HEN DDEWINIAID PRIN gan E.D.Jones

CYN BOD y gweisg preifat diweddar yr oedd gan y gyfrol Rhai o Hen Ddewiniaid Cymru 1901, gan Penardd yr enw o fod yn llyfr prin, oherwydd mai yn gyfrinachol y cyhoeddwyd ef ac mai dim ond hanner can copi a argraffwyd. Serch hynny, yr oedd yn rhesymol iawn ei bris, dim ond coron am lyfr 164 tt. wedi ei rwymo mewn chwarter Roxburghe, sef cefn lledr gydag ochrau lliain, a'r ymylon, ac eithrio pen uchaf goreuredig, heb eu tocio.

Y cyhoeddwr oedd T. J. Evans, sefydlydd y London Kelt. Ymddangosodd y London Kelt ym mis Ionawr 1895. Ym mis Mawrth 1896 argraffwyd ef mewn maint mwy a rhoi iddo fel is -deitl Celt Llundain. Yn Ionawr 1902 y newidiwyd trefn yr ieithoedd yn y teitl.

Ym mis Medi 1901, ymddangosodd hysbyseb yn y London Kelt fod Hen Ddewiniaid Cymru gan Penardd ar gael mewn rhwymiad destlus, nad argraffwyd ond 50 copi, ac na ail-argreffid ef. Ychwanegwyd mai hwn oedd 'llyfr prinnaf y ganrif newydd.' Dim ond 46 o gopïau a rwymwyd gan J.C. Andrews, 5 Orange Street, Red Lion Street>, Llundain. Yr oedd y pedwar copi arall yn aros mewn llenni heb eu rhwymo.

Nid oedd y cynnwys yn ddieithr i ddarllenwyr y Kelt gan i'r 17 pennod ymddangos yn y papur rhwng Rhagfyr 1896 a Gorffennaf 1901. Y teitl ar y cyntaf oedd 'Hen Ddewinwyr Cymru'. Ffugenw bargyfreithiwr ieuanc yn Llundain, John Humphreys Davies, a ddaeth yn un o brif lyfryddwyr ei ddydd oedd 'Penardd', wedi ei gymryd o enw'r cwmwd y safai'r Cwrt Mawr, ei gartref, yn ei ganol. Bu'r awduriaeth yn gyfrinach am amser. Yn wir, y mae'r Athro Wilton Davies, un o'r tanysgrifwyr cyntaf, yn cofnodi ar ei gopi ef mai J. H. D. ei hun a ddatgelodd y gyfrinach iddo ef flynyddoedd yn ddiweddarach.

***

BUASID yn disgwyl i'r 50 copi gael eu harchebu ar unwaith, ond 26 yn unig a werthwyd ar y pryd. Mae'n ddiddorol sylwi pwy oedd casglwyr brwd y cyfnod - Dr Emrys Jones, Manceinion, D.M. Richards, Aberdâr, L. J. Roberts, y Rhyl, y Prifathro John Rhys, John Ballinger dros Lyfrgell Caerdydd, Llyfrgell Coleg Aberystwyth, J. Glyn Davies, y Deon Howell dros Lyfrgell Cadeirlan Tyddewi, yr Athro Edward Anwyl, Llyfrgell Tre Abertawe, E.O. Jones, Llanidloes, Syr John Williams, Barwnig, D. Lloyd George, yr Athro T. Witton Davies, H.A. Hughes, Ffestiniog. E. Vincent Evans, Foulkes Jones, D. Timothy, E. Griffiths, Chelsea, Elfet Lewis, T.J. Evans, Mrs T.E. Ellis, J.H. Davies, J. Winton Evans, W. Llewelyn Williams a D.C. Roberts, Aberystwyth, cefnder i J.H. Davies.

Y mae copïau Syr John Williams a T. Witton Davies yn y Llyfrgell Genedlaethol, a dau gopi wedi eu rhwymo'n wahanol.

***

I'R RHAI sydd heb weld y llyfr erioed cystal ychwanegu enwau'r 'dewiniaid' a gynrychiolir – Arise Evans, John Evans (gyda darlun), John Dee, Richard Baxter, Rhisiart Ysgripiwr, Tomos Pugh, Harri William, Myrddin, Tomos Jones, John Jones o'r caeau, Siôn Rhydderch, Siôn Prys, Tomos Niclas, Will Awst, Ellis Edwart, Harris Cwrtycadno, ac Edward Savage.