Stondin Steddfod Wrecsam 2011
Bydd y Gymdeithas â stondin ar faes y Brifwyl unwaith eto eleni. Y tro hyn, disgwylir yr un nifer o stondinau llyfrau ail-law ag o'r blaen. Felly, rydych yn sicr o gael rhyw gyfrol at eich dant.
Os ydych am roi rhyw awr yn y stondin pa ddiwrnod, gadewch imi wybod. Bydd unrhyw gymorth yn dderbyniol. Diolch hefyd i Gareth Vaughan Williams am ei barodrwydd i ymgymryd â darlith flynyddol y Gymdeithas ar faes yr Eisteddfod.