NED MÔN gan Dafydd Wyn Wiliam

FE'M sicrheir gan lyfrgellydd presennol Y Deml Fewnol, Llundain nad oes cofnod am Edward Jones ('Ned Môn' g. 1751-2) yn fyfyriwr yno. Ymddengys felly mai clerc i gyfreithiwr ydoedd a'i fod yn preswylio yn Y Deml Fewnol. Sylwer mai 'Edward Jones, Inner-Temple' a roddir fel awdur Cyfreithiau Plwyf ac yn union fel y gwnaed ar derfyn Index To Records fe roddir hefyd 'Inner Temple' a'r dyddiad ar derfyn cyflwyniad Cyfreithiau Plwyf.

Y mae'n annhebygol iawn fod dau ŵr o'r un enw ac o'r un lle yn ysgrifennu llyfrau ar destunau cyfreithiol tua'r un amser. Edward Jones ('Ned Môn') yw awdur y cyfrolau Saesneg (1795) a'r gyfrol Gymraeg (1794).

Yn ei lith 'At y Darllennydd' ar ddechrau Cyfreithiau Plwyf t. v fe ddyfynna'r awdur linellau o draethawd Walter Davies ('Gwallter Mechain' 1761-1849) ar 'Ryddid' ac â rhagddo i ddweud am y traethodwr: 'I'r gŵr yma mae yr Awdwr yn rhwymedig am gyfieithiad o barth mawr o'r gwaith hyn . . .' Cofnoda hefyd ei ddyled i ŵr arall 'ac hefyd i'r cyfaill  . . . am ei fanwl olygiad o'r argraffwasg . . .'

Awgryma'r dyfyniad cyntaf fod Edward Jones wedi ysgrifennu'r rhan helaethaf, onid y cyfan, o Cyfreithiau Plwyf yn Saesneg a bod Gwallter Mechain wedi ei drosi i'r Gymraeg. Mae'n werth sylwi bod cyfrol Saesneg ar yr un testun wedi ei chyhoeddi ddwy flynedd ynghynt – E. Newton, Whole duty of parish officers (London 1792). Nid oes copi o'r gyfrol yn y Llyfrgell Brydeinig. Fe ddichon bod Ned Môn wedi patrymu ei waith ar gyfrol Newton. Dengys yr ail ddyfyniad uchod fod William Owen Pughe gyda'i gymwynasgarwch arferol wedi llywio cyfrol Ned Môn drwy'r wasg. Dengys dyddiaduron Pughe sydd ynghadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru fod Ned Môn ac yntau yn arddel ei gilydd ymhen blynyddoedd wedi hynny. Cyfeiria'r dyddiadurwr yn gynnil ato bedair gwaith yn 1820 (13 Ebrill, 27 Mehefin, 6 Tachwedd a 21 Rhagfyr).

Yn ystod Awst 1829 yr oedd Pughe yn Abergwaun a chyfarfu ag 'E. Jones Môn' yno am dri diwrnod yn olynol (21-23 Awst). Yn niwedd ei oes fe symudodd y dyddiadurwr i Gymru i fyw ac ar 12 Tachwedd 1831 cofnoda iddo gael ymwelydd – 'Galwai Ed. Jones gynt o Von.'

***

YMDDIDDORAI Edward Jones a'i frawd Owen yng ngweithgarwch Pughe a phan gyhoeddodd yr olaf Barddoniaeth Dafydd Ab Gwilym (1789) fe gydnebydd yn y rhagair t. xxxii ei ddyled iddynt hwy ac eraill. Gwyddys bod Edward Jones yn ymhel â llsgrau a llyfrau oherwydd cafodd fenthyg 'the Extent of Anglesey' gan Owain Myfyr a bu ganddo 'Tanners Notitia Monastica' yn ei feddiant. Heblaw hyn yr oedd yn gryn areithiwr.

Flwyddyn ar ôl marw David Samwell fe gyhoeddwyd ei Padouca Hunt (1799) sef cerdd Saesneg yn darlunio'r Gymdeithas Gymraeg yn Llundain yn ymddadlau ynghylch hanes Madog. Yr oedd Edward ac Owen Jones ei frawd yn bresennol adeg y ddadl. Tua'i diwedd fe gyflwynir Edward Jones yn dadlau'n gryf yn erbyn dilysrwydd hanes Madog ac fe neilltuir deunaw pennill pedair llinell i'w ddadl.

A chofio mai cyfreithiwr ydoedd nid syn inni ddarllen iddo fynnu 'Some sort of legal proof' cyn derbyn y traddodiad am Fadog.

***

ADEG ei ymweliad â William Owen Pughe yn Nhachwedd 1831 yr oedd Edward Jones yn nesu at bedwar ugain oed. Dywaid Leathart tt. 37 a 39 ei fod yn byw ym Mharis. Fe'm sicrheir nad yw ei ewyllys ar glawr yn ystod y cyfnod 1831-37. Leathart hefyd t.38 sy'n dweud bod Owen Jones, brawd Edward, a adwaenid fel 'Cor y Cyrtie' yn fyw yn 1800 a'i fod wedi marw cyn 1830. Diogelwyd un llythyr dyddiedig 8 Mawrth 1798 yn llaw William Jones yn Llyfrgell Coleg y Gogledd, Casgliad Cyffredinol 1110, rhif 49.

Sylwer nad oedd William Jones ('Bardd Môn' 1778-1819) yn frawd i Edward ac Owen Jones o Feiriogan ym Mhlwyf Llanddeusant. Brodor o Fodedern oedd William Jones. Tybiai Gwilym Lleyn t. 692 fod Edward Jones yn awdur cyfrol arall:

Ni welais ateg i dybiaeth Gwilym Lleyn. A bwrw mai Ned Môn oedd awdur y gyfrol fe'i hargraffwyd pan oedd tua phedair ar hugain oed.

NODYN. Parhad yw'r cyfraniad uchod o erthygl a gyhoeddwyd yn ein rhifyn Nadolig 1979.