MIWSIG LLANIDLOES gan Huw Williams

NID OES raid astudio hen gylchgronau'r genedl yn rhyw ofalus iawn cyn sylweddoli mai Bethesda, Llanidloes a Merthyr Tudful oedd y lleoedd mwyaf cerddorol yng Nghymru tua chanol y ganrif ddiwethaf. Bu amryw o gerddorion sy'n haeddu lle anrhydeddus yn hanes cerddoriaeth ein gwlad, oherwydd eu gwaith gwych dros ganu corawl a chynulleidfaol, naill ai'n byw yn y lleoedd hynny neu ynteu'n dal rhyw gysylltiad â hwy.

A'r cyfraniad pwysicaf ohonynt i gyd i gerddoriaeth gysegredig Cymru oedd gwasanaeth teulu'r Milsiaid, Llanidloes, a barhaodd am dair cenhedlaeth, a dod yn enwog trwy Gymru gyfan.

Yn Llanidloes y cyhoeddwyd amryw o lyfrau'r Milsiaid a llyfrau nifer o gerddorion eraill a fu'n gyfrwng cychwyn cyfnod newydd yn hanes canu cynulleidfaol Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Y cyntaf o'r rheini oedd Gramadeg Cerddoriaeth . . . John Mills, a gyhoeddwyd gan John Mendus Jones ym 1838. Cafwyd ail argraffiad o'r llyfr hwn ym 1842, yn cael ei ddilyn gan drydydd argraffiad gan yr un cyhoeddwr ym 1850, a chymaint y bu'r galw amdano ar aelwydydd ac yn eglwysi'r genedl fel y darparwyd pedwerydd argraffiad gan Owen Mills ym 1862.

Yn ei ragymadrodd i'r Gramadeg . . . dywed John Mills mai'r hyn a'i cymhellodd i'w ysgrifennu oedd "gweld fod cerddoriaeth mewn agwedd a sefyllfa dra isel yn ein plith fel cenedl, yn neillduol cerddoriaeth eglwysig". Rhannwyd cynnwys y llyfr i bedair rhan sef yn gyntaf, 'Nodiant cerddoriaeth'; yn ail 'peroriaeth'; yn drydydd 'cynghanedd'; ac yn bedwerydd 'cyfansoddiant', a thrwy gyfrwng y cyfarwyddiadau buddiol a geir ynddo y cafwyd yr hyn y cyfeirir ato'n aml yn hanes cerddoriaeth y genedl fel `anadliad o Lanidloes'.

Cafodd y llyfr gylchrediad da, ac ef oedd y gorau o'i fath a gafodd Cymru hyd nes y cyhoeddwyd Gramadeg Cerddorol Alawydd ym 1848, yn cael ei ddilyn gan argraffiad diwygiedig o'r gwaith hwnnw ym 1862.

***

YM 1840 dilynwyd Gramadeg John Mills gan Caniadau Seion, sef casgliad o donau addas i'w canu yn yr addoliad dwyfol gan Richard Mills. Argraffwyd a chyhoeddwyd y gyfrol hon yn Llanidloes gan John Mendus Jones, a chafwyd Attodiad i'r Caniadau Seion o'r un argraffwasg ym 1842. Yn y prif gasgliad ceir 214 o donau (yn cynnwys dros ugain o'r hen alawon Cymreig), 13 o anthemau, a darnau gosodedig, ac fe gynnwys yr Attodiad tua 80 o donau, yn ogystal â nifer o anthemau.

Yr oedd Caniadau Seion yn un o gasgliadau tonau pwysicaf y ganrif o'r blaen, onid y pwysicaf un yn yr ystyr bod Richard Mills wedi ceisio torri tir newydd yn hanes canu cysegredig trwy geisio cyflwyno gwell alawon i sylw'r eglwysi fel cyfryngau mawl nag y gwnaeth ei ragflaenwyr.

'Roedd y gerddoriaeth a gynhwyswyd yn Caniadau Seion yn rhagori mewn amrywiaeth ac arddull ar bopeth a gafodd y genedl o'i flaen, ac am y rheswm hwnnw bu golygyddion y gwahanol gasgliadau tonau enwadol yn ystyried ei gynnwys fel patrwm o'r hyn y dylai casgliad tonau fod am hanner canrif neu ragor.

Yn Caniadau Seion y cyhoeddwyd am y tro cyntaf mewn casgliad tonau Cymreig amryw o alawon sy'n dal i gael eu defnyddio heddiw fel cyfryngau mawl, yn eu plith y dôn 'Wyddgrug', y dywedir i John Ambrose Lloyd ei llunio pan oedd yn 16 oed, a cheir yn y gyfrol hefyd ambell gyfaddasiad o gerddoriaeth y meistri, fel 'Y Nefoedd sy'n datgan' (Haydn).

Yn yr Attodiad trefnodd Richard Mills 'Minuet' o agorawd Samson (Handel) fel tôn ddirwestol, yn ogystal â 'Dead March in Saul' (Handel) ar gyfer angladdau, dan yr enw 'Gweryd'. Credaf mai'r Caniadau yw'r gyfrol gyntaf a gafodd y genedl lle y ceir tudalen sy'n rhoi gwybodaeth am yr awduron sydd a'u henwau wrth y tonau, yn Gymry ac yn gerddorion estron. Gwyn fyd na fuasai'r gweddill o olygyddion casgliadau tonau'r ganrif o'r blaen wedi dilyn esiampl Richard Mills yn hyn o beth!

Cyhoeddwyd argraffiadau Americanaidd o'r Caniadau ym 1847 ac ym 1853, yr ail wedi ei olygu gan John Mills, Edward J. Lewis, ac eraill, a'i gyhoeddi gan Thos T. Evans, Utica. Gyda llaw, nid yn aml heddiw y gwelir copi cyflawn o Caniadau Seion (1840) yn un o'r siopau ail-law, ond clywais am gopi mewn cyflwr da yn cael ei werthu am bymtheg punt i un o aelodau Cymdeithas Bob Owen rhyw flwyddyn yn ôl!

***

MEWN ymateb i geisiadau gan ieuenctid Cymru am lyfrau addas i ddysgu canu a chyfansoddi cerddoriaeth y darparodd Richard Mills Yr Arweinydd Cerddorol, rhannau 1-3 (1842-5). Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf o ran cyntaf y gwaith hwn gan J. Menus Jones ym 1842, yn cael ei ddilyn gan ail a thrydydd argraffiad o'r un argraffwasg ym 1844 a 1848, ac yna gan bedwerydd argraffiad wedi ei ddarparu gan Owen Mills (nai Richard Mills) ym 1860.

Cyhoeddwyd tri argraffiad o ail ran Yr Arweinydd . . . , y cyntaf a'r ail gan J. Mendus Jones (1843 a 1846), a'r trydydd ym 1859 gan Owen Mills. Bu Richard Mills farw cyn cwblhau'r trydydd rhan, ac fe'i cyhoeddwyd (dan ofal y ddau frawd, John a Richard Mills) gan J. Mendus Jones ym 1845. Cyhoeddwyd ail argraffiad o'r trydydd rhan ym 1865, wedi ei ddarparu gan Owen Mills a John Pryse (gŵr a briododd weddw Richard Mills).

Cafodd Yr Arweinydd Cerddorol eto dderbyniad rhagorol gan y genedl, a gwerthwyd dros naw mil o gopïau o'r gwahanol rannau mewn ychydig amser. Yn y casgliad hwn y gwelwyd tôn Almaenaidd am y tro cyntaf mewn casgliad Cymreig, ac y mae hynny'n dweud cryn lawer wrthym heddiw am chwaeth gerddorol Richard Mills, a oedd yn pori mewn ffynonellau Almaenig cyn cyfnod gweithgarwch Ieuan Gwyllt. Nid yw copïau o'r Arweinydd . . . yn cael eu hystyried yn brin heddiw, er mai gwaith pur anodd yw dod o hyd i set gyflawn o'r rhannau yn yr argraffiad cyntaf.

***

CASGLIADAU cerddoriaeth eraill wedi eu darparu gan aelodau gweithgar o deulu'r Milsiaid, a gyhoeddwyd yn Llanidloes sy'n haeddu eu henwi yw Y Cerddor Eglwysig (John a Richard Mills; J. Mendus Jones 1846p7); Y Salmydd Eglwysig (John Mills; J. Mendus Jones 1847); Elfennau Cerddoriaeth (John Mills; J. Mendus Jones 1848); Y Cerddor Dirwestol (John a Richard Mills; J. Mendus Jones, yn rhannau 1851-55); Y Canor, sef cyfarwyddyd i ddysgu canu yn rheolaidd (John a Richard Mills; J.M. Jones 1851); Y Salmydd Eglwysig (John Mills; Owen Mills 1856; ail arg. gydag ychwanegiadau ym 1857 gan Owen Mills); a Cerddor yr Ysgol Sabbothol a'r Band of Hope (Richard Mills; Owen Mills, yn 2 ran 1858-50).

Cyhoeddwyd amryw o weithiau cerddorol pwysig eraill yn Llanidloes yn y ganrif o'r blaen heblaw llyfrau yn dwyn enwau rhai o deulu'r Milsiaid fel awduron, yn eu plith Eos Cymru (Wiliam Jacob, J. Mendus Jones, yn gyflawn ym 1844); Telyn Seion (Rosser Beynon; J. Mendus Jones; 1845-48); Ceinion Cerddoriaeth Gorawl ac Eglwysig (Thomas Williams, 'Hafrenydd'; 2 gyfrol, J.M. Jones ac Owen Mills 1852-6): a Geirlyfr Cerddorol ('Hafrenydd'; argraffwyd gan Owen Mills 1862).

Eos Cymru (1844), sef casgliad o donau, erddyganau gwreiddiol, ac anthemau, wedi ei olygu gan William Jacob (codwr canu Capel Pendref Treffynnon) oedd y llyfr tonau cyntaf a gafwyd ar gyfer emynau'r Wesleaid yng Nghymru. Er bod y gynghanedd a'r acen yn wallus iawn yn y gerddoriaeth, mae'r casgliad yn un eithaf diddorol am mai ynddo y cyhoeddwyd rhai o gytganau mawr Handel am y tro cyntaf mewn casgliad Cymreig, yn eu plith 'Rhowch foliant i Dduw ' a 'Teilwng yw'r Oen'.

***

LLUNIWYD Telyn Seion gan Rosser Beynon, – 'Apostol Canu Cynulleidfaol Deheudir Cymru' – ac y mae ynddo 130 o donau ar dros gant o fesurau, gan gynnwys ugain o donau gwreiddiol gan y golygydd ei hun, na chenir yr un ohonynt erbyn heddiw. Ynddo hefyd y cyhoeddwyd chwech o donau John Ambrose Lloyd am y tro cyntaf, gan gynnwys 'Groeswen' (Yn Eisteddfod y Groeswen, Morgannwg, ym 1845, o dan feirniadaeth Rosser Beynon, yr enillodd John Ambrose Lloyd ei wobr gyntaf am gyfansoddi, a chyfansoddodd 'Groeswen' yn arbennig i Telyn Seion).

Mae'r casgliad hwn eto yn eithaf prin erbyn heddiw, ond gan nad yw'r gyfrol hanner mor bwysig a Caniadau Seion Richard Mills, ni ddylid talu mwy na ryw ddegpunt am gopi, a hwnnw mewn cyflwr da!

Mae yn Ceinion Cerddoriaeth (Hafrenydd) dros ddau gant o donau ar 68 o fesurau, ac ynddo yr ymddangosodd am y tro cyntaf mewn casgliad Cymreig yr hen ffefryn 'Lausanne' ( a anfarwolwyd gan David Lloyd!), a hefyd amryw o gytganau o Creation (Haydn) a Messiah a Samson (Handel).

'Hafrenydd' ei hun a gyhoeddodd y Geirlyfr Cerddorol, sef y llyfr cyntaf o'i fath yn y Gymraeg, yn cynnwys 'eglurhad ar fwy na deuddeg cant o dermau cerddorol', ac a fu o help mawr i lawer o Gymry uniaith feistroli elfennau cerddoriaeth yn y ganrif o'r blaen.

***

AC YN olaf, cyhoeddiad arall eithriadol o bwysig a gafwyd o Lanidloes yn y ganrif o'r blaen oedd Yr Athraw Cerddorol, sef misolyn yn cynnwys ysgrifau ar gerddoriaeth a thonau, yn cael ei olygu gan John Mills a Thomas Williams (Hafrenydd), a'i gyhoeddi gan Owen Mills.

Hwn oedd y cylchgrawn cerddorol safonol cyntaf a gafodd y genedl, ond yn anffodus, oherwydd diffyg cefnogaeth, ni chyhoeddwyd ond pedair rhan ohono, sef rhifynnau Mai, Mehefin, Gorffennaf, a Medi 1854. Mae'r rhain eto yn eithaf prin erbyn heddiw.