Y MANION DIDDAN gan yr Athro B.F.Roberts


Wil Brydydd y Coed a phregeth y Wheel.
YN NINIWEIDRWYDD fy anwybodaeth ni chredwn y gallasai neb ond Wil Brydydd y Coed bregethu ar Ezechiel X.13, `0 Olwyn'. Fel y cofir, un o'i bregethau cynnar oedd hon lle trafodai'i destun, wedi egluro mai emblem ydoedd, yn scientifical, yn fystical ac yn bractical (argraffiad 1949, tdau 70-77). Dichon fod amryw o bregethau ar y testun ond dyma un y deuthum ar ei thraws yn ddiweddar:

Pregeth ar yr Olwynion; sef ychydig sylwadau ar Ezechiel 10.13 "Galwyd hefyd lle y clywais arnynt hwy, sef ar yr olwynion, o olwyn". Gan Thomas Davies, Gweinidog y Bedyddwyr yn Caersalem Newydd, Abertawy: argraffwyd gan E. Griffiths, Heol Fawr. 1844. 20 td.

Nid yw Thomas Davies yn trin ei bwnc yn debyg i Wil. Esbonia ef fod yr olwynion yn weledigaeth gyfrin, guddiedig, ac wedi gosod y cyd-destun rhydd ei dri phen,

Un o'r olwynion yw olwyn barnedigaeth a drôi'n gyflym adeg Noah a Sodom a Gomorah, ond y rymusaf ohonynt yw olwyn Iachawdwriaeth.

***

Angau yn y Crochan
TEITL nofel gan Glyn M. Ashton, yn nhraddodiad Wil Cwch Angau, yw hyn. Cyhoeddwyd hi yn 1969, a gwahanol iawn yw ei thema a'i chynnwys i lyfryn sy'n dwyn yr un teitl:

O II Brenhinoedd 4.40 y cafodd ei bennawd, a dyna'r esboniad ar y dyfyn-nodau, ond dewisodd destun haws ei amgyffred yn sail i'w bregeth, sef Diarhebion 20.1 Dywedir i'r bregeth hon, ar lafar ac mewn print, gael cryn ddylanwad a bod ei syniadau llwyr ymwrthodol yn arloesol yn y cyfnod. Mor fyw oedd ei ddisgrifiadau o feddwdod nes arwain "dau yfwr caredig i gynnig cyfran o chwart iddo, oblegid fod yn rhaid fod y dyn bach hwnnw wedi bod yn yfwr ei hun, cyn byth y gallasai ddarlunio yr yfwyr mor fanwl a chywir."

Mae hanes yr awdur ar gael yn gryno yn Y Bywgraffiadur ac yn y cofiant iddo gan Howell Powell a gyhoeddwyd gan ei weddw (?) Mrs Catherine Rowlands, a'i argraffu yn Utica, 1873. Yn sir Fynwy y bu'n gweinidogaethu fwyaf, yn genhadwr, siopwr, perchennog gwaith glo, athro ysgol, ac yn gyhoeddwr. Prynodd wasg Richard Jones, Pontypŵl, yn 1829, ac ef a sefydlodd Yr Athraw, cylchgrawn at wasanaeth Ysgolion Sul. Aeth i Efrog Newydd yn weinidog yn 1836 ac yno y bu'n llafurio hyd ei farw'n 59 mlwydd oed yn 1866.

Bu'n ddiwyd iawn fel cyhoeddwr ac awdur. Cafwyd ail argraffiad o Angeu yn y Crochan yn Efrog Newydd, 1856, a rhestrir ei gynhyrchion eraill yn y Cofiant, 389-93, yn eu plith Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn America, 1842, a misolyn Cymraeg cyntaf America, Y Cyfaill o'r Hen Wlad, 1838 hyd 1869 pan werthwyd ef i'r Trefnyddion Calfinaidd a'i barhau ganddynt hwy.

Mediaeval Heraldry
Yn Cywyddau Iolo Goch ac Eraill, td. 353, ceir nodyn a'r frawddeg hon ynddo,'Sylwer mai Ieuan yw enw'r esgob, nid Siôn, fel y dywed Mr Evan J. Jones, Mediaeval Heraldry, 12.' Y peth na ddeallwn oedd mai yn 1937 yr ymddangosodd Iolo Goch ac Eraill ond mai ym 1943 y cyhoeddwyd Mediaeval Heraldry. Mae'r eglurhad yn y gair 'llyfryn' a ddefnyddir yn y nodyn i ddisgrifio gwaith E.J. Jones, sef