RHAMANT A HELBUL O HEN LYFRAU LÒG
gan T.Gwyn Jones

CES gyfle yn ddiweddar i droi tudalennau hen lyfrau 16g Ysgol Garnswllt, yng Ngorllewin Morgannwg, tair cyfrol sy'n adrodd yr hyn a ddigwyddodd yn yr ysgol am dri chwarter canrif, o'r diwrnod pan agorwyd hi, Medi 22, 1873 hyd Ragfyr 1948. Ysgol yw sydd wedi gwasanaethu cylch eang a gwasgaredig ar gwr eitha Gorllewin Morgannwg, ac am y ffin â'r hen Sir Gaerfyrddin.

Hen fwthyn a addaswyd i fod yn ysgol oedd yr adeilad cyntaf, wrth odre'r mynydd. Roedd yn fan gweddol ganolog yn yr oes o'r blaen i blant Garnswllt a Chwm Gerdinen, yr ochr draw i'r mynydd. Deuai y rhan fwyaf ohonynt o'r ffermydd a'r tyddynnod hwnt ac yma ar lethrau'r mynydd.

Gŵyr y sawl a deithiodd o Rydaman i Felindre am ramant y fro a gwychter yr olygfa, i lawr i gyfeiriad y môr a Chefn Sidan, o ben y mynydd.

'Garnswllt Board School' yw'r enw ar dudalen flaen y llyfr log a “H Collins, Certificated Master" oedd yr ysgolfeistr cynta. Dyma ei gofnod Medi 27, 1873, ar ddiwedd wythnos agor yr ysgol:

Prin flwyddyn y bu ef yn gofalu am yr ysgol. Mae "Miss Margaret Mitchell, Certificated Mistress" wedi arwyddo'r llyfr log Awst 4, 1874, a dilynwyd hithau gan Anne Morris, Athrawes yn Ysgol Felindre, Mai 5, 1879 "owing to the illness of the late School Mistress".

Dros dro yr oedd hi yno. Ceir y cofnod hwn ar gyfer Awst 12, 1879. "Ruth Lord, qualified mistress, took charge of the school."

Erbyn hyn ni wyddom nemor ddim am y rhai a gyfrannodd addysg i blant Garnswllt yn y blynyddoedd cynnar, ond fe welir ambell enw sy'n gyfarwydd yn ddiweddarach. Bu Tom Matthews â gofal yr ysgol dros dro o Ragfyr 7 hyd Ragfyr 19, 1899.

Mae wedi arwyddo ei enw fel "T. Matthews of University College, Cardiff". Bu ef yn gyfrannwr cyson i 'Cymru', 0. M. Edwards, a golygodd ddwy o gyfrolau Cyfres y Fil, sef 'Gwaith Sion Cent' a 'Gwaith Iolo Goch'. Brodor o Landybie ydoedd, a cheir ychydig o'i hanes a rhestr gyflawn o'i lyfrau yn 'Hanes Plwyf Llandybie', Gomer M. Roberts.

***

AM resymau personol teimlais ryw wefr wrth weld llawysgrif gain ewyrth i mi, Rhys Thomas, a fu'n ysgolfeistr o Ebrill 15, 1901 hyd Chwefror 7, 1902. Dychwelodd i'w gynefin o Ysgol Llanboidy, Sir Gaerfyrddin. 'Roedd yn un o deulu lluosog, i gyd yn fechgyn, ac enw ei gartre, yn briodol iawn, yn y Betws oedd Pant-y-meibion.

Brawd iddo oedd y Parch. John Thomas, Merthyr, pregethwr amlwg yn ei ddydd gyda'r Annibynwyr, yr ysgrifennwyd cofiant iddo gan D. Silyn Evans, Aberdâr. Un arall, fu farw'n ifanc, oedd George Thomas (Arfryn) y ceir ei hanes yn 'Blodau Cudd ar Faes Awen', G. Penar Griffiths.

Dywed Syr T. H. Parry-Williams yn ei ysgrif 'Y Llyfr-Log', y gellir llunio stori ryfedd a rhamantus am helbulon a thrafferthion addysg ardal wledig ar ôl darllen cofnodion y llyfr-log.

Sôn y mae ef am hen lyfr-log cynta ysgol ei dad, yn Rhyd-ddu. Ynddo y gwêl gyfeiriadau at ddyddiau gŵyl ac ambell ffair; adroddir am ddamweiniau ac angladdau, am gario glo a chneifio defaid, am dderbyn plant i'r ysgol a'u gollwng i'r byd pan ddeuai eu tro. Nid yn unig hyn gallai ef dynnu darlun lled gywir o fywyd cymdeithasol yr ardal o'r hen lyfr-log.

Mae llyfrau-log Garnswllt yn llawn cyfeiriadau tebyg – ffeiriau yn y Betws, yn Rhydaman ac yn Llangyfelach, a'r effaith a gawsent ar nifer y plant oedd yn bresennol. Er enghraifft, dyma'r cofnod am Chwefror 28, 1879, "Owing to a fair held at Llangyfelach, there was no school Monday and Tuesday, consequently many of the children did not attend at all during the week."

***

ROEDD absenoldeb plant o'r ysgol yn broblem barhaol a barnu wrth y mynych gyfeiriadau at hynny. Rhoddir pob math o resymau, neu esgusion, am yr absenoldeb. Un oedd cyfarfodydd blynyddol y capeli.

Dyma a ysgrifennwyd Mehefin 22, 1883 "Owing to the yearly meetings at Gerdinen Chapel, the attendance was very poor Monday, gave a holiday in the afternoon".

Gallai angladdau hefyd gael effaith:

"A funeral in the neighbourhood has a great influence over the attendance and this has been the case this week." (Tachwedd 6, 1897).

Nodir mai arwerthiant yn y gymdogaeth oedd yr achos, Hydref 23, 1885. "As there was a sale held in the neighbourhood the attendance was poor on Tuesday."

Ond y rhesymau a nodir amlaf yw'r tywydd, – glawogydd trymion ac eira mawr, a gadwai'r plant o'r ysgol am ddyddiau ac wythnosau. Byddai'r tywydd braf hefyd yn dwyn problemau pan gedwid y plant gartre i helpu ar y fferm neu yn yr ardd.

Yr un modd amser y cynhaeaf. "The corn harvest is not yet over and the children are kept home to assist. It makes it very difficult to give the Object Lessons to Standard II & III on account of the irregularity of attendance." (Medi 9, 1897).

'Roedd galw cyson am help yr 'Attendance Officer' ('Whipper in' oedd yr enw arno ar lafar gwlad) i fynd i gartrefi'r troseddwyr a chwynir am nad oedd y sefyllfa yn gwella.

***

CEIR problemau staffio, a'r ysgol yn cau am wythnos neu ragor oherwydd tostrwydd yr ysgolfeistr; trafferthion wedyn gydag ambell un o'r athrawon cynorthwyol. "Frequent absence of teachers interfere sadly with the working of the school." (Awst 26, 1903).

Swydd a ddiflannodd gyda'r blynyddoedd yw'r 'monitor' neu 'monitress'. Bu absenoldeb neu ddiffyg prydlondeb rhai ohonynt yn achos gofid i ambell ysgolfeistr. "Rachel Rees monitress still absent". (Mawrth 20, 1891)

Roedd ymweliadau blynyddol Arolygwr ei Mawrhydi yn ddigwyddiad pwysig yn hanes yr ysgol. Yn wir fe fyddai rhai o'r ysgoifeistri yn nodi'r ffaith mewn inc coch yn y llyfr 16g. Fe sonia T.H. Parry-Williams am "ambell ddihiryn o sbector a fu'n cylchu'r ysgolion, ac yn uffernoli bywyd rhai ysgoifeistri yn y dyddiau hynny."

Rhai heb wybod na malio dim am ddiwylliant y fro a ymwelai ag Ysgol Garnswllt hefyd. Dyma eiriau un ohonynt mewn adroddiad yn 1883: "This small school is under disadvantages not only on account of the prevalency of the Welsh language but also from the large and thinly populated area from which it draws its scholars."

'Roedd Garnswllt yn un o gadarnleoedd y Gymraeg a'r ffordd Gymreig o fyw, a phery felly i raddau hyd heddiw, diolch am hynny. Gwelaf debygrwydd rhwng Garnswllt a Rhyd-ddu, ardaloedd unig, diarffordd, a'r mynyddoedd yn gefndir; y boblogaeth yn denau a gwasgaredig.

Ar ddiwedd y cofnodion am 1902 y gwelir gyntaf gyfeiriad at Gymru. "Lessons on Glamorganshire and Wales generally are recommended by His Majesty's Inspector".

O ran y caneuon a genid a'r farddoniaeth a ddysgid ar y cof, gallai'r ysgol fod yn Lloegr.

Dyma rai ohonynt:
"List of Songs:
Music in the Valley, Away to the Woods, Robin Redbreast, All the day long.

Poetry for the year:
Standard 5 & 6. Lay of the Last Minstrel.
Standard 4. The Village Blacksmith.
Standard 3. We are Seven.
Standard 2. The busy bee, Good night.
Standard 1. The busy bee."

Rhaid cofio mor hanfodol bwysig i blentyn yn y cyfnod hwn oedd yr addysg a dderbyniasai yn y Board School, neu'r ysgol elfennol fel y gelwid hi yn ddiweddarach. Byddai'r plant yno nes cyrraedd 13 neu 14 oed, a dyna'r unig addysg ffurfiol fyddai'r rhan fwyaf ohonynt yn ei gael.

Yn ddiweddarach sefydlwyd ysgolion eilradd, neu'r Senior School fel y gelwid hwy ar y dechrau, a throsglwyddwyd y plant yno yn un ar ddeg.

Digwyddodd hyn yn hanes Garnswllt yn 1938 a cheir y cofnod hwn yn y llyfr 16g Mawrth 31, y flwyddyn honno:

Canlyniad hyn oedd i nifer y disgyblion syrthio bron i'r hanner, a cholli dau athro profiadol a da. Fel y gellid disgwyl, ni fu'r ysgol yn hollol 'run fath wedyn.