O'R CASTELL I'R BONT gan Harri Pritchard Jones

A GLYWSOCH chi erioed am Bort Caerleon? Na, nid rhyw Bort Meirion o le ydy o, er ei fod yn greadigaeth un dyn. Mae ynddo bobl o amryfal gefndiroedd mae'n wir, ond pobl gyffredin ydyn nhw, yn ddu a gwyn, yn wych a gwachul, yn O'Shea's a Halloran's, yn Omar Selim ac yn Said Ali's, yn Leontopoulosiaid a Murray-Rustiaid yn ogystal ag ambell Jones a Roberts.

Ym Mhort Caerleon mae yna gapel Bedyddwyr Cymraeg, eglwysi Anglicanaidd a Phabyddol, ynghyd â phobl sy'n cadw Ramadan. Yn sicr ddigon, porthladd ydy'r lle, a llongau megis y Star of Benin yn cysylltu'r lle â henwlad sawl un o'i thrigolion.

I roi rhyw glem ichi, mi ddweda' i fod yna dafarn o'r enw The Prince of Wales's Feathers, ac mai creadigaeth Cymro o awdur ydy Port Caerleon, mewn llyfr prin sy'n dwyn enw'r dafarn yna. Er ei lleoli yn Lloegr fwy neu lai, mae'n amlwg i'r cyfarwydd mai Tre-Bute, yn ardal y dociau yng Nghaerdydd sydd dan sylw.

Yn wir, pan gyhoeddwyd y llyfr 'roedd y gŵr roddodd gopi ohono i mi, Séan Mac Reamoinn (Sean Garmon yng Ngorsedd), yn medru cyfarch gweinydd yng Ngwesty'r Angel yn y brifddinas, gan sôn mor braf oedd y tywydd, a chael yr ateb: 'Yes, sir. But I believe it’s raining in Wales.' Mae pethau wedi newid – hyd yn oed ym Mhort Caerleon/Tre-Bute.

***

YN Y LLYFR ei hun, ychydig o newid sydd ei angen ar enwau'r llefydd ichi fedru mapio ardal Tre-Bute a Thre-Adda ac ati'n weddol fanwl. Mae Maes Loudon yno fel Maes Lothian a Heol Arran ydy un, ond mae Heolydd Llysfaen a Llanbradach yn eu lle megis. Ceir sôn am lefydd pell megis Athen, Lagos a Chorea, ceir Iddew a Groegwr, Cymro a Sais, Gwyddel ac Ethiop du, a'u credoau a'u harferion a'u bwydydd, ond oll wedi eu hasio'n un gymuned.

Cymuned frych, dlodaidd yn darllen y News of the World ac yfed cwrw neu Gin and French, a byw o bensiwn i bensiwn neu o fudd-dal i fudd-dal neu o un pecyn cyflog annigonol i'r llall. Megis ym myd storïau cynnar Kate Roberts, byd o adfyd sydd yma ond bod yma fwy o liw ar fywyd, mwy o chwerthin yn nannedd y ddrycin ac o ffoi i bleserau tros dro rhyw a diod. Mae yna gysylltiadau byd eang gan y rhelyw o'r boblogaeth, ond llawer llai o wreiddiau a thraddodiadau nag oedd yna yn Arfon gyfiaith, gynt.

'Does yma ddim Cymraeg, na hyd yn oed Saesneg, rhwng dynion ym Mhort Caerleon, ond mae yna ddynoliaeth gynnes – ar y cyfan, a dewrder digon Kate Robertsaidd a stoig wrth wynebu troeon yr yrfa.

***

YN WAHANOL i fyd nofelwyr bogeiliol y pum degau, 'dydy rhyw ddim wedi mynd bron yn unig gyfrwng ymwneud pobl â'i gilydd. Mae yna fwy ohono'n sicr nag yng ngwaith Kate Roberts, ond mae fwy fel sydd yna yn Nulyn James Joyce, gyda chrefydd a gwleidyddiaeth a masnach a rhyfela a gofalu am gleifion a phlant a pherthnasau – yn ogystal â rhyw, yn edafedd yng ngwead y gymdeithas. Adar brith ydy'r rhan fwyaf o bobl Port Caerleon, yn byw yr hyn a alwodd Emerson yn 'lives of quiet desperation'.

Ond ar y cyfan mae'r cymeriadau a greodd David Mathews, awdur y nofel, o ba gefndir bynnag y bônt, pruna ydyn nhw'n llongwyr neu'n buteiniaid, yn fenthycwyr pres neu'n dafarnwyr, yn esgus o arwr rhyfel yn yr awyrlu neu'n ferch ifanc hygoelus, mae'r rhain i gyd ag elfen o'r ysbrydol, hyd yn oed o'r crefyddol, yn eu natur. Ymdrinir â nhw wedyn, gan eu creawdwr - a'u Creawdwr - â goddefgarwch a chydymdeimlad a hiwmor, ac heb unrhyw foesoli.

Dyna ddŵad â ni'n dwt ac yn daclus at awdur y gyfrol. Peth digon od ydy cael nofel o law Archesgob – hyd yn oed un Pabyddol! Ond dyna oedd David Mathew. Mwy rhyfeddol ydy'r ffaith iddo ddewis sgwennu am longwyr a phuteiniaid ac ati, yn enwedig o gofio iddo fod yn ddarlithydd mewn Hanes yn Rhydychen, ac iddo sgwennu llyfrau ysgolheigaidd ar bynciau megis 'The Reformation and the Contemplative Life' a 'Scotland under Charles I'

Ond craffer ar deitlau cyfrolau eraill o'i eiddo : 'The Celtic People and Renaissance Europe,' 'The Naval Heritage,' 'Ethiopia' yn ogystal â dwy nofel arall, un wedi ei lleoli yn Affrica a'r llall yn Firenze (Fflorens), yn rhan o'r drioleg sy'n cynnwys 'The Prince of Wales's Feathers.'

***

FEL rydych chi'n gweld, rhyw fath o Gymro wedi crwydro oedd David Mathew; wedi crwydro'r byd ac, megis Graham Green, yn troi pob dŵr i'w felin lenyddol. Fe'i ganed ym 1902, ond ŵyr neb ymhle. Ymunodd â’r llynges yn ddeuddeg oed, adeg y Rhyfel Mawr. Ymlaen wedyn o Dartmouth i yrfa ddisglair yn Balliol, ac yna ymdeimlo â galwedigaeth i fod yn offeiriad Pabyddol. Fe'i hordeiniwyd yin 1929, a bu'n gurad yn Eglwys Gadeiriol Dewi Sant Caerdydd o 1930-40. Dyna pryd y daeth i adnabod Port Caerleon. Aeth i Lundain i fod yn gaplan prifysgol, ac wedyn yn Esgob Cynorthwyol San Steffan.

Bu'n Ymwelydd Apostolaidd ag Affrica, yn enwedig Ethiopia, ac yn brelad uchel yn Bengal, a dyna ymgyfarwyddo â chefndir pell neu agos cymaint o'i blwyfolion gynt yng Nghaerdydd. Cafodd fwy o brofiad perthnasol ar gyfer llunio nofel amdanyn nhw pan fu'n Archesgob i'r lluoedd arfog o 1954-63, ond yr oedd y gwaith wedi ei gyhoeddi eisoes ym 1953.

Derbyniodd David Mathew anrhydeddau lu yn ei yrfa academaidd, a phe bai wedi pregethu mewn capel Cymreig, diau y gwelid M.A (Oxon), D. Lit., L.T.H.D., F.S.A., F.R.S.L. ar ôl ei enw! Bu'n ddarlithydd Ballard Mathews ym Mhrifysgol Cymru ym 1952, ac efallai mai dŵad yn ôl yma bryd hynny a'i hysgogodd i sgwennu neu i orffen 'The Prince of Wales's Feathers.'

Ond yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, yr enillodd ei ddoethuriaeth mewn llenyddiaeth ym 1933, blwyddyn fy ngeni innau, ac yn y coleg lle'r oeddwn i'n fyfyriwr pan gyfarfûm â Séan Mac Reamoinn.

***

AR GYRION Caerdydd yr oedd gwreiddiau David Mathew, o deulu Mathew Llandaf, Radyr a Chastell-y-Mynach. Bu aelodau o'r teulu, chwedl Y Bywgraffiadur, yn dal swyddi stiwardiaid a senesgaliaid yn ystod y 14eg g. dros arglwyddi Seisnig a oedd yn absennol o Gymru; yr oeddent o'r un llinach â Lewisiaid y Van, Caerffili ac yn deillio, yn ôl achau'r 15eg g., o Gwaethfoed Fawr, Ceredigion.

Yr oedd Syr David Mathew (fl. 1428-84), mab i un o bleidwyr Owain Glyndŵr, yn un o ddilynwyr teulu Neville ac yn flaenllaw ym mhlaid yr Iorciaid.' Bu dwy linach i'r teulu wedyn, er mynych gyd-briodi rhyngddyn nhw, un yn frenhinwyr a'r llall 'llinell Radyr yn wastad, yn wleidyddol, ac weithiau yn bur weithredol, yn Gatholigiaid,' ac iddyn nhw berthynas ag Iwerddon lle y delid tir. Ym 1783 crëwyd Francis Mathew yn Arglwydd Llandaf ym mhendefigaeth Iwerddon. A deuthum ar draws ffaith arall a'm cysylltai â theulu'r awdur, sef i aelodau llinach Castell-y-Mynach i'r teulu etifeddu, trwy briodas, ystâd Castell Hensol, lle bûm i'n byw ac yn dechrau hel fy nhaclau i geisio sgwennu am Bort Caerleon chwarter canrif ar ôl i David Mathew gyhoeddi 'The Prince of Wales's Feathers.'