ATHRYLITH BOGEL EGEL gan Huw Walters

Felly yr ysgrifennodd Robert Jones, Rhoslan yn Drych yr Amseroedd wrth ddisgrifio erledigaeth greulon Evan Williams (1719-1748), y diwygiwr o Gwmllynfell, yn Sir Gaernarfon yn 1742. Clafychodd Williams yn hir wedi'r daith honno a bu farw chwe mlynedd yn ddiweddarach yn ŵr ifanc prin ddeg ar hugain oed.

Yn fab i Evan Williams o blwyf Ystradgynlais a'i wraig Gwenllian Bevan o Langyfelach, perthynai'r diwygiwr i deulu a fu'n flaenllaw ymhlith Annibynwyr cynnar gorllewin Morgannwg a dwyrain Sir Gaerfyrddin am genedlaethau. Brawd iddo oedd William Evans (1716-1770), gŵr a drwyddedwyd i bregethu ar gais eglwys Cwmllynfell yn Ebrill 1751, a bu gofal eglwysi y Cwm Mawr a Rhydymaerdy ym mhlwyf Llanrhidian, Cwmllynfell a Chwmaman dan ei ofal hyd ei farw.

Ef hefyd a dderbyniodd John Thomas, Rhaeadr Gwy i gyfundeb yr Annibynwyr o gyfundeb y Methodistiaid, ac yr oedd yn un o'r deunaw gweinidog a arwyddodd A Vindication of the Conduct of the Associated Ministers in Wales a gyhoeddwyd ym 1771, sef datganiad y gweinidogion Calfinaidd cymedrol.

Bu William Evans yn briod ddwywaith, yr eildro ag Angharad, merch Daniel a Gwenllian Williams o blwyf Llan-giwg, merch i gangen o deulu lluosog y `Wythien Fawr', y disgynnai Watcyn Wyn, Gwydderig, Ben Davies a Waldo Williams ohoni.

Gŵr gweithgar oedd Evans ac ef yn anad neb a osododd sylfaen gadarn i Annibynia Fawr yn y rhan arbennig hon o Gymru, drwy sefydlu eglwysi yng Nghastell-nedd, yr Alltwen a Chwmaman. Bu farw yn Ebrill 1770 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys y plwyf, Llan-giwg.

Canodd Dafydd William, Llandeilo Fach farwnad iddo yn dwyn y teitl – Marwnad i'r Parch. Mr W. Evans, gynt Gweinidog yr Efengyl Ynghwm Llyn-fell, a'r Alltwen, a Rhyd y Maer dy, (Caerfyrddin: John Ross, 1772), ac yn ôl y gerdd hon bu William Evans fel ei frawd o'i flaen yn efengylu ledled Cymru:

***

BU William Evans yn ddigon cysurus ei amgylchiadau, yn ffermio tir Bogel Egel a'r Gwrhyd Isaf ym mhlwyf Llan-giwg, lle magodd deulu o ddeg o blant, a'u disgynyddion hyd heddiw ymhlith arweinwyr yr Annibynwyr yn y cylch.

Ond cyfnod anodd i amaethwyr oedd dauddegau a thridegau y ganrif ddiwethaf, ac yn 1831 ymfudodd dros ddeugain o deuluoedd ardal Cwmllynfell, y Baran a Rhydyfro i'r Taleithiau Unedig, a William Evans, Bogel Egel (ŵyr yr hen weinidog), ei wraig Catherine a'u plant yn eu plith. Ymsefydlodd y teulu yn Neath, Bradford County, Pennsylvania lle bu'r tad yn cadw tyddyn hyd ei farw yn Awst 1874.

Ganwyd wyth o blant i William a Chatherine cyn iddynt ymfudo, a daeth un o'r meibion yn ffigur amlwg ym mywyd academaidd America. Ganwyd Evan William Evans ym Mogel Egel ar Ionawr 6, 1828, ac fe'i addysgwyd ym Mhrifysgol Yale lle graddiodd yn 1851. Bu wedyn yn diwtor yn ei hen goleg hyd 1857, y flwyddyn y priododd Helen, merch y Dr Tertius Clarke o Stockbridge, Massachusetts, a'r flwyddyn y penodwyd ef yn Athro Lladin yng Ngholeg Marietta, Ohio.

Dyma pryd y daeth i gysylltiad ag Ezra Cornell, noddwr a sefydlydd Prifysgol Cornell yn Ithaca, Efrog Newydd, ac ym 1867 penodwyd ef i Gadair Fathemateg y Coleg. Yn wir Evan Williams oedd y cyntaf i'w benodi'n Athro gan ymddiriedolwyr y sefydliad hwnnw.

Tua'r adeg hon y newidiodd ei enw i Evander Wilhelm Evans, ac wrth yr enw hwn yr ymddangosodd y rhan fwyaf o'i weithiau cyhoeddedig. Bu ar daith yn Ewrop fwy nag unwaith gan ddarlithio ym Mharis, Berlin a Llundain, ac er mai mathemateg oedd ei bwnc, yr oedd ganddo ddiddordeb mawr yn y Gymraeg yn ogystal.

Cyhoeddwyd trafodaeth fanwl ganddo ar Grammatica Celtica, Zeuss yn Archaeologica Cambrensis rhwng 1872 a 1874, a chafwyd astudiaeth debyg dan y teitl 'Studies in Celtic Philology' yn Transactions of the American Philological Association yn 1871. Bu farw'n ŵr cymharol ifanc ar Fai 22, 1874.

***

BU Mr Tegwyn Jones o staff Geiriadur Prifysgol Cymru ar wyliau yn Efrog Newydd yn ystod Haf 1981, a bu mor garedig â holi hynt a helynt Evan Evans yn llyfrgell Prifysgol Cornell ar fy rhan. Dygwyd ffeil bersonol Evans o danddaearolion leoedd y llyfrgell, ac ynddi ychydig fanylion amdano.

Ar wahân i'w gyhoeddiadau ar y Gymraeg yr oedd hefyd yn awdur llu o bapurau ar fwyngloddiaeth ac un gyfrol yn dwyn y teitl Evans' School Geometry a gyhoeddwyd yn Cincinnati ym 1862.

Gair yn fyr cyn terfynu am gyd-ddigwyddiad rhyfedd. Wrth bori yn nhudalennau Y Cenhadwr Americanaidd (cyhoeddiad misol yr Annibynwyr Cymraeg yn America) y dydd o'r blaen, deuthum o hyd i adroddiad am farwolaeth gwraig o'r enw Jennett Evans o New Cambria ar Fedi 17 1869. Ganwyd hi yng Nghwmaman, Sir Gâr, yn ferch i George Lewis a'i wraig Mary.

Y mae Cwmaman tua chwe milltir o Fogel Egel ar Fynydd y Gwrhyd ger Cwmllynfell lle ganwyd Evan Evans.

Symudodd teulu Jennett 0 Gwmaman i Aberdâr, lle daeth ei thad George Lewis yn adnabyddus fel llenor a bardd, gan arfer y ffugenw Eiddil Llwyn Celyn. Cyhoeddwyd cyfrol o'i ganeuon yn dwyn y teitl Telyn y Gweithiwr yn Aberdâr yn 1859. Brawd iddo gyda llaw, oedd William Lewis (Cawr Dâr), gŵr y ceir nifer o ganeuon o'i eiddo yn Gardd Aberdâr, 1854.

Beth bynnag, ar farwolaeth George Lewis ym 1858 ymfudodd ei wraig Mary a'i ferch Jennett i Bradford, Pennsylvania. Yno y priododd Jennett A John Evans, brawd yr Athro Evan Evans o Brifysgol Cornell.

Onid yw'n rhyfedd meddwl fod dau a fagwyd megis o fewn tafliad carreg i'w gilydd yng Nghymru, heb gwrdd a'i gilydd yn yr henwlad erioed, yn cyfarfod ac yn priodi yn America? Pe bai'n stori serch y mae'n sicr na fuasai neb yn ei chredu!