MEIBION CERDD gan Robin Gwyndaf

 

Enwau'r aelodau, o Lansanffraid, Glynceiriog, oni nodir yn wahanol.
Rhes flaen(o'r chwith): Hywel Edwards, Greenfield; Ifor Thomas, Rhosllannerchrugog; William H.Parry, Berwynfa; Trefor Owen Hughes, Fron Goch(arweinydd); John Roberts, Dolan(cyfeilydd); Hugh Hughes, Hollies; Iorwerth Jones, Gables(mab E.P.Jones).
Rhes ôl: Glyn Davies, Y garth(Glyn Joe'r Hand, oherwydd fod ei dad yn byw yn nhafarn Yr Hand); Ted Roberts, Hafod Gynfor('Lawson', oherwydd ei fod yn ganwr enwog!); Bill Jones, Rhos; Golbourne D.I.Parry, Berwynfa; David Owen Hughes, Pen-cae; Emlyn Davies, Y Garth('Lafi'); E.P.Jones, Gables.

FE ŴYR y cyfarwydd yn dda am etifeddiaeth ddiwylliannol gyfoethog trigolion Dyffryn Ceiriog. Rhan o'r etifeddiaeth hon yw traddodiad cerddorol y cylch, traddodiad sydd, diolch am hynny, yn parhau yn fyw iawn o hyd. Cofiwn, er enghraifft, am Gôr Cymysg Dyffryn Ceiriog, (arweinydd Arthur O. Thomas) ac am y Côr Meibion (arweinydd R.E. Davies).

Ond pwrpas y nodyn hwn yn awr yw cyfeirio'n fyr at un parti meibion arall a fu'n cynnal traddodiad cerddorol y Dyffryn yn loyw iawn yn nauddegau a thridegau cynnar y ganrif hon. Adwaenid y parti wrth enw Saesneg (digon nodweddiadol o'r cyfnod, er bod pob un o'r aelodau yn Gymry Cymraeg), sef 'The Ceiriog Glee Singers.'

Tua 1918 sefydlodd E.P. Jones, Gables, Llansanffraid Glynceiriog, barti canu carolau, yn cynnwys rhyw wyth o fechgyn ifanc (a dau ohonynt yn canu soprano, gan fod eu lleisiau heb dorri!) Y mae un o'r aelodau, Golbourne Parry (a oedd yn bymtheg oed bryd hynny ac ymhlith yr ieuengaf o'r parti), yn cofio'n dda am ei fam yn dweud wrtho y câi ymuno ar yr amod nad oedd i fynd i mewn i dafarn i ganu. Câi ganu y tu allan iddi, ond nid y tu fewn.

O'r parti carolau hwn y tyfodd 'The Ceiriog Glee Singers'. Dechreuodd drwy i William H. Parry (brawd Golborune Parry a thenor nodedig) fynd i ymarfer gyda rhai o aelodau'r parti ac eraill yng 'Nghôr y Felin', sef beudy bychan – lle i bedair buwch, taflod uwchben a bing – yn perthyn i'r Felin Ganol, Glynceiriog, (melin wlân gynt), ar dir yn eiddo i Thomas Foulkes, Llys Aber.

Buont yn cystadlu llawer mewn eisteddfodau (gan `guro Côr Meibion y Glyn bob tro!'). Y darn yr enillent amlaf arno ydoedd 'Sêr y Bore', y geiriau gan Morgan Rhys a'r gerddoriaeth gan Daniel Protheroe.

Dyma un hanesyn o'r cyfnod diddorol hwn. Yr oeddynt un tro yn cystadlu ym Mhrestatyn, ac yno hefyd yr oedd David Lloyd, yn hogyn ifanc. Gofynodd iddynt beth yr oeddynt yn ei ganu y noson honno ac a gâi yntau ganu gyda hwy. Ac fe gafodd. Gofynnodd ymhellach a gâi ymuno a'r parti yn barhaol, ond nid oedd Trefor Owen Hughes, yr arweinydd, yn ffafriol iawn i hynny, oherwydd ei fod yn byw mor bell o'r Dyffryn.

***

CYFRANIAD pwysicaf y parti, fodd bynnag, ydoedd canu mewn nifer fawr o gyngherddau mewn capeli a neuaddau hwnt ac yma yng Ngogledd Cymru a'r Gororau i godi arian at achosion da o bob math. Dyma hefyd un o'r partïon meibion cyntaf yng Nghymru i ganu ar y radio (tua 1931).

Darlledwyd y cyngerdd o Fanceinion, ac oherwydd nad oedd gan y mwyafrif o drigolion Glynceiriog bryd hynny radio, trefnwyd iddynt glywed y rhaglen yn Neuadd Seion (neu'r 'Assembly'), Capel y Bedyddwyr. Ar yr achlysur hwn y tynnwyd llun y parti, gan Dave W. Jacobs, Wrecsam.

Erbyn heddiw dau yn unig o'r aelodau sy'n fyw: David Owen Hughes a Golbourne D.O. Parry.

DIOLCH
I Golbourne Parry, Weniar, Glynceiriog, fy nhad yng nghyfraith, am hanes y parti ac am gael benthyg y llun, ac i Amgueddfa Werin Cymru am brint o'r llun hwn i'w gyhoeddi yn Y Casglwr.

APÉL
Carwn weld darllenwyr Y Casglwr a'u cyfeillion yn gwneud eu gorau i gasglu lluniau, rhaglenni, llawysgrifau, etc. sy'n portreadu traddodiad cerddorol eu bro, ac yn cyflwyno'r defnyddiau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, yr Archifau Sirol neu Amgueddfa Werin Cymru. Yn well fyth, carwn weld rhywrai yn mynd ati i ysgrifennu hanes y traddodiad hwn. Byddai cyhoeddi cyfres helaeth o lyfrau ar draddodiad cerddorol gwahanol ardaloedd yng Nghymru yn gyfraniad gwerthfawr.