SI�N SIENCYN - Y CASGLWR MAWR gan Huw Walters
LLENWID s�t fawr capel yr Annibynwyr ym Mryn Seion, Glanaman pan oeddwn yn grwt gan hen lowyr a gweithwyr tun, � gweddillion hen ddiwylliant y de bellach, a chanlynwyr ffyddlon Annibynia Fawr yn un o'i chadarnleoedd.
Yr oedd y rhain � Henry Thomas o'r Pistyll-llwyd, John Phillips, John Jenkyn Morgan, Dafydd Daniel (gaffer yng nglofa Gelliceidrim a thad Syr Goronwy) yn gynnyrch gweinidogaeth danllyd Towyn Jones yng Nghwmaman, a gallent adrodd yn atgofus hiraethus am yr eisteddfodau plant llewyrchus hynny a gynhaliwyd yn yr ardal yn ystod gweinidogaeth Rhys J. Huws ym mlynyddoedd y Rhyfel Mawr.
Hen ŵr dros ei bedwar ugain oed oedd John Jenkyn Morgan yn fy nghof i, yn lluniaidd ei osgo serch hynny, a'i wallt cyn wynned �'r eira. Mae gennyf gof byw o gael cerydd ganddo un prynhawn Llun y Pasg adeg Cymanfa Ganu Annibynwyr y Cwm, a hynny am i mi ac amryw o grytiaid eraill fynd i guddio i lofft yr organ yn y capel cyn dechrau'r cwrdd pnawn. A gallai Si�n Siencyn fod yn llym ei dafod pan gythruddid ef.
***
GANWYD ef yn y Bodist Isaf, Cwmaman ar Awst 10 1875 yn fab i Jenkin ac Angharad Morgan un o deuluoedd hyna'r ardal. Yn yr un ffermdy y ganwyd Jonah Morgan Cwm-bach, Aberd�r (1807-1884) un o gedyrn pulpud yr Annibynwyr yn ei ddydd, tad-yng-nghyfraith T.M. Thomas y cenhadwr o Affrica a T. Cynonfardd Edwards y darlithydd a'r pregethwr poblogaidd o Wilkes Barre, Pennsylvania.
Ychydig iawn o ysgol a gafodd Si�n Siencyn a dechreuodd weithio yng nglofa'r Mynydd Cwmaman pan yn 12 oed. Bu wedyn yn gweithio ym melin gwaith aIcan y Raven yng Nglanaman cyn ymddeol ohono ym 1930. Yr oedd ei wraig Harriet, hithau yn disgyn o linach anrhydeddus ac yn ferch i Thomas a Sarah Jones o Siop Bryn-lloi yn y pentref. Bu hi farw mewn gwasanaeth crefyddol ym Mryn Seion yn Nhachwedd 1956, a brodyr iddi oedd y Parchedigion W. Glasnant Jones, Abertawe, E. Aman Jones, y Rhyl, a Dafydd GIanaman Jones, Pontardawe � cofiannydd Cranogwen.
Mewn oes ddifantais manteisiodd Si�n Siencyn ar bob cyfle i hogi meddwl a dawn. Yr oedd yn ŵr o ddiwylliant eang, a thrwy ei gyfeillgarwch agos � Richard Williams, Gwydderig, datblygodd yn eisteddfodwr brwd, ac enillodd lawer o wobrau, yn bennaf am draethodau a llawlyfrau ar hanes lleol.
Urddwyd ef yn aelod o Orsedd y Beirdd yn Llanelli ym 1895 ac fel Glanberach yr adwaenid ef yng Ngorsedd. Gwasanaethodd fel un o lywyddion y dydd yn Eisteddfod Genedlaethol 1948, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac ef oedd aelod hynaf yr Orsedd ar farwolaeth Elfed ym 1953.
Bu'n gystadleuydd cyson a pheryglus yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol yn ogystal, ac ni fu ei well am feirniadu'r beirniaid, yn enwedig os oedd y rheini'n rhai o geiliogod y colegau. Cipiodd wobrau yn Eisteddfodau Rhydaman 1922, Abertawe 1926, Caergybi 1927, Dinbych 1939, Llanrwst 1951 a Phwllheli 1955.
Wedi ymddeol ohono ym 1930 aeth Si�n Siencyn ati o ddifri i groniclo hanes ei ardal gan gasglu manylion am yr hen ddiwydiannau a'r achosion crefyddol, cymeriadau mawr a bach fel ei gilydd, a chasglodd gannoedd lawer o ganeuon, cerddi ac englynion beirdd y rhan arbennig hon o ddwyrain yr hen Sir G�r a gorllewin Morgannwg.
Yr oedd yn achydd tan gamp yn ogystal, a chasglodd ddeunydd o bob math ar deuluoedd y fro. Darlledodd cryn lawer ar y radio yn enwedig yn y pedwardegau a chyfrannodd erthyglau ar hanes lleol i'r wasg gyfnodol a newyddiadurol Gymraeg. Bu farw yn ei gartref ar Fryn-lloi, Glanaman ar Fai 18 1961 a chladdwyd ef ym mynwent yr Hen Fethel Cwmaman.
***
GWYDDWN, a minnau'n grwt ysgol am y trysorau, am y llyfrau print a llawysgrifau a gasglodd Si�n Siencyn dros y blynyddoedd, ond cyndyn iawn oedd ei deulu i ganiat�u i neb eu gweld. Fodd bynnag pan ddechreuais fagu diddordeb mewn hanes lleol, a minnau ar y pryd yn ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Rhydaman, llwyddais i gael caniat�d y teulu i gop�o�r traethodau ac i godi nodiadau o bapurau'r hanesydd.
Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach yng Ngorffennaf 1976 gwelais un o ferched Si�n Siencyn yn Aberystwyth, soniodd wrthyf ei bod yn bwriadu adnewyddu'r hen gartref ar Fryn-lloi a'i bod yn awyddus i glirio'r holl lyfrau, � gan fod gormod yno i'w llosgi! Euthum yno ar f'union y Sadwrn canlynol ac fe'm brawychwyd gan faint y dasg �'m hwynebai.
Cauwyd Siop Bryn-lloi yn ystod dirwasgiad y tridegau ac fe'i defnyddiwyd gan Si�n Siencyn fel ystafell waith tan ei farw. Yr oedd y siop yn orlawn gan lyfrau, y silffoedd yn gwegian dan bwysau llyfrau a phapurach o bob math, y llawr wedi'i orchuddio gan gistiau te a bocsys a'r rheini'n llawn cylchgronau a phapurau newyddion.
Gweithiwr cyffredin fu Si�n Siencyn erioed a phrin fod ganddo lawer o gyfoeth y byd hwn i wario ar lyfrau. Serch hynny llwyddodd i gasglu llyfrgell gyffredinol dda o ddefnyddiau yn ymwneud � hanes Cymru, a hanes Sir Gaerfyrddin yn fwyaf arbennig.
Amrywiai'r deunydd hyn o f�n bamffledi fel Caio a'i Hynafiaethau, Gwilym Teilo, i lyfrau ychydig mwy sylweddol fel Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr, D.E. Jones neu Old Llanelly, John Innes, ac i gyfrolau mwy swmpus fyth fel eiddo D. Rhys Phillips The History of the Vale of Neath. O'r casgliad hwn hefyd y cefais fy nghop�au o Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, Thomas a Rees, a nifer fawr o weithiau defnyddiol eraill megis Album Aberhonddu, Oriel Coleg Caerfyrddin, llu o eiriaduron bywgraffyddol gan gynnwys dwy gyfrol fawr Josiah Thomas Jones, a gweithiau Helen Elwy, Iorwerth Ceitho, Isaac Foulkes, T. Mardy Rees, Thomas Morgan Sgiwen, ac eraill.
Yr oedd yno gasgliad da hefyd o ddefnyddiau a argraffwyd gan Reesiaid y Tonn yn Llanymddyfri gan gynnwys copi gl�n o'r Iolo MSS a fu unwaith yn eiddo i Watcyn Wyn.
***
SI�N Siencyn oedd ysgrifennydd darllenfa'r glowyr yng Nghwmaman a chanddo gyfrifoldeb dros brynu defnyddiau i'r llyfrgell. Pan fu farw Rhys J. Huws ym 1917 trefnodd Si�n Siencyn i brynu ei lyfrgell, � dros dair mil o gyfrolau i'r ddarllenfa am �150.
Nid dyma'r lle i adrodd tynged anffodus y ddarllenfa hon, digon yw dweud i'r cyfan gael ei chwalu yng nghanol y chwedegau, ond yr oedd amryw o gyfrolau'r casgliad ymhlith llyfrau Si�n Siencyn. Casgliad o weithiau gan Fyrddin Fardd er enghraifft, Caniadau John Morris-Jones (yr argraffiad arbennig), a chylchgronau fel y Cymru coch a'r hen Geninen.
Ychydig o lyfrau'r ddeunawfed ganrif a berthynai i'r casgliad fodd bynnag, ond yr oedd yno gopi o argraffiad 1722 o'r Ffydd Ddiffuant, Charles Edwards, rhai marwnadau a baledi a chasgliadau o emynau.
Soniais eisoes am draethodau eisteddfodol Si�n Siencyn. Cefais gyfle i gopio rhai o'r defnyddiau hyn flynyddoedd yn �l, megis ei fywgraffiad o'r baledwr a'r gwrth Undodwr Owen Dafydd o Gwmaman (1751-1814?), yn ogystal �'i gasgliad o weithiau anghyhoeddedig beirdd dyffryn Aman.
Ond eitem ddiddorol arall na wyddwn i ddim amdani oedd ei gofiant i'w gyfaill Gwydderig ynghyd � chasgliad o englynion y bardd, � casgliad sy'n cynnwys ugeiniau o englynion nas cyhoeddwyd gan Mr J. Lloyd Thomas yn ei Ddetholion o Waith Gwydderig, 1959. Cyflwynais lawer o'r eitemau hyn a oedd mewn llawysgrif ar ran y teulu i ofal y Llyfrgell Genedlaethol.
***
FEL Y gellid disgwyl yr oedd cynnyrch gwasg Gymreig y ganrif ddiwethaf yn amlwg yn y casgliad, � y gwych a'r gwachul fel ei gilydd, cyfrolau amryw o bregethau a chofiannau, marwnadau a baledi a argraffwyd yn lleol. Ac yn y defnyddiau hyn yr oedd fy mhrif ddiddordeb i, er imi gadw popeth a berthynai i'r casgliad gwreiddiol.
Fe'm brawychwyd wrth baratoi'r nodyn hwn pan sylweddolais mai ugain mlynedd yn �l i eleni y bu John Jenkyn Morgan farw, ac yr oedd yn sicr ymhlith yr olaf o weithwyr diwylliedig Cwmaman. Ac wrth ystyried hynny cyfrifaf hi'n fraint o gael fy ngheryddu mor llym ganddo flynyddoedd lawer yn �l yng Nghymanfa Annibynwyr y Cwm.