BETH AM EIN HEN BAPURAU NEWYDD
Fe hola Dafydd Lloyd Hughes

FEL Y mae cynnwys Y Casglwr wedi dangos dros y blynyddoedd y mae gan aelodau Cymdeithas Bob Owen wahanol ddiddordebau a phe cyhoeddid detholiad o'r amryfal feysydd yr ymddiddorir ynddynt caem, hwyrach, ddigon o achos i ryfeddu.

Mewn gwirionedd onid da o beth fyddai dechrau meddwl am wneud hynny oblegid mi fyddai rhestr o'r fath yn help i ni ddod i wybod am ddiddordebau'n gilydd heblaw, o ran hynny, iddo fod yn gymorth i'n hynaws Olygydd farnu a rydd ein cylchgrawn adlewyrchiad teg a chytbwys o'r gwahanol bethau sy'n peri i ni lafoerio drostynt. Hwyrach hefyd y darganfyddid rhywun a fyddai'n barod i draethu ar faes go ddieithr.

Pe gwnaed dadansoddiad o ddiddordebau'r aelodau ai mentro gormod fyddwn i wrth awgrymu mai cynnyrch gweisg sy'n ennill y rhan fwyaf o'r sylw, ac, ym mhlith y rheini, mai llyfrau yw'r prif atyniad? Ond rhaid cofio nad Ilyfrau yn unig a gynhyrchwyd gan y gweisg ac y mae gan lawer o bethau eraill fel cylchgronau, baledi, almanaciau, caneuon a phosteri eu ffyddloniaid.

Eithr am fath arall o gynnyrch gwasg yr hoffwn i sôn, sef papurau newyddion. Yn rhifyn Eisteddfod 1981 o'r Casglwr, o dan y pennawd BLE MAENT ?, mentrais holi beth, tybed, oedd wedi digwydd i lawer iawn o lyfrau a gynhyrchwyd gan weisg Cymru yn y gorffennol.

Gellir yn llawn mor rhwydd ofyn yr union gwestiwn ynglŷn â’n newyddiaduron, oblegid y mae'n ddigalondid mawr i mi, ac i lawer hanesydd lleol arall, yr wyf yn sicr, sydd wedi darganfod gwerth yr hen bapurau fel ffynhonnell hanes, fod peth wmbredd o hen bapurau naill ai wedi cael eu colli'n llwyr neu onid ydynt, mai'r unig gopïau yw'r rheini sy'n llechu yn archifau'r Llyfrgell Brydeinig yn Colindale yng Ngogledd Llundain, a thrwy hynny yn ei gwneud hi'n aruthrol o ddrud i'r unigolion difreintiedig heb gymorth ariannol fynd yno i ddilyn ei ddiddordeb.

***

Y GWIR amdani yw fod llawer iawn o hen newyddiaduron Cymru mor brin â'n Ilawysgrifau hynaf. Ar sail hynny mentraf awgrymu y gall casglwyr wneud cymwynas fawr trwy helpu i adfer pa newyddiaduron bynnag y dônt ar eu traws, ac yn y cyswllt hwn hoffwn ganolbwyntio ar gynnyrch gweisg tair o drefydd Cymru, sef Y Bala, Llanelli a Phwllheli, er mwyn dangos y math o broblemau a wynebir.

Yn Y Bala, o 10 Hydref 1860 hyd 2 Gorffennaf 1864 cyhoeddwyd The Merionethshire Herald; fe'i dilynwyd o 9 Gorffennaf 1864 hyd 31 Rhagfyr 1868 gan The Merionethshire Standard and Mid-Wales Herald. Rhagflaenwyr y Cambrian News oedd y ddau bapur yma a phan ddathlodd y papur hwnnw ei ganmlwyddiant yn 1960 atgynhyrchodd dudalen flaen rhifyn cyntaf y Merionethshire Herald yn rhifyn y dathlu, os cofiaf yn iawn.

Yn Colindale yn unig y ceir copïau o ddau bapur Y Bala er y deëllir fod y Llyfrgell Genedlaethol yn sicrhau copïau ar feicroffilm.

Bu Llanelli yn dref bwysig yn hanes cyhoeddi yng Nghymru. Yn ystod 1848 cyhoeddwyd naw rhifyn o bapur misol, y Llanelly Advertiser, ond ni wyddys ond am y saith rhifyn sydd yn Colindale. Diogelodd Llyfrgell Llanelli, set gyflawn bron iawn o'r Llanelly Guardian (1863-1953) ond nid yw ei gasgliad o'r South Wales Press, a gyhoeddwyd o 1865 hyd 1934, yn agos mor gyflawn. Y mae hyd yn oed Colindale yn amddifad o'r 198 rhifyn cyntaf.

***

ER MAI tref gymharol fach yw Pwllheli bu ganddi hithau ran bwysig. Rhwng 1856 ac 1860 cyhoeddwyd Yr Eifion a'r Arweinydd gan Tegai ac, ar wahân i ddaliadau Colindale, diogelwyd dau gasgliad gwerthfawr gan olygydd y cylchgrawn hwn a Miss Sara Roberts, Trelan, Pwllheli. Pwysicach erbyn hyn ydyw hynt tri o bapurau diweddarach Pwllheli, megis Udgorn Rhyddid, Yr Udgorn a'r Pwllheli Chronicle.

Cychwynnodd Udgorn Rhyddid ei yrfa ar 4 lonawr 1888 a daliodd ati hyd 19 Hydref 1898. Yr unig gopïau sydd mewn dwylo cyhoeddus yw:

Cyn belled ag y gwyddom y mae'r gweddill wedi cael eu colli ond daw ambell i rifyn i'r golwg, gobeithio.

Yn Colindale yn unig y ceir copïau o'r Pwllheli Chronicle (1889-1893) ond y mae hyd yn oed y casgliad hwnnw yn ddiffygiol yn niwedd 1892 a dechrau 1893. Yn ddiweddar llwyddais i brynu microffilm o'r papur hwn o Colindale. Yr oedd yn rhatach i wneud hynny na mynd i Lundain i'w darllen.

***

ENGHREIFFTIAU yn unig yw'r hanesion ynglŷn â'r Bala, Llanelli a Phwllheli; gellir adrodd yr un fath o stori am lu o drefydd eraill. Y gobaith mawr sydd gennyf i yw y procia'r ychydig sylwadau hyn aelodau Cymdeithas Bob Owen i beidio ag anwybyddu pecynnau o hen bapurau lleol fel creiriau sydd islaw sylw. Trwy helpu i'w diogelu fe wnânt gymwynas fawr, nid yn unig â'r sawl sy'n ymddiddori yn hanes ein gweisg, haneswyr lleol a llenorion, ond hwyrach hefyd iddynt hwy eu hunain.

Dilynwyd Udgorn Rhyddid gan Yr Udgorn o 26 Hydref 1898 hyd ei ddiwedd yn 1952. Heblaw y rhifyn cyntaf ceir Yr Udgorn yn ddi-fwlch yn Colindale ond, ar wahân i gopïau unigol, ac ambell i eithriad, fel set go dda o rai 1905 yn Swyddfa Archifau Caernarfon a bwndel o rai 1906 a ddarganfuwyd yn ddiweddar iawn gan Miss Sara Roberts, Pwllheli, llwm iawn yw'r daliadau yng Nghymru cyn dechrau casgliad y Llyfrgell Genedlaethol yn 1910. Yn anffodus y mae'r casgliad hwnnw yn ddiffygiol am 1911 ac 1921.