CYMRAEG YR HEN LYSIEULYFR gan Raymond B.Davies

 

Wyneb-ddalen argraffiad 1633 yr 'Herbal or General Historie of Plantes' gan John Gerrard

MAE'R ail argraffiad o lysieulyfr John Gerard, sef Herball, or general historie of plantes (1633), a gywirwyd ac a helaethwyd gan Thomas Johnson, yn arbennig o bwysig i'r Cymry oherwydd ynddo ceir rhestr o enwau planhigion yn Gymraeg 'A catalogue of the British names of plants, sent me by Master Robert Davyes of Guissaney in Flint-shire'. Mae'r rhestr hon o enwau yn ffynhonnell bwysig oherwydd dyma un o'r rhestri cynharaf i gael ei chyhoeddi. Yn ddiweddar, ail gyhoeddwyd y rhestr, gydag enwau Saesneg a gwyddonol, mewn erthygl gan Dorian Williams, sef 'Rhestr gynnar o enwau planhigion yn Gymraeg' yn Y Gwyddonydd, Cyf. 17, Rhif 2, Mehefin 1979, tt. 73-78.

Mae wyneb-ddalen ail argraffiad yr Herball yn adlewyrchu agwedd y cyfnod at lysieueg.

Yn ystod yr oesoedd canol, ni chafwyd datblygiad sylweddol yn y wyddor hon y tu allan i gylch dylanwad gweithiau'r Clasurwyr e.e. Galen, Pliny, Dioscorides a Theophrastus. Hyd at yr unfed ganrif ar bymtheg, yn gyffredinol ychydig iawn o ddiddordeb a oedd gan feddygon mewn astudio Planhigion lleol; gwell oedd ganddynt ddibynnu ar awdurdod gweithiau'r Clasurwyr a oedd yn ymwneud yn bennaf Phlanhigion glannau'r Mr Canol.

Eithriad i'r duedd hon oedd Meddygon Myddfai (Rhiwallon a'i feibion a wasanaethai Rhys Grug, Arglwydd Dinefwr o 1222-1233). Ymddengys fod ganddynt hwy wybodaeth helaeth o'r flora lleol.

Yn ei Herball (a gyhoeddwyd gyntaf yn 1597), ychwanegodd Gerard ei sylwadau ei hun at weithiau'r Clasurwyr gan gynnig enwau newydd ar blanhigion Prydeinig a disgrifiadau newydd ohonynt. Adlewyrchir parhad dylanwad y Clasurwyr ar wyneb-ddalen yr ail argraffiad a engrafwyd gan John Payne. Mae'n cyfuno lluniau duwiesau'r cynhaeaf, sef Ceres a Pomona, gyda'r awduron Theophrastus a Dioscorides. Ond mae llun yr awdur modern hefyd ar y wyneb-ddalen yn cydnabod ei bwysigrwydd ef fel ffynhonnell newydd o wybodaeth am blanhigion.

Yn hanes botaneg, mae llysieulyfr Gerard yn perthyn i gyfnod y llysieulyfrau mawrion. Eraill a berthyn i'r un cyfnod yw'r llyfr Almaeneg De historia stirpium (1542) gan Leonhart Fuchs a'r New Herball (1551-68) gan William Turner.

Ar y ddau waith yma y seiliwyd y llysieulyfr Cymraeg enwocaf, sef y Llysieulyfr meddyginiaethol a briodolir i William Salesbury, a gyfansoddwyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg a'i gyhoeddi ym 1916 o dan olygyddiaeth E. Stanton Roberts. Tuedd y cyfnod oedd pwysleisio defnydd meddyginiaethol planhigion. Ni wawriodd cyfnod botaneg bur (heb ystyried defnydd planhigion) tan ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg.