SWYNGYFAREDD YR HEN RECORDIAU gan Huw Williams

AETH tros ganrif heibio, er pan eisteddodd Thomas Edison o flaen ffonograff, a chan adrodd yr hen rigwm Saesneg hwnnw am Mary a'i hoen bach lwyddo i argyhoeddi'r byd ei bod yn bosibl 'recordio' llais. Rhyw ugain mlynedd yn ddiweddarach, ym 1897, 'roedd disgiau silinder yn cael eu masnachu ym Mhrydain gan y Gramophone Co. Ltd (HMV yn ddiweddarach), ac erbyn troad y ganrif bresennol 'roedd yna hefyd ambell silinder o ganeuon Cymraeg ar y farchnad.

Cwestiynau a ofynnir yn aml yw pa bryd y cynhyrchwyd y record gyntaf gan artist Cymraeg, a phwy oedd yr artist hwnnw? Mi hoffwn yn fawr fedru ateb, gan nodi'r union bennod a'r adnod, ond gan fod yna elfen o ansicrwydd yn y mater, a bod y ceisiadau cynnar i recordio at ei gilydd heb eu dyddio, efallai y byddai'n well imi ymatal am y tro rhag enwi neb na nodi unrhyw ddyddiad pendant.

***

'ROEDD YNA gyfeiriadau at ychydig o recordiau Cymraeg yng nghatalog y Gramophone & Typewriter Co. erbyn 1902, ac fe wyddom fod y cyfryw recordiau wedi cynyddu'n sylweddol mewn nifer erbyn yr ymddangosodd catalog arall gan yr un cwmni ym 1914. Wrth astudio'r catalogau cynnar mae'n weddol amlwg mai ar gyfer y farchnad Gymreig yn unig yr oedd y mwyafrif o gantorion Cymru yn recordio cyn tua 1910.

Un o'r cantorion cyntaf y daeth ei enw i sylw’r genedl fel artist recordio oedd David Brazell, y bas-bariton o'r Pwll, Llanelli, a pherchen llais hynod o soniarus ac ystwyth. Bu ef wrthi'n brysur yn recordio i tua hanner dwsin neu ragor o gwmnïau rhwng 1900 a 1910, a hynny ar ôl darparu rhai silindrau cŵyr yn niwedd y ganrif o'r blaen, a pharhaodd i geisio diwallu anghenion y farchnad recordiau yng Nghymru tan y tridegau, gan recordio rhaglenni yn cynnwys baledi, caneuon Cymraeg, a detholion o opera ac oratorio.

Mab i löwr oedd David Brazell, a bu'n gweithio am dymor yn y diwydiant alcam cyn mynd ati i astudio i'r Academi Gerddorol Frenhinol ym 1901. Am gyfnod bu'n aelod o Gwmni Opera Carl Rosa, ond gwell ganddo oedd dilyn gyrfa fel datganwr proffesiynol ar ei liwt ei hun, a bu'n cyngherdda am lawer o flynyddoedd yn y prif ddinasoedd yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal ag ar y cyfandir. Yn Ysbyty Bryntirion Llanelli ym 1959 y bu farw, yn 84 oed, a hynny'n ddigon di-sôn-amdano.

***

DIDDOROL yw sylwi mai i gyfeiliant piano yr oedd artistiaid Cymreig yn perfformio cyn tua 1906/7, felly os digwydd inni ddod ar draws hen record 78 o rywun yn canu cân Gymraeg i gyfeiliant cerddorfa, gallwn fod yn reit sicr nad record a gynhyrchwyd yn ystod blynyddoedd cyntaf y ganrif mohoni.

Ystafelloedd bychain iawn oedd y stiwdios recordio cynnar, gyda phrin digon o le ynddynt ar gyfer piano ac unawdydd, ond unwaith yr aethpwyd ati i'w ehangu yr oedd yn bosibl darparu recordiau dan amgylchiadau mwy uchelgeisiol, gyda chyfeiliant cerddorfa fechan.

Mae 1908 yn flwyddyn bur bwysig yn hanes recordio yng ngwledydd Prydain, oherwydd yn ystod y flwyddyn honno yr agorodd y Gramophone Co. ei ffatri recordiau 'newydd' yn Haynes, Swydd Middlesex. O hyn allan yr oedd yn bosibl paratoi recordiau yn gyfan gwbl yn Lloegr, yn hytrach na dibynnu ar ffatrïoedd yn yr Almaen i wneud rhan helaeth o'r gwaith, a gorfod mewnforio recordiau.

Yn ystod y dauddegau fe welwyd recordiau Cymraeg o well ansawdd ar y farchnad, diolch yn arbennig i'r rhai a fu wrthi'n ddiwyd yn arbrofi gyda chyfarpar a ddangosodd beth oedd posibiliadau a manteision recordiau trydan. Gwahoddwyd amryw o gantorion Cymreig i ail-recordio rhaglenni trwy gyfrwng y broses 'newydd' hon, a da y gŵyr y cyfarwydd bod y recordiau hynny a wnaeth cantorion fel Leila Megane, Megan Telini a David Brazell trwy gyfrwng y broses 'newydd' hon ganmil yn well o ran eu hansawdd na'r recordiau hynny a ddarparwyd ganddynt yn flaenorol.

***

ERBYN tua 1925, 'roedd yna newid mawr wedi digwydd yn hanes recordiau Cymraeg, a thua chant o deitlau Cymraeg wedi cael eu darparu ar label Winner gan Edison Bell, a thua deugain neu hanner cant yn ychwanegol gan gwmni Zonophone, heblaw eitemau eraill gan Regal, Beltona, Columbia, Imperial, Aco, a chwmnïau bychain eraill.

Ond bu'n rhaid disgwyl tan 1929, pryd y dechreuodd cwmni Decca fasnachu recordiau, cyn y gwelwyd newid syfrdanol ym maes recordio eitemau Cymraeg, a da o beth i ni fel cenedl oedd mai Cymro, sef Edward ('Ted') Lewis, a fu farw rhyw ddeunaw mis neu ddwy flynedd yn ôl, oedd Cadeirydd Cwmni Decca am flynyddoedd maith.

Rhwng 1929 a 1935 darparodd Decca 33 o recordiau o gerddoriaeth leisiol ac offerynnol Cymreig, gan gynnwys recordiau gan Hughes Macklin (y tenor o Gaernarfon), Mair Jones, Parry Jones, Owen Bryngwyn, cantorion W. S. Gwynn Williams a Ted a May Hopkins.

Ym 1949 cynhyrchwyd tua deugain o recordiau ychwanegol gan Decca yn y gyfres o recordiau Coleg Harlech, yn cynnwys rhaglenni gan Ceinwen Rowlands, Bob Roberts Tai'r Felin, a David Lloyd, heblaw cerddoriaeth offerynnol gan Grace Williams a Hubert Davies.

***

BU’R hen recordiau 78 yn boblogaidd iawn ar aelwydydd y genedl am tua thrigain mlynedd, hyd nes y cawsant eu disodli ar ôl 1952 gan recordiau hirfaith modern. Datblygiadau pwysig eraill yn y pumdegau oedd sefydlu Cwmni Qualiton gan John Edwards (1953) a ffurfio Cwmni Delyse gan Isabella Wallich (1955). Ymhlith y rhai cyntaf i recordio i Qualiton 'roedd y tenor David Price a Chymdeithas Gorawl Pontarddulais, ac ar labeli cynharaf Delyse fe welwyd enwau artistiad poblogaidd megis Osian Ellis a Brychan Powell.

Gofynnir yn aml iawn pa recordiau Cymraeg neu Gymreig y dylid eu casglu, a pha recordiau 78 yn dwyn enwau artistiaid Cymreig sy'n brin ac yn werth talu arian mawr amdanynt yn y farchnad ail-law. Er nad yw'n hawdd bod yn bendant bob amser wrth drafod hen recordiau mi garwn awgrymu rhai eitemau y byddai pob casglwr gwerth ei halen yn annoeth iawn pe bai'n eu hanwybyddu.

    1. Unrhyw beth gan Dan Beddoe (tenor), er y dylid cadw mewn cof bod cwmni Rubini wedi darparu record o eitemau gan y datganwr hwn y llynedd mewn cyfres `newydd'. Brodor o Aberaman, Aberdâr, oedd Dan Beddoe (1863-1937), a thenor dramatig y bu cryn alw am ei wasanaeth yng nghyngherddau'r genedl. Recordiodd ar silindrau i Edison ac yn ddiweddarach i gwmni Victor, gan barhau i recordio i gwmnïau bychain tan y tri-degau, ond ychydig iawn a recordiodd pan oedd yn ei anterth fel canwr. Gwn am rai pobl sy'n talu prisiau uchel am recordiau o'r tenor hwn yn canu baledi a detholion o opera.

    2. Fe ddylid casglu popeth a recordiodd David Brazell, gan gofio ei fod ef yn un o'r cantorion Cymraeg cyntaf recordio, a bod y mwyafrif o’i recordiau cynnar a diweddar heb eu dyddio. 3. Popeth a recordiwyd gan y tenor Ben Davies (1852-1943). 'Roedd ef eto yn un o'r Cymry cyntaf a gafodd y fraint o recordio ei lais ar record fasnachol, ac er ei bod yn anodd nodi dyddiad pendant fe wyddys ei fod yn recordio ym 1901/2, sef rhyw wyth neu naw mlynedd ar ôl ei ymddangosiad yn Ffair Fawr y Byd yn Chicago. Fe ddywedir hefyd mai ef a Dan Leno oedd y rhai cyntaf i recordio ar ddisgiau deuddeng modfedd i'r Gramophone & Typewriter Co. ym 1903. Fe barhaodd i recordio i Columbia tua 1933 (sef nes yr oedd yn 75 oed) a chafodd yr anrhydedd o ganu'n gyhoeddus yng nghastell Caernarfon bedair blynedd yn ddiweddarach, ac yntau ar drothwy ei bedwar ugain oed!

    4. Ffefryn mawr y casglwr recordiau yn Lloegr yw'r tenor Tudor Davies (1892-1958), brodor o'r Cymer, Porth, y Rhondda, a phriod y gantores Ruth Packer y mae llawer o gantorion ieuanc y genedl heddiw yn ddyledus iddi am hyfforddiant lleisiol. Yn berchen llais mawr, cyfoethog, gallai Tudor Davies ganu unrhyw beth yn amrywio o Wagner i opera Eidalaidd, ac yr oedd yn ei anterth fel artist recordio rhwng 1925 a 1930. Un record o'i lais sy'n haeddu sylw arbennig i yw honno o 'Breuddwyd Gerontius' a recordiwyd dan arweiniad Elgar yn Eglwys Gadeiriol Henffordd ym 1927, – recordiad anghyflawn mae'n wir, ond un o ansawdd arbennig serch hynny.

    5. Canwr diddorol i bob casglwr hen recordiau yw Walter Glynne (neu Thomas Glyn Walters, a rhoi iddo ei enw priodol), sef brodor o Dre-gŵyr a fu farw'n 81 oed ym 1970. Recordiodd y tenor telynegol hwn am y tro cyntaf ym 1921, ac yng nghatalog Cwmni HMV am 1935 y mae 64 o 'deitlau' ganddo ar record, y cyfan ohonynt wedi cael eu recordio ar ôl 1925, sef y flwyddyn pan ddarparwyd recordiau trydan am y tro cyntaf. Ychydig iawn a recordiodd yn Gymraeg, ar wahân i'r ddeuawd 'Hywel a Blodwen', y tro cyntaf gyda Bessie Jones (cantores a ymneilltuodd i fyw i'r Barri) yn y dauddegau, a'r eildro gyda Ceinwen Rowlands rhyw bymtheng mlynedd yn ddiweddarach. Fe ddenodd ei ddatganiad o 'Onaway, awake beloved' gryn sylw, ond y perl ymhlith ei holl recordiau yw honno lle mae'n canu 'But Thou did'st not leave' (Handel), sy'n record neilltuol o brin.

    6. Mae popeth a recordiodd y soprano Eleanor Jones ar darddellau saith modfedd i'r Gramophone Co. yn werth ei gasglu. Yn frodor o Ferthyr Tudful, lle y'i ganed ym 1874, astudiodd Eleanor Jones wrth draed Clara Novello Davies (mam Ivor Novello), ac yna yn y Coleg Cerdd Frenhinol yn Llundain. Ymhlith ei recordiau cynharaf mae recordiau saith modfedd o ganeuon Cymraeg a gynhyrchwyd gan y Gramophone Co. ym 1900, sef yr un flwyddyn yn union ag y gwahoddwyd yr anfarwol Melba i recordio i'r un Cwmni. Credir bod tua chant a hanner o recordiau o lais Eleanor Jones, gydag oddeutu eu hanner yn dwyn label y Gramophone Co. a'r un nifer label Zonophone, ond nid wy'n credu iddi recordio dim ar ôl 1916, pan fu farw ei phriod, Eli Hudson. Yn werth eu casglu mae'r record o'r gân 'O! na byddai'n haf o hyd' (William Davies), a recordiwyd gan y soprano tua 1905, a'r datganiad o 'Angles ever bright and fair' (Handel) sy'n un o'r eitemau a recordiwyd ganddi tua 1907. Fe ddylai pob casglwr fod ar ei wyliadwriaeth wrth gasglu eitemau gan Eleanor Jones, gan ei bod wedi recordio hefyd dan yr enwau Madame Deering ac Alvina Yarrow, yn ogystal ag ambell eitem yn cael ei ganu gan driawd yn dwyn yr enw 'Olga, Elga and Eli'.

    7. Yn werth eu casglu mae'r ddau ddwsin neu ragor o recordiau a wnaeth Leila Megane rhwng 1920 a 1925, gan gynnwys detholion o opera Ffrengig (yn cael eu canu yn Ffrangeg), caneuon gan Handel, perfformiad o 'Sea Pictures' (Elgar) gyda'r cyfansoddwr ei hun yn arwain, ac wrth gwrs nifer go dda o ganeuon Cymraeg gydag Osborne Roberts, priod y gantores, yn cyfeilio iddi wrth y piano.

    8. Eitemau sy'n gyfysytyr â llyfrau o Wasg Gregynog i gasglwyr llyfrau yw recordiau cynnar o lais Evan Williams i gasglwyr recordiau! Ond yn achos hwn eto fe ddylid cofio bod Cwmni Rubini wedi darparu record 'newydd' o eitemau gan y datganwr hwn y llynedd. Wedi ei eni yn Ohio ym 1867, yn fab i löwr, 'roedd Evan Williams yn siarad Cymraeg. Ymwelodd â Llundain i recordio am y tro cyntaf ym 1906, gan dderbyn can doler o gydnabyddiaeth am y sesiwn recordio gyntaf. Daeth drosodd i Brydain eto ym 1908, 1910 a 1912, gan recordio eitemau gan Donizetti, Rossini a Handel, heblaw caneuon Cymraeg. Adeg ei farw ym 1918 fe ddywedid ei fod yn derbyn 35,000 o ddoleri'r flwyddyn mewn hawlfreintiau recordio, ac nad oedd ond dau ddatganwr trwy'r byd i gyd yn derbyn mwy o arian trwy gyfrwng recordiau, sef Caruso a John McCormack. Mae pob un o'r ddau gant neu ragor o recordiau a wnaeth Evan Williams yn ddiddorol, ond y perl i bob casglwr yw honno sy'n cynnwys y datganiad o 'Sound an alarm' (Handel). Hwn oedd y tro cyntaf i ddatganwr recordio aria i gyfeiliant cerddorfa ar record fasnachol.

    9. Fe ddylid casglu pob record yn dwyn enw Gwladys Roberts; gantores o Lanelli, a hynny am y rheswm mai hi oedd un o'r contraltos Cymreig cyntaf i recordio, a'i bod hefyd yn cael ei hystyried yn un o brif gantorion ei hoes. Dechreuodd recordio ym 1905, pan oedd yn 23 oed, a chafodd yr anrhydedd o ganu ar recordiau gwahanol gyda Melba a Peter Dawson.

    10. Gorau po fwyaf o recordiau Tilly Bodycombe y llwyddir i'w casglu. Yn ferch i Robert Bodycombe, Ynysderw, Pontardawe, cafodd Cymru golled fawr pan ymfudodd y gantores hon gyda'i phriod i'r Amerig ym 1911.

    11. Nid yw recordiau o ganeuon Cymraeg yn cael eu canu gan Megan Telini (sef Maggie Jane Parry o Fethesda, 1878-1940) yn brin, ond fe ddylid cofio mai hi hefyd yw'r gantores a recordiodd ganeuon gwerin Cymraeg dan yr enw Megan Morgan ar label "4 in 1". A champ i unrhyw gasglwr gael gafael ar record o Madam Telini yn canu yn Saesneg, neu ynteu'n canu rhywbeth o opera neu o oratorio! Fe fyddai ganddo rywbeth anarferol iawn yn ei feddiant, a dweud y lleiaf!