WILIAM LLŶN ~ Ioan Mai Evans yn cofio

YN SICR i chi mae yna ddiddordeb cynyddol mewn achyddiaeth yn ddiweddar yma. Cymdeithas hel achau eisoes yn gweithredu yng Nghlwyd ac un arall ar y blociau yng Ngwynedd.

"Mi gaiff o hanes i nain gin i os na fydd o'n ddistaw", os aiff hi'n ffrae ffyrnig ynte, ac y mae hanes pob nain a nain i honno fel rheol yn y Beibl teuluaidd. Ac yn unigeddau'r mynyddoedd mi fyddai'r nain yn siarad am gyfyrder hwn a'r llall, cyfnitherod, neiod a nithod o hil gerdd. Yn eu bythynnod gynt onid ribidirês ar y cof fyddai enwau gwraidd a changhennau i'r hen deulu?

Clywais adlais o hynny mewn sgwrs radio lawer blwyddyn yn ôl bellach gan Llewelyn Wyn Griffith, yn sôn un bore Nadolig am flwch baco Ifan Siôn Robat Siôn Jâms, un o'i hynafiaid ym mhen y Rhiw, Llŷn. Y siaradwr yn ei ddull cartrefol a chwbl wyddonol yn olrhain ei deulu yn ôl bum cenhedlaeth i amser y brenin Jâms.

Ar y radio y funud yma dyma sôn am y Fonesig Diana Spencer, pisyn landeg yn ôl y 'Daily Post' bore wedyn, a pheth o waed uchelwyr Eifionydd yn rhedeg yn ei gwythiennau. Spencer, meddwn innau wrth gofio y llun prin hwn a gawsom drwy ganiatâd caredig y Llyfrgell Genedlaethol i ddathlu pedwar canmlwyddiant marw Wiliam Llŷn.

***

A DYMA'r busnas achau yma yn ein gwthio'n ôl mor bell â phedwar cant o flynyddoedd, ac yma mae Wiliam Llŷn neu un o'i ddisgyblion yn olrhain ryw Spencer yn ôl i ryw dywysog cynnar. Y bardd o Lŷn, yn ôl y dysgedigion wedi byw yn y rhan olaf o Oes Aur Achyddiaeth y Cymro, a chydio yn nhraddodiad rhai fel Tudur Aled.

Yna pontiodd athro Wiliam Llŷn, sef Gruffudd Hiraethog, yr hen draddodiad a chyfnod oedd yn dangos mwy o ddylanwad dieithr fel Herodraeth. Wrth draed y Gamaliel hwn o Lansannan y rhoddwyd y deyrnged "nid oes dim yn anwybodus i Wiliam Llŷn", neu mewn llawysgrif arall 'Heralds in Wales', fe geir "William Llien of Oswestre, deceased was the best." Ac yn ei hiraeth am gael ei Athro Gruffudd, yn ei ôl:


Cart achau y bardd

Fe gydnabyddir hefyd fod i lawysgrif Wiliam Llŷn, gymeriad arbennig iawn fel y gwelir.

Llawysgrif Wiliam Llŷn