123 | 122 | 121 | 120 | 119 | 118 | 117 | 116 | 115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106

Adroddiad y Prif Weithredwr
Rhif115 ~ Rhifyn y Gaeaf 2015

Y Diwrnod Agored

Eleni cynhelir Diwrnod Agored eto yng Ngwesty'r Eryrod, Llanrwst.
Rydym yn ffodus i gael Yr Athro Gruffydd Aled Williams, R. M. Owen, Dinbych a Robat Arwyn i'n diddanu.

Mi fydd yna fwy o wybodaeth yn y rhifyn nesaf.

Gweler y Rhag­hysbyseb ar waelod y dudalen.

Gwibdeithiau

Trefnwyd tair gwibdaith eleni fel y cyfeiriwyd atynt yn rhifyn Yr Haf.
Bu'r teithiau yn Ilwyddiannus iawn a cheir mwy o'u hanes ar dudalen 28.

Gobeithir cynnal teithiau y flwyddyn nesaf eto. Mae Helga eisoes wrthi'n trefnu rhai i wahanol ardaloedd yng Nghymru.

Mae'n ymddangos bod teithiau'r Gym­deithas, bellach, yn boblogaidd iawn ac yn gyfle gwych i gymdeithasu.
Rhowch wybod inni os oes yna daith y byddech yn hoffi mynd ami.

Y Golygydd

Alun Jones, sy'n byw yn Sarn Mellteyrn a chyn-berchennog Siop Lyfrau Llên Llŷn, sydd wedi'i benodi yn Olygydd newydd Y Casglwr.

Rydym yn hynod ffodus ohono ac yn falch o'i gael yn rhan o'r tîm. Dyma gychwyn cyfnod newydd yn hanes y Gymdeithas a'r Casglwr.

Fe gewch fwy o'i hanes yn y rhifyn nesaf.

Ffeiriau

Cynhaliwyd Ffair Lyfrau ddiweddaraf y Gymdeithas yn y Borth ar 10 Hydref. Bu'n hynod lwyddiannus.

Diolch i'r stondinwyr oll, merched y te, a'r llyfr-bryfed am eu cefnogaeth ac i bawb am y gwaith ar y dydd ac yn enwedig i Ann Corkett a Bruce Griffiths am eu hymroddiad a'u trylwyredd yn trefnu gŵyl sydd wedi tyfu dros y blynyddoedd.

Mae'n amlwg bod ein haelodau a'r cyhoedd yn gyffredinol yn dal â diddordeb mewn llyfrau. Mae'r achlysur yn fodd hefyd i Helga Martin, ein Trysorydd, gael aelodau newydd.

Gobeithir trefnu Ffair eto yn Aberystwyth ym mis Mai y flwyddyn nesaf.

Y Brifwyl ym Meifod

Bu'r Eisteddfod eleni'n llwyddiant ysgubol, a llwyddodd Helga Martin, ein Trysorydd, i gael 28 o aelodau newydd.

Diolch i Rhys Mwyn am ei ddarlith ddiddorol o dan y teitl Mwynder Maldwyn - Archaeoleg a Hen Lyfr. Cafwyd cynulleidfa deilwng a phlesiwyd pawb.

Gobeithir cyhoeddi'r ddarlith yn Y Casglwr, maes o law.

Diolch i Helga am warchod y Stondin drwy'r wythnos, i Elwyn Williams, ein Cadeirydd am ei gymorth yn ystod yr wythnos ac i Megan Evans ac Ann Corkett am fynnu bod yr Eisteddfodwyr yn cefnogi'r raffl.

Y Raffl Flynyddol

Bu'r Raffl yn Ilwyddiant mawr eleni a chodwyd digon o elw i dalu am y stondin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Gwych.

Y We

Diolch i Denis Roberts a Keith Parry am eu gwaith yn diweddaru'r safle we.