123 | 122 | 121 | 120 | 119 | 118 | 117 | 116 | 115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106

Adroddiad y Prif Weithredwr
Rhif 120 ~ Rhifyn yr Haf 2017

Y Diwrnod Agored yn Llanuwchllyn

Bu'r Diwrnod Agored yng Ngwesty'r Eryrod, Llanuwchllyn yn llwyddiant ysgubol.
Cafwyd cynulleidfa deilwng iawn o dros saith deg o aelodau yn gwrando ar Huw Edwards, Bob Morris a Gwenan Gibbard. Cewch fwy o'r hanes ar dudalen 28.
Cefnogwyd yr achlysur gan yr Academi.

Y Cyfarfod Blynyddol

Cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol ar ddiwedd y Diwrnod Agored ac arhosodd nifer dda o'r aelodau ar ei gyfer.
Eglurodd yr Ysgrifennydd fod digon o aelodau wedi ymateb yn gadarnhaol i'r cais i newid y cworwm i 20 aelod yn hytrach na chwarter yr aelodau, newid sy'n angenrheidiol i alluogi'r Gymdeithas ddiwygio'r Cyfansoddiad yn ô1 yr angen.
Diolchwyd i'r Ysgrifennydd am ei dygnwch a'i dyfalbarhad yn bwrw'r maen i'r wal.

Ffeiriau Llyfrau

Cynhaliwyd y Ffair Lyfrau yn Y Morlan, Aberystwyth ar Mai 20.
Bu'r achlysur yn llwyddiant mawr gyda dros 150 yn mynychu'r diwrnod. Diolch i Gwyn Tudur a'i gyfeillion am fynd i drafferth i'w threfnu.
Mae'r Gymdeithas yn ddiolchgar iawn iddynt am eu hymroddiad blynyddol ac am yr holl stondinwyr a gefnogodd yr achlysur.
Cynhelir Ffair y Borth yn Ysgol David Hughes Hydref 14. Mae croeso ichi osod stondin yno trwy gysylltu ag Ann Corkett.

Gwibdeithiau

Bu gwibdaith i'r Las Ynys yn hynod lwyddiannus gyda dros ugain yn cefnogi'r daith.
Diolch i Elfed a Mathew am ein tywys o amgylch y tŷ diddorol. Roedd gweld llun Salem yng nghapel Salem yn binacl i'r diwrnod. Gorffennwyd y diwrnod gyda gwledd yn Nhafarn y Fictoria, Llanbedr. Diolch i Mai Jones am awgrymu'r daith.
Daeth dau ddwsin ar y wibdaith o gwmpas Eglwys Rug a Llangar. Ymwelwyd hefyd â Byd Mary Jones yn Llanycil a chafwyd lluniaeth yn y Llew Gwyn, Y Bala.
Os oes gennych unrhyw syniad lle y gellir ymweld ag o yn y dyfodol, gadewch imi wybod. Rydym yn awyddus iawn i gael gwibdeithiau i wahanol ardaloedd yng Nghymru.

Y Brifwyl ym Môn

Cawn gyfle yma i gyfarfod ag aelodau ffyddlon ac i geisio denu mwy i'r gorlan. Dyma ffenestr siop y Gymdeithas.
Rydym yn ffodus i gael John Richard Jones i draddodi'r ddarlith flynyddol ar 'Meddygon Esgyrn Mon' a hynny ar brynhawn Mawrth yr Ŵyl.

Y Raffl Flynyddol

Cynhelir raffl eto eleni ac mae ei chynnal yn fodd i ni dalu am y babell ar faes yr Eisteddfod. Mae'n codi ein calon hefyd i gael cynifer ohonoch yn anfon rhoddion yn ychwanegol at dal y raffl, ac yn sgil y rhai sydd wedi arwyddo ffurflen y Rhodd Gymorth, cawn e1w pellach.
Tybed a wnaiff pawb sy'n talu treth ystyried llofnodi'r ffurflen?

Y Tanysgrifiad

Amgeeir Ffurflen Tanysgrifio eto yn y rhifyn hwn ar gyfer y rhai sydd heb ail-ymaelodi drwy'r Banc.
Efallai y gellir denu eraill i dalu trwy'r banc hefyd.

Y We

Diolch i Keith Parry am ei ddyfalbarhad yn ei diweddaru. Trowch i www.casglwr.cymru