CAMP YN LLOEGR GAN Y GOLYGYDD O GYMRO
gan D.Ben Rees

UN O'R golygyddion mwyaf adnabyddus ym myd llyfrau ym Mhrydain Fawr yn yr ugeinfed ganrif oedd y bardd Eingl-Gymreig Ernest Percival Rhys (1859-1946). Ganwyd ef nid nepell o stesion yr Angel yn Islington, Llundain ar Orffennaf 17 1859 yn fab i John ac Emma Rhys. Un o Gaerfyrddin oedd ei dad a'i fam o deulu'r Percival o swydd Hertford.

Treuliodd y mab y blynyddoedd cynnar yn nhref Caerfyrddin, tref a adawodd gryn ddylanwad arno fel llyfrbryf. Yno yr agorwyd ei feddwl pan oedd yn blentyn i gyfaredd llyfrau plant, fel Robinson Crusoe a hanes Twm Shôn Cati o Dregaron.

Digwyddodd hynny yn siop ei daid, William Rhys yn King Street. Meddai William Rhys ar siop lyfrau benigamp a chafodd y plentyn bach ei gyfareddu gyda storiau gwerin a llenyddiaeth. Ni fu yn amddifad weddill ei oes o swyngyfaredd y dyddiau hynny a ddysgodd iddo eiriau Cymraeg "ar y slei".

Byr fu'r arhosiad yng Nghaerfyrddin – a symudodd ei rieni yn Nhachwedd 1865 i Newcastle-on-Tyne yng ngogledd Ddwyrain Lloegr. Daliodd i ymddiddori mewn llenyddiaeth, yn arbennig nofelau Charles Dickens (bu marw sydyn y nofelydd ar Fehefin 9, 1870 yn gryn ysgytwad iddo), a nofelau Syr Walter Scott.

Ond daeth ar draws storiau o waith disgybl Syr Walter Scott, sef George MacDonald (1824-1905). Yr ysgrifwr hwn oedd y dylanwad mwyaf arno yng nghyfnod y prifiant a thrwy ysbrydoliaeth MacDonald daeth i ymserchu yng ngweithiau y beirdd Cymreig, George Herbert a Henry Vaughan.

Atgyfnerthwyd ei gariad at lyfrau a llenyddiaeth ar ôl iddo adael yr ysgol a dechrau ar ei waith fel peiriannydd yng nglofa Langley.

Sefydlodd gylch darllen a man cyfarfod i'r glöwyr a gwahodd bardd y glöwr Robert Skipsey i ddarllen ei farddoniaeth. Bu'r profiad hwn yn ddigon iddo ddewis gadael y cyfan a mentro ar fywyd y llenor llawn-amser yn Llundain. A disgrifiodd mewn blynyddoedd ar ôl hynny ei daith ar ddiwrnod oer yn Ionawr 1886 i Lundain i chwilio am waith fel ysgrifennwr.

Bu'n ffodus yn ei ffrindiau a chymysgodd gydag arweinwyr y Ffabiaid fel George Bernard Shaw ac arweinwyr mudiadau Celtaidd fel y bardd Gwyddelig W. B. Yeats. Ond y mae'r stori yn un hynod o ramantus ac yn dangos yn eglur fel mae bod yn y lle iawn ar y foment iawn yn aml yn help i lenor a llyfrbryf.

***

UN DIWRNOD galwyd arno gan ddau gyfarwyddwr o gwmni cyhoeddi Walter Scott o Newcastle i'w wahodd i olygu cyfrol ar y bardd George Herbert. Yn eu diniweidrwydd yr oeddynt wedi galw arno ef am iddynt dybied mai ef oedd Syr John Rhŷs, yr ysgolhaig Celtaidd byd-enwog.

Cafodd y ddau dipyn o syndod o weld tlodi y fflat yn Chelsea, ond chwarae teg iddynt gwahoddwyd Ernest Rhys i ginio blasus, a chyn ymadael yr oedd ef wedi awgrymu deuddeg teitl a ddylai fod yn y gyfres. Dyma ddechrau ar ei yrfa fel golygydd llenyddiaeth.

Golygodd y gyfres Camelot i Walter Scott ac yn ddiweddar i Gwmni Dent y gyfres Everyman. Ef a feddyliodd am y teitl ac ef a baratôdd y rhestr ac awgrymu i J.M. Dent enwau llenorion a beirdd a fyddai'n ysgrifennu cyflwyniadau a nodiadau golygyddol. A chyn marwolaeth Ernest Rhys yn 1946 yr oedd cwmni Dent wedi cyhoeddi 983 o gyfrolau allan o'r mil a gynlluniwyd ganddo.

Dros y blynyddoedd cafodd broblemau di-rif, megis prinder arian, problemau hawlfraint, rhagymadroddion a gollwyd a thrafferthion o dŷ'r awduron. Ond fe greodd Ernest Rhys rywbeth nas anghofir yn hanes cyhoeddi Saesneg, sef y llyfrgell fwyaf cyflawn ar gyfer y dyn cyffredin a welodd y byd.

***

BETH oedd cyfrinach llwyddiant Ernest Rhys fel golygydd? Awgrymaf dri ateb i'r cwestiwn diddorol hwn.

Yn y lle cyntaf cefndir llenyddol Ernest Rhys. Fe'i magwyd ymhlith llyfrau a bu llyfrau yn rhan hanfodol o'i fywyd o'r dyddiau cynnar yn siop ei daid yng Nghaerfyrddin. Yr oedd ganddo archwaeth a gwybodaeth o glasuron llenyddiaeth y byd ac fe fu yn fanteisiol iawn iddo ar hyd y deugain mlynedd y bu'n golygu Everyman.

Yn ail, bu'n ffodus yn ei briod, Grace Rhys, merch o Swydd Roscommon yn Iwerddon. Cyfarfu'r ddau am y tro cyntaf mewn parti yn nhŷ W. B. Yeats ac am yr ail dro yng nghwmni'r pagan William Sharp. Partneriaeth fawr fu priodas Ernest a Grace Rhys ym myd llyfrau a bu cartref y ddau yn Llundain ar agor led y pen i lenorion a beirdd ifainc ar hyd y cenedlaethau.

Yn drydydd, adnabyddiaeth Ernest Rhys o wŷr llên Prydain Fawr – yn arbennig sêr llenyddiaeth Saesneg o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr oedd yn un o dri a sefydlodd y Rhymers' Club yn 1891 a bu yn aelod pwysig o'r gymdeithas a ddeuai ynghyd yn nhafarn y Cheshire Cheese, yn Stryd y Fflyd. Gwelir cerddi o'i waith yn y ddwy gyfrol o farddoniaeth a gyhoeddwyd yn enw'r gymdeithas.

Bu perthynas agos rhwng Ernest Rhys a gwŷr fel T.W. Rolleston, Richard Le Gallienne, Victor Plarr, W.B. Yeats (rhai o aelodau'r Gymdeithas) ag eraill o lenorion yr ynysoedd hyn. Bu hyn yn fantais fawr iddo a llwyddodd i berswadio y gwŷr llên i'w gynorthwyo gyda chyfres Everyman gan gynnwys Cymro talentog fel Syr John Rhŷs a'r gwleidydd o lenor, W. Llewellyn Williams.

***

AC ETO er ei holl lafur a'i ymdrechion llenyddol y mae un nodyn y dylid ei nodi, sef ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg. I lenorion Llundain yr oedd Ernest Rhys yn ymgorfforiad o Gymru ac eto fe wyddai ef yn dda nad oedd hynny'n wir. Dysgodd y Gymraeg pan oedd yn ganol oed a dadleuodd yn effeithiol dros hybu'r iaith.

Yn niwedd y ganrif bu bwthyn yn ei feddiant y tu allan i Langollen lle bu yn cyfieithu gwaith Dafydd ap Gwilym i'r Saesneg. Dyna oedd ei ddelfryd fawr – cyfieithu barddoniaeth Gymraeg y canol oesoedd i'r Saesneg. Ond ni chafodd yr hamdden i wneud cyfiawnder â'r dasg.

Ond ni ellir anwybyddu ei gyfraniad i lenyddiaeth Eingl-Gymreig pan edrychwn ar y cyfrolau canlynol. The Fiddler of Carne (1896); Welsh Ballads (1998); Whistling Maid (1900); Lays of the Round Table (1908) a South Wales Coast yn 1911. Cafodd y Welsh Ballads ganmoliaeth fawr ond yr oedd y bardd yn reit ymwybodol nad oedd y baledau yn mynd yn ddigon dwfn i'r tir Cymreig ond fe'i denwyd yn agosach i gylch cyfrin yr hen draddodiad Cymraeg.

Pe bai Ernest Rhys wedi aros yng Nghaerfyrddin hyd 1886 mae'n rhesymol credu y byddai newid mawr wedi digwydd i lenyddiaeth Gymraeg yn ogystal. Y mae personoliaeth Ernest Rhys yn haeddu astudiaeth drylwyr a gobeithiaf gael cyfle ar ei weithiau er mwyn mesur a phwyso ei athrylithgar ddoniau fel golygydd ac i raddau llai fel bardd telynegol.