BLE MAENT...? gan Dafydd Lloyd Hughes

PA LE Y MAE HEN LYFRAU CYMREIG YN MYNED ? Dyna oedd pennawd erthygl olygyddol yn Y Goleuad 12 Gorffennaf 1888 a chwestiwn digon dyrys i hoelio sylw unrhyw aelod o Gymdeithas Bob Owen. Cwestiwn rhethregol hefyd oblegid aeth y golygydd i chwilio am ateb i'w broblem ei hun, a daeth i'r penderfyniad nad oedd bobl yn y byd crwn yn gwneud uwch honiadau o serch at bethau cenedlaethol na'r Cymry; a'r un pryd amheuai a geid genedl yn dangos mwy o ddibrisdod gwirioneddol o rai pethau.

Ymysg pethau eraill gofynnodd ym mha le y mae y llyfrau sydd yn cynnwys cynhyrchion Cymru Fu, yr hen lyfrau Cymraeg a argraffwyd, a wnaethant wasanaeth gwerthfawr yn eu dydd.

0 edrych yn ôl am ddim ond ychydig ddegau o flynyddoedd - a chofier mai ym 1888 yr oedd yn sgrifennu - pa nifer, gofynnai, o hen lyfrau Cymraeg oedd yn dal ar gael. Gwelai rai o'r llyfrau mwyaf gwerthfawr yn mynd o dan forthwyl yn Llundain i borthi awydd bonheddwyr o Saeson neu dramorwyr cyfoethog am bethau od a ninnau'r Cymry yn gadael i'r cyfan lithro drwy ein dwylo.

Aeth bron ganrif heibio ers yr erthygl honno a gwireddwyd un o freuddwydion y golygydd trwy sefydlu'r Llyfrgell Genedlaethol. Ond prin fod honno'n medru meddwl am ddiogelu rhagor nag ychydig o gopïau o unrhyw lyfr heb sôn am y tebygolrwydd nad yw ei chasgliadau'n gyflawn. A beth am y gweddill ?

Ychydig dros flwyddyn yn ôl cyhoeddwyd erthygl o'm heiddo yn olrhain hanes argraffu ym Mhwllheli hyd ddiwedd y ganrif ddiwethaf a rhestrais y llyfrau y gwyddwn amdanynt. Cymerer, er enghraifft, y 30 o lyfrau a argraffwyd cyn 1870 yn y dref. Saith yn unig a welais hyd hyn wrth grwydro siopau llyfrau ail-law yn ystod y deng mlynedd diwethaf.

Beth sydd wedi digwydd i'r gweddiII? A ddiflanasant am byth? Ac os daw un neu ddau i'r golwg beth fydd eu gwerth? Cynnyrch un tref sydd gen i o dan sylw. Beth am gynnyrch y gweisg bychain eraill ?