ADAR CYMREIG AR DDU A GWYN ~ Arolwg Huw Edwards

YN Y dyfyniad uchod o ganu Heledd (diweddariad gan Gwyn Thomas) mae Heledd yn clywed crio dychrynllyd yr eryr ac yn meddwl am ei hanwyliaid yn ysglyfaeth iddo. Mae'n ein hatgoffa bod digon o gyfeiriadau at adar mewn barddoniaeth Gymraeg er y cyfnod cynharaf.

Gwelwn hyn ar ei fwyaf ysblennydd yn rhai o gywyddau gorau Dafydd ap Gwilym (lle ceir sn am ryw ugain rhywogaeth o adar) ac yn rhai o gerddi natur R. Williams Parry. Yng nghyfraith Hywel, wedyn, ceir digon o gyfeiriadau at hebogau, hebogyddiaeth ac ysglyfaeth yr hebog.

Y cyntaf i gofnodi rhai o'r adar a welodd ar ei deithiau oedd Gerallt Gymro. Nid oedd ganddo ryw lawer o ddiddordeb ynddynt ond mae rhai o'r sylwadau'n ddigon diddorol, serch hynny, e.e.

"Clywir yn y coed cyfagos chwibaniad pereiddlais aderyn bach, y dywedodd rhai mai cnocell y coed ydoedd, ond eraill, yn fwy cywir, mai peneuryn. Cnocell y coed y gelwir yr aderyn bach, yr hwn a alwyd pic yn yr iaith Ffrangeg, a dylla'r dderwen 'i ylfin cryf . . A pheneuryn y gelwir aderyn bach hynod am ei liw euraid a melyn, a ddyry, yn ei dymor priodol, yn lle cn, chwibaniad melys; ac oddi wrth ei liw euraid y derbyniodd ei enw, peneuryn."

Tybed ai euryn (golden oriole) oedd yr aderyn a glywodd Gerallt neu, fel y tybiai ei gyfeillion, cnocell werdd?

O gofio am y cyfoeth o gyfeiriadau at adar yn ein llenyddiaeth gynnar, mae'n destun tristwch fod y Cymry wedi dangos cyn lleied o ddiddordeb mewn adar, o leiaf tan y ganrif hon. Saeson, gan mwyaf, oedd y rhai a astudiodd adar Cymru ac a ysgrifennodd lyfrau amdanynt.

Ac eithrio llyfrau ar gyfer plant, mae'r nifer o lyfrau a ysgrifennwyd yn Gymraeg ar adar yn dal i fod yn druenus o fychan. Down yn l at yr ychydig lyfrau hyn yn nes ymlaen ond, yn anffodus, rhaid rhoi'r flaenoriaeth yn yr ysgrif hon i'r llu o lyfrau a ysgrifennwyd yn Saesneg ar adar ein gwlad.

***

UN O'R rhai cyntaf o blith y Saeson i sylwi ar adar Cymru oedd yr hynafiaethydd John Leland a ymwelodd Chymru rhwng 1536 a 1539. Nid oedd yn fawr o naturiaethwr ond mae ei gyfeiriad at eryr a oedd yn nythu yn ymyl Castell Dinas Brin, ger Llangollen, yn ddigon diddorol:

Yn y ganrif ddilynol gwelodd un Cymro yn dda i restru holl adar ei hoff sir. Yn ei Description of Pembrokeshire (1603) mae George Owen yn sn am yr 'abondance of foule that the County yeeldeth, and of the severall sortes thereof.'

Y mae'n disgrifio tua deugain rhywogaeth i gyd, gan gynnwys 'wild geese, Whyniardes (Hwyaden Lydanbig), the Puett (Gwylan Benddu), the Curlew Knave (Coegylfinir), the gwylim (Gwylog), the sheldrake, both sorts of dyvers or dippers, the pilwater (Pl Manaw), the Wigion, Cootes which allso keepe in Companies, sea pies (Piod y Mr), and sea crowes (mulfran). . .'

Ni ellir dibynnu ar ei farn bob amser ac y mae'n ddigon hygoelus i ail-adrodd yr hen goel am yr Ŵydd Wyran (Barnacle Goose):

***

NI DDAETH unrhyw naturiaethwr o fri i Gymru tan ganol yr ail ganrif-ar-bymtheg. Y cyntaf ohonynt oedd Thomas Johnson, a ddaeth ym 1639, ond llysieuydd yn hytrach nag adarydd oedd Johnson. Yna, ym 1658, ac eto ym 1662, ymwelodd John Ray a Francis Willughby Chymru. Hwy oedd naturiaethwyr enwocaf Lloegr yn y cyfnod hwn.

Yn fuan ar l hynny daeth Edward Lhuyd a oedd nid yn unig yn Gymro Cymraeg ac yn ieithydd o fri ond efallai'r naturiaethwr mwyaf a weithiodd yng Nghymru erioed (addas iawn oedd enwi'r Gymdeithas gyntaf o naturiaethwyr Cymraeg, a ffurfiwyd yn ddiweddar, ar l y gŵr mawr hwn).

Er mai llysieueg oedd ei brif ddiddordeb yntau, 'roedd ei nodiadau'n cynnwys llawer o wybodaeth am adar. Collwyd hwy pan losgwyd llyfrgell Thomas Johnes o'r Hafod ym 1810.

Cymro arall, Thomas Pennant, oedd un o brif naturiaethwyr Prydain yn y ddeunawfed ganrif. Agorodd ei Literary Life gyda'r geiriau:

Un o brif ohebwyr Pennant oedd Gilbert White a chasgliad o'r llythyrau a ddanfonodd ef at Pennant (ac at y barnwr Daines Barrington) yw prif gynnwys y clasur hwnnw 'The Natural History of Selborne'. Cyhoeddodd Pennant ei British Zoology ym 1766, ei Tour in Scotland yn 1771, ei Genera of Birds ym 1773 a'i History of Quadrupeds yn 1781. Mae'r Tour in Scotland yn llawn cyfeiriadau at adar, ond, yn anffodus, ychydig iawn sydd ganddo i'w ddweud am adar Cymru yn ei Tours in Wales (1778 a 1784) er mor ddifyr ydynt. Yn l H.E. Forrest cyflwynodd y 'teithiau yng Nghymru wybodaeth i'r Sais am wlad a fu, hyd yn hyn, mor ddieithr iddo Chanolbarth Affrica.

***

DAETH llu o ymwelwyr i Gymru ar l 1800, ac yn sgl gweithiau Pennant, a chyhoeddwyd nifer o deithlyfrau ar eu cyfer. Fe gynnwys rhai o'r llyfrau hyn wybodaeth am adar ac anifeiliaid y cylch e.e. The History and Antiquities of the Town of Aberconwy (1835) gan yr ysgolhaig Celtaidd Robert Williams lle ceir rhestr fanwl o adar yr ardal, a'r Llandudno Visitors' Handbook (1855) gan Richard Parry ('Gwalchmai').

Yn hanner ola'r ganrif ddiwethaf daeth yr arfer o saethu adar er mwyn eu stwffio a'u gosod mewn cas gwydr, yn boblogaidd iawn ac mae llyfrau adar y cyfnod yn llawn ymadroddion megis 'sent to the taxidermist'. Serch hynny, nid oedd pob adarwr mor ddinistriol a dechreuwyd ar y gwaith o gofnodi manylion ynglŷn ag adar y gwahanol siroedd.

Credaf mai'r llawlyfr cyntaf ar adar unrhyw sir yng Nghymru oedd The Birds of Pembrokeshire and its Islands (1894) gan y Parchedig Murray A. Mathew. Gŵr o Wlad-yr-haf oedd Mathew ond symudodd i Benfro er mwyn ei iechyd. Y mae'n disgrifio'i waith, yn ostyngedig iawn, fel rhywbeth digon tlawd a di-nod ac mae'n dweud ei fod yn ei gyhoeddi yn y gobaith y bydd yn sail i astudiaeth fwy cyflawn o adar y Sir.

Credir mai dyma'r llyfr cyntaf i gynnwys ffotograffau o adar gwyllt yn eu cynefin, sef ffotograffau o Wylanwyddau ac o Wylanod Coesddu. Dilynwyd hwn yn fuan gan The Birds of Breconshire (1899) o waith E. Cambridge Phillips, Clerc Ynadon Sir Frycheiniog.

Mae'n weddol sicr i adar Sir Benfro gael mwy o sylw nag adar unrhyw sir arall yng Nghymru. ApI ynysoedd Skokholm, Skomer a Grassholm sydd i raddau helaeth yn gyfrifol am y sylw hwn ynghyd llyfrau Ronald M. Lockley ar adar yr ynysoedd hyn. Bu'n byw ar ynys Skokholm am flynyddoedd ac ysgrifennodd lawer am ei brofiadau wrth astudio adar yr ynys hon a'r ynysoedd cyfagos mewn cyfrolau megis Dream Island, a record of the simple life (1930), I Know an Island (1938) , Island Days (1934), The Way to an Island (1941), Letters from Skokholm (1947) a The Island (1969).

Hefyd, cyhoeddodd ef a J. Buxton astudiaeth: Island of Skomer ym 1950 a chyhoeddodd Cymdeithas Naturiaethwyr Gorllewin Cymru The Birds of Pembrokeshire (1949) o'i waith ef ynghyd Geoffrey C.S. Ingram ac H. Morrey Salmon.

Y gwaith diweddaraf ar adar y sir yw A Guide to the Birds of Pembrokeshire gan David Saunders (1976). Ni ddylid anghofio am un arall o weithiau Lockley, The Naturalist in Wales (1970), sy'n cynnwys llawer o wybodaeth am adar.

***

MAE A Handbook of the National History of Carmarthenshire gan T.W. Barker (1905) yn cynnwys rhestr o adar y sir. Cyhoeddodd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd y llyfr cyntaf ar adar Morgannwg, o waith Robert Drane, gŵr o East Anglia a oedd yn byw yng Nghaerdydd, ym 1900. Cyhoeddodd y Gymdeithas lyfr arall ym 1927 a'r trydydd ym 1936 o waith Geoffrey Ingram a H. Morrey Salmon (cyhoeddwyd fersiwn diwygiedig o'r gwaith hwn ym 1967).

Bu Ingram a Morrey Salmon yn arbennig o weithgar yn casglu gwybodaeth ac yn cyhoeddi llyfrau ar adar y gwahanol siroedd. Heblaw am y rhai a restrwyd eisoes, eu gwaith hwy oedd The Birds of Monmouthshire (1936 a 1963), A Handlist of the Birds of Carmarthenshire (1954), A Handlist of the Birds of Radnorshire (1955) a The Birds of Brecknock (1957). Eu gwaith hwy hefyd, gyda chymorth W.M. Condry, oedd The Birds of Cardiganshire (1966).

Cyhoeddodd H.E. Forrest, brodor o Sir Amwythig, ei waith anferth ac arloesol ar adar ac anifeiliaid Gogledd Cymru, The Vertebrate Fauna of North Wales ym 1907 (ychwanegwyd atodiad ym 1919). Mae'r gwaith hwn yn rhestru pob cofnod ar gyfer pob aderyn ac anifail a welir yng Ngogledd Cymru ac yn ffrwyth llafur enfawr a chwilio dyfal iawn (mae'r adran ar adar yn unig dros 349 o dudalennau).

Er gwaethaf anogaeth taer Forrest a'r addewid am gymorth, ni wnaeth neb ymgymryd 'r gwaith o gyhoeddi cyfrol debyg ar ffauna De Cymru.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf cyhoeddwyd llyfrau am adar hen siroedd y gogledd. Cyhoeddodd Cymdeithas Ornitholegol Sir Fflint The Birds of Flintshire ym 1968 ac yn fwy diweddar cafwyd The Birds of Merioneth gan Peter Hope Jones (1976) a The Birds of Caernarvonshire gan Peter Hope Jones a Peter Dore yn ystod yr un flwyddyn. Mae'r ddau olaf hyn yn arbennig o dda ac yn cynnwys llawer iawn o wybodaeth.

Ni chyhoeddwyd llyfr ar adar Mn hyd yn hyn, er bod y gyfrol ardderchog Natural History of Anglesey (gol. W. Eifion Jones) a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Hynafiaethwyr Mn ym 1968, yn cynnwys pennod gan T.G. Walker ar adar yr ynys.

Y llyfr diweddaraf ar adar un o siroedd Cymru, ac un o'r goreuon, yw The Birds of Gwent a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Ornitholegol Gwent ym 1977. Ynddo ceir rhestr o'r prif safleoedd ynghyd manylion am adar y glannau ac adar mudol ac am ddosbarthiad yr adar sy'n bridio yn y sir.

***

CYHOEDDWYD nifer o weithiau cyffredinol ar adar Cymru yn ystod hanner cynta'r ganrif hon. Y cyntaf ohonynt oedd Bird Life in Wild Wales (1903) gan John A. Walpole-Bond (pwy fuasai'n meddwl mai Sais oedd yntau!). Ynddo mae'r awdur yn disgrifio'i brofiadau wrth wylio adar yng nghanolbarth Cymru ac yn ardal Dinbych y Pysgod.

Mae'n waith digon swynol er bod yr arddull braidd yn rhwysgfawr ac ychydig yn nawddogol ar brydiau. Yn ffodus, y mae'n llawer rhy besimistaidd wrth sn am ddylanwad erledigaeth ar ran ciperiaid ac eraill ar dynged y barcud a'r boda:

Rhyfedd meddwl fod y boda, neu'r bwncath, sydd mor gyffredin yn awr, yn aderyn prin ar droad y ganrif. Mae'r gyfrol hon yn cynnwys nifer mawr o ffotograffau o nythod adar, gan mwyaf (cymaint haws yw tynnu llun y nyth yn hytrach na'r aderyn ei hun!), gan Oliver Pike a oedd yn un o'r arloeswyr cynnar ymhlith ffotograffwyr adar.

***

YMGAIS gynnar i gynnwys holl rychwant byd natur yng Nghymru o fewn cloriau un llyfr oedd gwaith George Bolam, Wild Life in Wales. Cyhoeddwyd y gyfrol hon ym 1913 ond fe'i hysgrifennwyd rai blynyddoedd yn gynharach. Mae'n waith difyr a hamddenol ac, erbyn hyn, mae'n ddogfen hanesyddol sy'n cynnwys manylion am ddosbarthiad y gwahanol rywogaethau ar droad y ganrif.

Llyfrau eraill sy'n cynnwys llawer o wybodaeth am adar yng Nghymru yw Bird Haunts and Nature Memories (1922) gan T.A. Coward; Watchings and Wanderings among Birds (1931) gan H.A. Gilbert ac Arthur Brook a Birds in Britain Today (1933) gan Geoffrey C. S. Ingram a H. Morrey Salmon.

Yn sicr ni ddylid anwybyddu dau lyfryn a gyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Y cyntaf oedd Changes in the Fauna of Wales within Historic Times gan Colin Matheson (1932) sy'n cynnwys pennod ar adar nad ydynt bellach yn bridio yng Nghymru, megis bod y ml (honey buzzard), aderyn y bwn (a ddychwelodd i Gymru i fridio ar ddiwedd y chwe degau), y llwybig a'r garan (crane).

Ym 1961 cyhoeddodd yr Amgueddfa ddetholiad o ffotograffau gorau Arthur Brook o dan y teitl Birds of Wales (ail arg. 1967). Gŵr o Lanfair-ym-Muallt oedd Arthur Brook (1886-1957); dechreuodd dynnu lluniau adar Cymru ym 1909 a daliodd at y gwaith tan ddiwedd 1956 llafur oes yn wir. Ef oedd un o'r rhai cyntaf i ddatblygu offer ar gyfer tynnu lluniau adar yn y nos gyda chymorth fflachlamp.

Gadawodd ei gasgliad o 2,700 o negatifau i'r Amgueddfa a chyhoeddwyd rhai o'r lluniau gorau yn y llyfryn hwn.

Yr unig lawlyfr cynhwysfawr ar adar Cymru gyfan yw A Guide to the Birds of Wales gan David Saunders (1974). Yn y gyfrol benigamp hon ceir disgrifiad o bob un o'r hen siroedd, rhestrir y safleoedd gorau ar gyfer gwylio adar gan roddi manylion am y gwahanol rywogaethau a welir yno, ynghyd manylion am y cymdeithasau lleol, llyfrau ac adroddiadau am adar pob sir.

***

TROWN o'r diwedd at yr ychydig lyfrau Cymraeg ar adar. Y cyntaf, a'r mwyaf uchelgeisiol ar lawer cyfrif, oedd Adar ein Gwlad gan John Ashton a gyhoeddwyd gan Spurell yng Nghaerfyrddin ym 1906.

Mae'n dechrau'r gwaith gyda nodiadau cyffredinol ar adar ac yna'n mynd ymlaen i'w dosbarthu yn l eu teuluoedd (gan ddefnyddio'r enwau Lladin) a chynnig paragraff disgrifiadol o bob rhywogaeth. Rhydd y dyfyniad canlynol, (am y barcud unwaith eto) syniad go lew am gynnwys ac arddull y llyfr:‑

***

ER NAD wyf am sn am lyfrau plant, teg yw cydnabod ymdrechion Richard Morgan yn y cyfeiriad hwn ar ddechrau'r ganrif hon (Tro Trwy'r Wig; Llyfr I, II a III, Wrecsam, 1906; Llyfr Adar, Wrecsam 1907, a Rhamant y Gog Lwydlas, Wrecsam, 1925).

Mae'n debyg mai'r llyfrau Cymraeg mwyaf adnabyddus yw Adar y Glannau gan T. Walker (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1955 cyhoeddwyd fersiwn Saesneg ym 1956, gyda llaw), ac Yr Adar Mn gan E.V. Breeze Jones (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Yr un yw cynllun y ddau lyfr, sef disgrifiad gweddol gryno o bob aderyn ynghyd ffotograffau da ohonynt. Serch hynny, teg yw dweud mai gweithiau 'poblogaidd' ydynt yn hytrach na llyfrau ar gyfer yr adarwr profiadol ac ymroddedig.

***

YN OLAF, ond nid lleiaf, cyhoeddodd Gwasg y Brifysgol Casgliad o Enwau Adar gan Meirion Parry, ym 1962, a chyhoeddodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru Rhestr o Adar Cymru gan P . Hope Jones ac E.V. Breeze Jones ym 1973.

Mae Meirion Parry'n cynnwys yr holl enwau lleol a geir drwy'r wlad, e.e. cynigir Mulfran, Morfran, Bili Dowcar, Colier, Wil Wal Waliog a Llanc Llandudno ar gyfer yr aderyn a enwir yn Cormorant yn Saesneg.

Gwelwyd bod angen un enw safonol ar bob rhywogaeth o adar, er mwyn osgoi gorfod cynnwys yr enw Saesneg bob tro, rhag achosi camddealltwriaeth. Ymgais i ateb yr angen hwn yw gwaith Hope Jones a Breeze Jones. Maent yn cynnig un enw Cymraeg, ynghyd 'r enwau Lladin a Saesneg, ac hefyd yn nodi safle a dosbarthiad pob rhywogaeth.