BRENHINES Y GEIRIAU gan Gwilym R.Jones

YM MHARTI pen-blwydd y Dr Kate Roberts, Dinbych, yr oedd dros gant o ddeallusion llenyddol ein cenedl wedi ymgynnull yn Ysgol Twm o'r Nant yn y dref i ddathlu gyda hi ei naw-degfed flwyddyn. Dywedodd rhyw wag: "Pe bai bom yn disgyn ar do'r ysgol yma heddiw, dyna golled a gâi Cymru!"

A dyna lle'r oedd ein 'Brenhines Llên' yn ei mwynhau ei hun yn eu canol er na bu iddi erioed honni ei bod ymhlith y dosbarth academig uchel-ael. Daethai yno yn syth o'i gwely yn yr Inffyrmari a rowliwyd hi yn ei chadair olwyn o'r ambiwlans i neuadd yr ysgol y bu hi'n fwy eiddgar na neb dros ei sefydlu. Yn addas iawn, hi a agorodd ysgol gynradd Gymraeg Twm o'r Nant yn swyddogol a breuddwydiodd amdani y byddai'n oleudy Cymraeg ynghanol gwyll Seisnigrwydd y dref. Gwireddwyd ei breuddwyd a mynd ymlaen o nerth i nerth yw hanes yr ysgol.

Yr oedd presenoldeb y Dr Kate yn y parti yn arwydd pellach o'i gwydnwch a'i phenderfyniad - bu'n rhaid iddi gael dau beint o waed a chymorth meddygol arall gan ei meddyg, y Dr J. Gwyn Thomas, i'w nerthu i wynebu'r dorf a'r miri. Bu'r penderfyniad a'r ysbryd glew hwn yn rhan o'i chynhysgaeth feddyliol a chorfforol ar hyd troeon dyrys ei bywyd.

***

PAN GYDWEITHIEM gyda'r Faner mewn blynyddoedd digon argyfyngus i dorri calon 'y dewraf o'n hawduron' byddai ei hesiampl a'i hysbryd di-ildio yn ein hysbrydoli ninnau, ei chydweithwyr. Byddwn i'n dweud bod y ddau Ryfel Byd wedi ei hergydio'n greulon. Yn ystod rhyfel 1914-18 fe seriwyd ei chalon sensitif gan y clwyfau a gafodd ei brawd, Evan, ar faes y gad, a chan y golled ar ôl Dei, ei brawd ieuengaf, a laddwyd ac a gladdwyd ym Malta. Yng nghwrs yr ail ryfel, 193945, y frwydr o geisio cadw'r Faner ar frig y don mewn amseroedd anodd iawn; marwolaeth ei golygydd, Mr E. Prosser Rhys (ym 1945), a'i phriod, Mr Morris T. Williams, ym 1946, a ysgytiodd ei henaid.

'Roedd Morris a mi yn hen ffrindiau er dyddiau difyr ein prentisiaeth yn Swyddfa'r Herald, Caernarfon, pan oedd ef yn gweithio ar y leino a minnau'n gyw-gohebydd.

Y mae'n anodd peidio â phentyrru ansoddeiriau canmoliaethus wrth sôn am Morris. Dyma un o'r dynion gorau a gyfarfûm erioed, ac 'rwyf yn tanlinellu'r ansoddair 'gorau'. 'Roedd yn gwbl ddidwyll a'i air yn sicr; meddai reddf dyn busnes a chrebwyll bardd a llenor, ond ei fod yn rhy brysur yn gweithio dros Blaid Cymru a'i ddelfrydau eraill i ymroi i lenydda.

Sgrifennodd nofel fer yn disgrifio pnawn dioglyd mewn pentref bach fel y Groeslon, lle magwyd ef, a fawr ddim yn digwydd ond cymydog yn chwythu corned (aelod o Fand Nantlle) a chymdogion yn mynd i siopa a hel cnecs! Cefais flas anghyffredin ar y ddogfen realistig honno, a hoffwn wybod pa le y mae'r llawysgrif erbyn hyn. Enillodd ddwy neu dair o gadeiriau barddol hefyd, ond ei gofio fel meistr cyfiawn yng Ngwasg Gee, ac fel cyd-gynghorwr ar Gyngor Tref Dinbych, yr wyf.

Nid oedd yn ddim byd ond gwyrth inni ein dau gael ein hethol ar y Cyngor â ninnau'n arddel label Plaid Genedlaethol Cymru yn y pedwar degau, ond gwn mai rhagoriaethau Morris fel Cynghorwr Tref am dymor cyn hyn a enillodd inni ein seddau yn y gynghorfa. Coeliwch fi, neu beidio, ond dyma'r Cynghorwr dewraf a welais erioed ac y mae ystâd tai Cyngor arloesol Dinbych yn gofeb barhaus iddo.

***

AR ÔL colli Morris y gwelais i y dur sydd yng nghyfansoddiad ei briod. 'Roedd ei golli ef a Phrosser o fewn blwyddyn union i'w gilydd yn rhywbeth a allasai lorio'r cryfaf ohonom yng Ngwasg Gee, ond penderfynodd Kate Roberts fod yn rhaid i'r Wasg a'r Faner fyw, a heliodd griw ohonom ati a'n siarsio i fod yn un tîm penderfynol er nad oedd gan y cwmni fawr ddim i'w gynnig inni yn faterol, dim ond y ffaith ein bod yn sefyll dros ein cenedl a'i hiaith mewn cyfnod argyfyngus iawn yn eu hanes.

Cefais y cyfrifoldeb o fod yn olygydd Y Faner gan Morris ar ôl ymadawiad Prosser, a'r is-olygydd oedd Mr Emlyn Bryan Jones, o Goed-poeth, gŵr addfwyn a galluog, a bardd addawol. Yn ddiweddarach, ar ôl marw disyfyd Bryan, daeth hen gyfaill ers dyddiau fy machgendod, Mr Mathonwy Hughes, yn is-olygydd Y Faner a braf oedd cael y fath bartner wrth fy ochr.

Swyddfa Kate Roberts oedd y stafell fach agosaf at ein stafell ni, ac yr oedd twll yn y wal rhwng y ddwy ystafell, a drws bach yn ei gau. Byddem ni yn y stafell olygyddol yn clywed sŵn traed ein cyflogydd - a'i chi, Bob, - yn cyrraedd yn bur brydlon o gwmpas y naw yma bob bore. Yna agorid y drws bach ac fen cyferchid gan Kate Roberts. Byddem yn cyfnewid newyddion y dydd a'r dref, a byddai ganddi hi hanesion am ei thrafferthion personol hi.

***

BRON yn ddieithriad fe rannai ei chyfrinachau fel awdures â ni, a buom ein dau yn dystion o wewyr esgor llu o storiâu a nofelau. Cefais i yr argraff y byddai'n rhaid i bob stori a nofel aros am ysbaid go hir ym mhopty ei meddwl cyn eu bod yn barod i weled golau dydd. Pan ddangosai imi ambell damaid o'i gwaith yn ei llawysgrifen hyfryd byddwn yn sylwi nad oedd lawer o ôl newid ac ailwampio arnynt - byddai'r dasg honno wedi ei chyflawni cyn rhoi pin ar bapur. Er mwyn cael ein cymeradwyaeth y cyflwynid inni rannau o'i llenyddwaith drwy'r twll bach ac nid er mwyn cael beirniadaeth gennym ni- na chan neb arall!

Dysgasom lawer am ramadeg ac orgraff ac arddull a'r grefft o ysgrifennu'n greadigol yn ystod y sgyrsiau hynny yn swyddfa'r Faner. Dysgasom lawer am rai o wŷr a gwragedd amlwg ein cenedl ac am ein cyd-drefnwyr wrth ymgomio â'r storiwraig ddawnus hon. Nid oes arni ofn dweud ei barn yn gwbl blaen ac onest am bobl a phethau.

Fe'i cofiaf unwaith yn un o bwyllgorau Plaid Cymru yn Ninbych, yn gwrthwynebu dewis gŵr a oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ymgeisydd am sedd ar y Cyngor Sir. "Dyn anfoesol ydi o," meddai Kate Roberts a daeth mudandod ac 'embaras' annymunol drwy'r stafell!

***

NID YN y swyddfa'n unig y byddem yn cyfarfod y Dr Kate. Byddai'n dod i'n cartrefi weithiau ac aem ninnau i'r Cilgwyn a gwelem hi yn ddi-ffael yng nghyfarfodydd y Blaid, Cymdeithas Gymraeg y dref, pwyllgorau Aelwyd yr Urdd, a chynulliadau tebyg. Bu ar y blaen gyda phob mudiad Cymraeg a gwladgarol yn y dref. Byddwn i'n cydaddoli â hi yng nghynulleidfa y Capel Mawr (Methodistiaid Calfinaidd) ac Ysgol Sul yr eglwys, lle'r oedd hi'n athrawes ffyddlon ar ddosbarth o ferched. Fe fyddai hi'n paratoi'n ofalus ar eu cyfer drwy ddarllen yr esboniadau ar y maes llafur ac astudio'r wers ar gyfer pob Sul. Er ei bod, fel llawer llenor, yn eiddigeddus o'i hawliau materol fel awdures, byddai'n gwario ei henillion mewn cyfraniadau tuag at yr achosion da y credai ynddynt, ac yn arbennig yr achosion da cenedlaethol Cymreig. Dyma lle y mae'n rhagori ar lu o'r 'Cymry amlwg' y gwyddom amdanynt!

Ysgrifennodd gannoedd o filoedd o eiriau i'r Faner a phapurau'r Blaid a chylchgronau, yn erthyglau a phob math o ysgrifau, gan gynnwys cyfarwyddiadau coginio a dyddiaduron, a hynny am ddim, neu y nesaf peth i ddim, a byddai graen lenyddol ar y rhan fwyaf o'i chyfraniadau.

Yn ei pharti pen-blwydd fe fynegodd y Dr Kate ei siomiant am mai dim ond dau ar bymtheg o lyfrau a gyhoeddodd. 'Fe ddylaswn fod wedi sgwennu llawer mwy," meddai hi. Diau y buasai wedi llunio llawer stori arall ac ambell nofel - a'r cwbl yn deilwng o'i henw da fel llenor - pe na buasai wedi bod mor brysur a selog dros ei chenedl y tu mewn i'w milltir sgwâr hi o Gymreictod.

LLYFRAU
KATE ROBERTS
'O Gors y Bryniau', 1925. 'Deian a Loli', 1927. 'Rhigolau Bywyd a Storîau Eraill'. 1929. 'Laura Jones', 1930. 'Traed mewn Cyffion', 1936. 'Ffair Gaeaf a Storîau Eraill', 1937. 'Stryd y Glep', 1949. 'Y Byw sy'n Cysgu', 1956. 'Te yn y Grug' ,1959. 'Y Lôn Wen', 1960. 'Tywyll Heno', 1959. 'Hyn o Fyd', 1964. 'Tegwch y Bore', 1967. 'Prynu Dol a Storîau Eraill', 1969. 'Gobaith a Storîau Eraill', 1972. 'Yr Wylan Wen', 1976. 'Erthyglau ac Ysgrifau Llenyddol Kate Roberts' (Golygwyd gan David Jenkins), 1978.