123 | 122 | 121 | 120 | 119 | 118 | 117 | 116 | 115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106

Adroddiad y Prif Weithredwr
Rhifyn y Gaeaf 2014

Y Brifwyl yn Llanelli

Bu'r Genedlaethol yn llwyddiant mawr i'r Gymdeithas eto eleni. Cafwyd cyfle i gyfarfod ag aelodau, a llwyddwyd i ddenu rhai newydd i'r gorlan. Buom yn ffodus i gael y Dr. Don Treharne i draddodi darlith y Gymdeithas ar y testun 'Golwg ar Helyntion Becca ym Mro'r Eisteddfod'. Cafwyd cynulleidfa deilwng. I'r rhai ohonoch a fethodd y ddarlith, cyhoeddir rhan gyntaf y ddarlith yn y rhifyn hwn. Diolch, hefyd, i Buddug Medi am gadeirio mor ddeheuig.

Rydym fel Gymdeithas yn hynod ffodus o Helga, a roddodd o'i hamser prin i warchod y stondin, i demtio tanysgrifwyr newydd ac i annog eisteddfodwyr i brynu tocynnau raffl, a hynny ar hyd yr wythnos. Diolch i eraill, hefyd, am eu hamser yn gofalu am y stondin.

Y Raffl Flynyddol

Mae'r raffl wedi bod yn Ilwyddiannus iawn eto eleni, ac mae ei chynnal yn fodd i ni dalu am y babel] ar faes yr Eisteddfod. Mae'n codi ein talon, hefyd, i gael cynifer ohonoch yn anfon rhoddion yn ychwanegol at dal y raffl. Ac yn sgil y rhai sydd wedi arwyddo ffurflen y Rhodd Gymorth cawn elw pellach. Tybed a wnaiff pawb sy'n talu treth ystyried llofnodi'r ffurflen? Cewch enwau'r enillwyr ar dudalen 20.

Ffeiriau Llyfrau

Bu Ffair y Borth yn llwyddiannus iawn eleni eto, a mawr yw ein diolch i Ann Corkett a Bruce Griffiths am eu hegni a'u dyfalbarhad yn ysgwyddo'r holl drefniadau. Mae'r ffair yn achlysur blynyddol erbyn hyn.

Diwrnod Agored

Eleni rydym yn ymweld 5 Gwesty'r Eryrod, Llanrwst. Bydd gennym arlwy helaeth ar eich cyfer. Bydd y tri siaradwr yn siwr o apelio'n fawr, tybiwn i. Gweler yr hysbyseb ar waelod y dudalen.

Gwibdeithiau

Rydym wrthi'n ceisio trefnu gwibdeithiau eto am y flwyddyn nesaf. Rydym am ymweld â Sycharth, a safle yn Sir Fôn, a thaith drwy Ddyffryn Ogwen mewn bws. Os oes gennych unrhyw syniad lle y gellir ymweld ag o, gadewch imi wybod. Rydym yn awyddus i gael gwibdeithiau i wahanol ardaloedd yng Nghymru y flwyddyn nesaf eto. Cewch fwy o wybodaeth yn y rhifyn nesaf.

Yr Olygyddiaeth

Mae Dafydd Chilton bellach wedi cymryd drosodd yr Olygyddiaeth yn llwyr. Ato to y dylid gyrru pob erthygl o hyn ymlaen. Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddo. Bydd y Gymdeithas a'r Casglwr yn sicr mewn dwylo diogel am flynyddoedd i ddod.

Y Gadeiryddiaeth

Mae Buddug Medi, ein Cadeirydd, wedi cytuno i ysgwyddo'r swydd tan y Diwrnod Agored. Diolch iddi am ei chefnogaeth. Diolch iddi am ei chefnogaeth barod.

Y We

Cofiwch am y safle We. Cymerwch gyfle i droi iddi. Diolch i Denis Roberts a Keith Parry am eu dyfalbarhad.