123 | 122 | 121 | 120 | 119 | 118 | 117 | 116 | 115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106

Adroddiad y Prif Weithredwr
Rhif 118 ~ Rhifyn Y Gaeaf 2016

Y Brifwyl yn y Fenni

Bu'r Genedlaethol yn llwyddiant mawr i'r Gymdeithas eto eleni. Cafwyd cyfle i gyfarfod ag aelodau, a llwyddwyd i ddenu rhagor i ymaelodi.
Buom yn ffodus i gael yr Athro Sioned Davies i draddodi darlith y Gymdeithas ar y testun Crafanc, twrch a thwrnamaint: Gwent y Mabinogion.
Cafwyd cynulleidfa deilwng. Diolch i Elwyn Williams am gadeirio mor ddeheuig.
Cefnogwyd yr achlysur gan yr Academi.

Y Raffl Flynyddol

Mae'r raffl wedi bod yn llwyddiant unwaith eto, ac mae ei chynnal yn fodd i ni dalu am y babell ar faes yr Eisteddfod.
Mae'n codi ein calon, hefyd, i gael cynifer ohonoch yn anfon rhoddion yn ychwanegol at dal y raffl, ac yn sgil y rhai sydd wedi arwyddo ffurflen y Rhodd Gymorth, cawn elw pellach.
Cewch enwau'r enillwyr yn y golofn nesaf.

Ffeiriau Llyfrau

Bu Ffair y Borth yn llwyddiannus ysgubol eleni, a mawr diolch i Ann Corkett a Bruce Griffith am drefnu'r achlysur.
Diolch hefyd i'r holl stondinwyr a gefnogodd y Ffair.
Gobeithir gweld Ffair y Morlan eto fis Mai y flwyddyn nesaf.

Gwibdeithiau

Trefnwyd tair gwibdaith eleni, un i Amgueddfa Lloyd George ac Amgueddfa Forwrol Nefyn, yr ail i Gastell Gwydir a Llanrwst, a'r olaf i Beaumaris a Phriordy Penmon.
Bu'r teithiau yn hynod o lwyddiannus.
Diolch i Helga am drefnu'r teithiau. Diolch i Maureen Hughes am ein tywys o amgylch Ty Gwydir ac i Dwynwen Berry am ddatgelu hynodion tref Llanrwst.
Gobeithir trefnu teithiau eto y flwyddyn nesaf, un i'r Las Ynys ac Eglwys Llanfair; yr ail i Borth Sunlight i weld darlun Cornow Vosper o Salem.
Diolch i Mai Jones, Talsarnau am syniadau gwych.
Os oes gennych unrhyw syniad lle y gellir ymweld ag o yn y dyfodol, gadewch imi wybod. Rydym yn awyddus i gael gwibdeithiau i wahanol ardaloedd yng Nghymru.

Y Diwrnod Agored

Y flwyddyn nesaf cynhelir ein Diwrnod Agored yn Nhafarn yr Eryrod, Llanuwchllyn.
Rydym yn ffodus i gorlannu Huw Edwards, y Darlledwr Newyddion, Robert Morris, yr hanesydd, a Gwenan Gibbard i'n diddannu.
Mi fydd yna fwy o wybodaeth yn y rhifyn nesaf. Gweler y Rhaghysbyseb ar waelod y dudalen.

Yr Apêl

Cafwyd ymateb cadarnhaol iawn i'r papur pleidleisio a ymddangosodd yn y rhifyn diwethaf. Bu dros chwarter o blaid gostwng y Cworwm i 20. Gallwn bellach weithredu yn ein pwyllgorau.
Dymuna Ann Corkett ddiolch i bawb a gymerodd ran ac am yr holl drafferth.

Y We

Diolch i Denis Roberts a Keith Parry am eu dyfalbarhad yn ei diweddaru.
Mae na nifer yn troi i mewn iddi yn feunyddiol.
Trowch i www.casglwr.cymru