CYLCHGRONAU CAERNARFON 1800-1855
gan Maldwyn Thomas

YMDDANGOSODD deunaw o gylchgronau yn nhref Caernarfon yn ystod y blynyddoedd 1800-1856. Yr oedd naw ohonynt yn fisolion, ac fe fu byw tri o'r rhain am gyfnodau hwy na'r gweddill, sef Tywysog Cymru, (1832-33), Cylchgrawn Rhyddid, (1840-42), a'r Amaethydd, (1845-46). Cylchgronau a oedd yn gysylltiedig ag achosion pendant oedd y tri, ac argraffwyd hwy yn swyddfa'r Herald.

Efallai bod y cyswllt hwn â swyddfa'r Herald, wedi bod yn gymorth wrth ddosbarthu'r cylchgronau hyn, er nad yr un, o gryn dipyn, oedd darllenwyr y misolion a darllenwyr y Carnarvon and Denbigh Herald wythnosol.

Eithr y misolyn a fu byw hwyaf oedd Trysorfa Yr Ieuenctid, a gyhoeddwyd ddau ddwsin o weithiau o Ionawr 1833. Y cyhoeddiad bychan gwylaidd hwn oedd mentr gyntaf Josiah Thomas Jones ar faes y cyfnodolion - ac ef, hyd y gwyddys, oedd y lleiaf profiadol o'r holl argraffwyr a'r cyhoeddwyr a fu yn ymhél â chylchgronau yng Nghaernarfon yn ystod y cyfnod sydd dan sylw yma.

Ond yr oedd trefn ar waith Josiah Thomas Jones - ef a'r Parch William Jones, Amlwch, golygydd y cylchgrawn, a oedd yn rhannu'r cyfrifoldeb am gasglu dyledion ynglŷn â'r cyhoeddiad yn siroedd y gogledd.

Yma eto yr oedd cyswllt rhwng Trysorfa yr Ieuenctid a chorff pendant, yn yr achos hwn yr oedd dolen rhwng y cylchgrawn a mudiad grymusaf y cyfnod, sef yr Ysgolion Sul Anghydffurfiol.

***

HANES o gyhoeddi byrhoedlog neu o ymddangosiad afreolaidd oedd hynt y cylchgronau eraill ymysg y deunaw. Ond yr oedd un dyhead yn uno amryw o gyhoeddwyr y cylchgronau hyn â'i gilydd - sef yr awydd poenus hwnnw am gyflwyno newyddion diweddar a ffres ar gyfer eu darllenwyr.

Thomas Roberts, argraffydd cyntaf Caernarfon, a gychwynnodd y busnes newyddion yn y dref, pan geisiodd gynnig y math hwn o wasanaeth ar dudalennau'r Greal, (1800), gyda'i 'Newyddion Cartrefol a Phellenig', er nad oedd arafwch blin ymddangosiad rhifyn Ionawr o'r cylchgrawn yn argoeli'n dda am lwyddiant mawr yn y maes arbennig yma. Yr oedd cyflwyno newyddion yn rhan bendant a chyhoeddus o bolisi hyrwyddwyr Cylchgrawn Rhyddid, (1840) a Humphreys' General Advertiser, (1852).

Nid ymddangosodd yr un cylchgrawn yng Nghaernarfon am bedair blynedd ar bymtheg ar ôl tranc Yr Eurgrawn (1897). Ar y llaw arall yr oedd y tri degau a'r pedwar degau - blynyddoedd enwadol a gwleidyddol byrlymus yng Nghymru - yn gyfnod toreithiog yn hanes cylchgronau'r dref.

Cymraeg oedd iaith pob un o'r deunaw heblaw am yr Anti-Figaro (?), (1854), (?), a oedd, yn ôl gair John Davies 'Gwyneddon', yn gyhoeddiad dwyieithog, a'r misolyn Saesneg Humphreys' General Advertiser, (1852). Prin yw'r dystiolaeth am gylchrediad y mwyafrif o'r cyhoeddiadau hyn.

Yr oedd deunydd y cylchgronau yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth gyffredinol a gwybodaeth lenyddol, gyda phwyslais amlwg yn y rhan fwyaf ohonynt ar destunau crefyddol - yr oedd Y Greal, (1800), Yr Eurgrawn, (1807), Y Sylwedydd, (1831), yn amlwg yn y dosbarth hwn. Cyhoeddwyd pump o gylchgronau, sef Trysor i'r Ieuangc, (1826), Y Wawr-Ddydd, (1830), Trysorfa yr Ieuenctid, (1833), Cylchgrawn Yr Ysgol Sabbothol, (1854) a'r Esboniadur, (1854), yn benodol ar gyfer amryfal anghenion disgyblion ac athrawon yr Ysgolion Sul. Dyma batrwm a barhaodd yn hanes gweisg Caernarfon ar hyd y blynyddoedd.

  Teitl Argraffydd/wyr Cyhoeddwr/wyr Dyddiad/au Amcan
1. Greal Thomas Roberts Evan Pritchard, 'Ieuan Lleyn', David Thomas, 'Dafydd Ddu Eryri', a 2 hyrwyddwr  1800, 1 rhifyn Ar gyfer oedolion; gwybodaeth gyffredinol ac ystyriaethau crefyddol; newyddion
2. Trysorfa  Gwybodaeth neu Eurgrawn Cymraeg Thomas Roberts 'MrGriffith', ficer Caernarfon; David Thomas, 'Dafydd Ddu Eryri'; Peter Bailey Williams a 3 hyrwyddwr 2 rifyn afreolaidd, 1af, 4 Ebrill 1807 - 20 Meh. 1807; 2ail, 1808 Ar gyfer oedolion; gwybodaeth grefyddol a chyffredinol; peth newyddion
3. Trysor I'r Ieuangc Trysor
I'r Ieuangctid
(2 deitl)
Peter Evans   Misolyn, Mai 1826-Ebrill 1827. Ar gyfer plant a ieuenctid Ysgolion Sul M.C. sie Gaernarfon
4. Y Waer-Ddydd Peter Evans   Misolyn. Ion-Gorff 1830. Ar gyfer ieuenctid; crefyddol
5. Y Sylwedydd R.M.Preece a'i gwmni William Williams, 'Caledfryn' Misolyn, Llannerch-y-medd, Ion-Gorff 1831; Caernarfon, Awst 1831-Rhag 1831. Oedolion; cyffredinol, crefyddol, natur daearyddiaeth
6. Tywysog Cymru Wm. Potter a'i gwmni Y Parch. J.P.Thomas, Bangor Misolyn. 15 Mai 1832-15 Gorff 1833 Oedolion; cyffredinol; seryddiaeth ac ystyriaethau ieithyddol
7. Trysorfa Yr Ieuenctid Josiah Thomas Jones Josiah Thos. Jones a'r Parch. William Jones, Amlwch mae'n debyg Misolyn. Ion 1833-Rhag 1834 Ar gyfer ieuenctid ac athrawon Ysgolion Sul cyffredinol
8. Seren Ogleddol (1)Josiah Thomas Jones Josiah Thos. Jones; Hugh Hughes; 'Cristion'; William Williams, 'Caledfryn' Misolyn. Ion 1835-Mai 1836 Oedolion, Anghydffurfiol enwadol; gwybodaeth gyffredinol; newyddion
8. Seren Ogleddol (2) James Rees Hugh Hughes, 'Cristion'; William Williams, 'Caledfryn' Misolyn. Meh-Gorff 1836 Oedolion, Anghydffurfiol enwadol; gwybodaeth gyffredinol; newyddion
9. Yr Adolygydd Lewis Evan Jones   Misolyn. Mawrth 1838-Chwef 1839 Oedolion, hyrwyddo cymedroldeb, nid dirwest
10. Y Drysorfa Hynafiaethol James Rees a John Jones, Llanrwst Owen Williams, 'Owain Gwyrfai' Afreolaidd. 1838-c.1842 Oedolion, hynafiaethol
11. Cylchgrawn Rhyddid James Rees 'Cynghrair Deddfau Yr Ŷd Yng Nghymru' Misolyn. Hyd 1840-15 Ebrill 1842 Oedolion; Dileu deddfau'r ŷd
12. Anti-Figaro Lewis Evan Jones John William Hughes, 'Edeyrn ap Nudd' Dim manylion heblaw '1843' Oedolion. gwrthradicalaidd, eglwysig
13. Yr Amaethydd James Rees James Rees Misolyn. 4 Ion 1845-3 Hyd 1846 Amaethwyr. Hyrwyddo diwygiadau amaethyddol
14. Yr Athraw Dirwestol James Rees 'Cyfundeb Dirwestol Gogledd Cymru' Misolyn. Hyd 1850-Rhag 1850 Oedolion. Dirwestol
15. Humphreys' General Advertiser Hugh Humphreys Hugh Humphreys Misolyn. Medi 1852-Awst 1853 Oedolion. Manylion am amserau trenau, a hysbysebu
16. Amddiffynydd Y ffydd A'r Cyfansoddiad Wesleyaidd Hugh Humphreys Hugh Humphreys a'r Parch. William Rowlands, 'Gwilym Lleyn' Chwarterol afreolaidd. 1853-1854 Oedolion. Hyrwyddo'r achos Wesleaidd
17. Cylchgrawn Yr Ysgol Sabbothol Thomas Jones Evans,
mae'n debyg
Thomas Jones Evans 1 rhifyn Ion 1854 Oedolion. Ar gyfer athrawon Ysgolion Sul y M.C.
18. Yr Esboniwr Thomas Jones Evans Thomas Jones Evans 1 rhifyn Chwef 1854 Oedolion. Cyffredinol, at wasanaeth aelodau Ysgolion Sul y M.C.