CASGLU CORONAU A CHOED DERW gan Dyfnallt Morgan

O BOB ffurf ar y chwiw gasglu, y rhyfeddaf i mi ydi hel ystadegau. Mae 'na bobl sy'n hel a storio ystadegau gyda'r un rhwyddineb ac awch â chybydd yn pentyrru pres. Yn wahanol i hwnnw, fodd bynnag, maent fel arfer yn bur hael efo'u casgliad, ac yn barod i'w arddangos a'i rannu gydag eraill ar yr esgus lleiaf. Rwy'n genfigennus y tu hwnt o gof pobol fel hyn.

Tydi ystadegau byd y bel neu unrhyw adran arall o faes mabolgampau ddim yn golygu dim oll i mi. Tasa 'gohebwyr sbort' y cyfryngau ddim ond yn gwybod hynny, mae di-ben-drawdod eu baldordd ystadegol yn fwrn arnaf. Er gwaethaf syrffed eu truth hwy, daliaf i fwynhau gornestau rygbi bob tro y gwelaf un, a gallaf ei gadael hi yn y fan'na heb drafferthu i gynnal cwest.

'Does gen i fawr i ddweud wrth socar, ac am griced, gêm arall sy'n nefoedd i ystadegwyr, dim ond dwysau fy nghysgadrwydd naturiol y bydd honno.

***

ROEDD un o'm cyfoeswyr yn y Coleg ger y Lli gynt yn berchen ar gof eithriadol am ddyddiadau a ffeithiau hanesyddol o bob math. Ni fyddai soireé yn Neuadd yr Arholiadau fyth yn gyflawn heb iddo ef gael ei roi ar brawf yng ngŵydd y gynulleidfa i'w diddanu. 'Roedd yn eitem boblogaidd iawn ac ni chofiaf iddo fethu'r prawf erioed. Cafodd yrfa lwyddiannus fel cyfreithiwr a gwleidydd, ac nid anghofrwydd ar fy rhan sy'n peri i mi beidio ei enwi.

Ond gallaf enwi Bob Owen, o bawb, yn hyn o lith, a dwyn i gof y noson y cefais y fraint o ofalu amdano yn stiwdio Bangor pan ddaeth i mewn i ateb cwestiynau ar gynnwys Y Bywgraffiadur. Yr holwr craff a diddan oedd T.J. Morgan yn stiwdio Abertawe. Perfformans i'w ryfeddu oedd hwnnw, fel y gallech ddisgwyl.

Yr unig beth tebyg i ystadegau y mae fy meddwl i wedi ei led-amgyffred erioed (a hynny oherwydd natur fy swydd) ydi enwau beirdd y gadair a'r goron a blynyddoedd a lleoliad eu buddugoliaeth. Dyma, wedi'r cwbl, ydi'n Derby ni'r Cymry.

Y mae rhai o'r dyddiadau hyn, wrth gwrs, ar gof a chadw gan bawb a fo'n ymddiddori yn 'Y Pethe,' 1902, 1912, 1915, 1921, 1931, 1935 ac yn y blaen. I rai, bydd nodi'r dyddiad yn ddigon i'w galluogi i alw i gof nid yn unig enwau prifeirdd y flwyddyn honno ond testunau'r Awdl a'r Bryddest hefyd.

***

NI ALLAF fi o bell ffordd ddibynnu ar fy nghof yn hyn o faes. Fe'm caf fy hun, gan hynny, yng nghwrs fy ngwaith, yn troi'n fynych at gyfres y Cyfansoddiadau a'r Beirniadaethau, casgliad sydd bellach yn creu problem gofod ar y silffoedd. Dro'n ôl, wrth imi chwilio enwau'r beirniaid ar gystadleuaeth y gadair mewn blwyddyn arbennig, fe'm trawodd cyn lleied o sylw a gânt hwy druain, mewn cymhariaeth â'r beirdd arobryn neu'r Archdderwydd, dyweder.

Mae eu bri seremonïol (ar wahân i eithriadau fel John Morris-Jones a T. H. Parry-Williams ac ambell un sydd eto'n fyw) mor fyrhoedlog a diflanedig ag eiddo cludwyr gosgeiddig y Corn Hirlas a'r Aberthged ac anwyliaid bychain ystwyth y ddawns flodau.

Ac eto nhw sy'n gyfrifol am ddewis y tywysogion/tywysogesau neu'r brenhinoedd/ breninesau dros dro sy'n gwisgo'r goron neu'n llanw'r gadair. Profais bwl o biti drostynt. (Nid gymaint chwaith â thros feirniaid Y Fedal Ryddiaith a'r Dramâu a'r Nofelau. Nhw yw'r gwir gewri).

Beth am roi gwobr gysur bach iddynt drwy roi sylw ystadegol iddynt o leiaf? Gadawer i eraill am y tro gwestiynau pwysig, megis pa sawl un ohonynt sydd yntau'n brifardd? (Y mwyafrif llethol, mewn gwirionedd, er na welaf paham y mae'n rhaid i hynny fod, o reidrwydd. Cofier bod un o'r tri i fod yn brifardd ac yn aelod o'r orsedd, os wyf wedi iawn amgyffred y rheol).

***

CYNNIG ychydig o ystadegau elfennol a wnaf fi, wrth gloi, a'r rheini'n seiliedig ar gyfrifiad o feirniaid Y Gadair a'r Goron. Dewis, yn fympwyol mi wn, ymgyfyngu i'r blynyddoedd 1940-1980 (gan gynnwys y naill flwyddyn a'r llall) ac enwi a rhestru yn eu trefn dim ond y rhai hynny a fu wrthi fwy na dwywaith yn ystod y cyfnod o dan sylw.

Dynoda'r rhif ar ôl yr enw pa sawl gwaith y bu'r gŵr yn beirniadu. Ystyr y seren yw bod y gŵr hwnnw wedi bod yn feirniad yn y gystadleuaeth arall hefyd, ond nid yn yr un flwyddyn.

Dim ond un ferch a fu'n beirniadu, sef y Prifardd Dilys Cadwaladr. Goddefer i ni fynegi fy syndod nad yw enw'r bardd nodedig Harri Gwynn yn y rhestr o gwbl.

Gobeithio y bydd y ffeithiau a groniclwyd o ryw ddiddordeb i'r sawl a'u darlleno. Faint elwach ydym o'u gwybod, Duw'n unig a ŵyr. Ond petha fel'na ydi ystadegau, onid e?