TEULU SPURRELL - INC YN Y GWAED gan Richard E.Huws

YN SICR fe gydnabyddir Gwasg Spurrell, a sefydlwyd yng Nghaerfyrddin yn 1840, fel un o weisg mwyaf dylanwadol Cymru. Gwnaeth ei sylfaenydd William Spurrell (1840-1889) gyfraniad pwysig nid yn unig i ddatblygiad geiriaduraeth, ond trwy gyfrwng ei wasg cyhoeddodd rai cannoedd o lyfrau ar destunau amrywiol a gynhyrchwyd i safonau gorau'r cyfnod. Ymddiddorai ac ysgrifennai’n gyson ar ei syniadau i wella prosesau technegol argraffu, ac ymboenai ynglŷn â sut y gellid hwyluso'r broses o gysodi'r iaith Gymraeg.

Yn dilyn ei farwolaeth bu ei fab, Walter Spurrell (1858-1934) yn goruchwylio'r busnes, a gwnaeth yntau hefyd gyfraniad sylweddol i'w ddatblygiad, yn fwy arbennig efallai o safbwynt aestheteg argraffu. Fe'i cydnabyddid fel un o argraffwyr medrusaf ei gyfnod, a dengys ei gysylltiadau agos a chynnar gyda chyrff academaidd fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Bwrdd Gwasg y Brifysgol, ei allu i ddenu gwaith o ffynonellau sy'n hawlio'r safonau uchaf.

Ganed William Spurrell (1813-1889) yng Nghaerfyrddin, yn fab i Richard Spurrell(1782-1847), clerc ynadon, bragwr, a gŵr bonheddig. Er i Richard Spurrell gael ei fagu yn y dre, fe'i ganed yng Nghaerfaddon, gan symud i Gymru tra'n fachgen cymharol ifanc. 'Roedd ei dad John Spurrell (1748-1801) yn gyfeillgar gyda Syr William Mansell, Plas Iscoed, ger Glanyferi, Sir Gaerfyrddin, ac yn dilyn cyfarfyddiad ym Mharis perswadiwyd Spurrell i ddod i Gymru i weithio fel asiant tir i'r sgweiar.

Dengys tystiolaeth ddogfennol fod Spurrell wedi sefydlu ei hun yng Nghaerfyrddin erbyn 1786, ac i'w wraig a'i deulu ymuno ag ef ymhen tair blynedd.

***

'ROEDD teulu Spurrell yn un o'r mwyaf dylanwadol yng Nghaerfaddon yn ystod y ddeunawfed ganrif, ond dylid pwysleisio nad oedd yn deulu brodorol. Ceir ei wreiddiau yn Swydd Norfolk ac yn ei gyfrol safonol Norfolk Families (1908), noda Walter Rye dair prif gangen o'r teulu hwn o fewn ffiniau'r Sir. Awgryma ymhellach fod y cyfenw yn tarddu o bentref Sporle, ger Swaffham.

Ceir awgrym o bwysigrwydd cymdeithasol y teulu yng Nghaerfaddon yn ystod y ddeunawfed ganrif wrth fwrw golwg dros lyfryddiaeth Emanuel Green, Bibliotheca Somersetensis (Vol. 1, 1902), lle nodir mai Robert Spurrell (tad-cu y John Spurrell a symudodd i Gaerfyrddin) oedd awdur a chyhoeddwyr y llyfr cyntaf i gael ei argraffu yn y ddinas. Argraffwyd The elements of Chronology: or the Calendar explained, cyfroI ar amseryddiaeth, gan B. Lyons yn 1730.

Mae'r unig gopi y gwn amdano yn LIyfrgell Caerfaddon, ac mae cefndir y copi hwn yn un diddorol gan ei fod yn cadarnhau'r cysylltiad rhwng Robert Spurrell a'i ddisgynyddion Cymreig. Cyn i'r gyfrol ddod i feddiant LIyfrgell Caerfaddon, 'roedd yn un o drysorau pennaf llyfrgell breifat Dr Charles Spurrell (1866-1949), brawd ieuengaf Walter Spurrell. Cyflwynwyd y gyfrol yn rhodd i'r meddyg yn 1919 gan A.W. Page, casglwr brwd o lyfrau a argraffwyd yng Nghaerfaddon, gyda'r awgrym y gellid ei gyflwyno i Lyfrgell y Ddinas ar ôl ei farwolaeth os nad oedd y teulu yn awyddus i'w gadw.

Pan fu farw Dr Spurrell yn 1949, cyflwynwyd y gyfrol i Lyfrgell Caerfaddon ar ran ei deulu gan ei nith Miss G.S. Groom. Diogelwyd y llythyr diddorol hwn o fewn ei gloriau:

 
The Limes,
Lansdown,
Bath.
18 Jan. 1919.

Ach dalfyredig

Robert Spurrell,
(fl. 1730), Caerfaddon, awdur
a chyhoeddwr The elements
of Chronology

William Spurrell, Caerfaddon
(1716-17--)

John Spurrell
(1748-1801), Caerfaddon a Chaerfyrddin.
Arwerthwr ac asiant tir.

Richard Spurrell
(1782-1847), Clerc Ynadon a Bragwr yng Nghaerfyrddin

William Spurrell
(1813-1889), Argraffydd a Chyhoeddwr yng Nghaerfyrddin

Walter Spurrell
1858-1934),
Argraffydd a Chyhoeddwr yng Nghaerfyrddin

Charles Spurrell (1866-1949)