedi cyfrannu at hybu diddordebau ei haelodau, ynghyd â bywiogi’r farchnad lyfrau ail-law yng Nghymru. Yn ogystal, trefnir darlithoedd a sgyrsiau blynyddol ar bynciau llenyddol, hanesyddol a hynafiaethol, megis y ddarlith ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, a’r diwrnodau agored a gynhelir bob blwyddyn, ynghyd â chynnal a chyfrannu at ffeiriau llyfrau a gwibdeithiau llyfryddol ar hyd a lled y wlad.

Ond prif waith y gymdeithas, yn ddiau, yw cyhoeddi’r cylchgrawn chwarterol Y Casglwr, a ymddangosodd am y tro cyntaf ym mis Mawrth 1977. Ynddo, ceir erthyglau a gwybodaeth sy’n ymwneud â chasglu unrhyw beth sy’n gysylltiedig â'r bywyd Cymraeg a Chymreig, yn enwedig deunydd argraffedig, llenyddiaeth, hanes a diwylliant. Golygydd cyntaf y cylchgrawn oedd John Roberts Williams, a olygodd rifynnau’r Casglwr hyd 1995.

Yn ogystal â bod yn fforwm hwylus i werthwyr llyfrau, amlygwyd amrywiaeth ac ehangder y cynnwys pan nodwyd yn y rhifyn cyntaf un nad at arbenigwyr yn unig y bwriedid Y Casglwr, ac mai’r nod oedd creu cylchgrawn a fyddai ‘yn ddibynnol, yn gynorthwygar, yn ychwanegiad at eich gwybodaeth, ac yn ddiddan’. Erbyn heddiw, ystyrir Y Casglwr yn ‘gyfrwng amhrisiadwy’ i unrhyw un sy’n ymddiddori mewn llyfrau.