Y TYST A'R EISTEDDFOD YN 1882 gan Huw Ethall

GAN FY mod yn un o olygyddion Y Tyst a hefyd ar bwyllgor llên Eisteddfod Abertawe eleni, yr oedd gennyf ddiddordeb yn hynt y papur a'r Eisteddfod gan mlynedd yn ôl. Nid Y Tyst mohono bryd hynny ond Y Tyst a'r Dydd, 16 tudalen a'i bris yn 1½d.

Ymddangosodd Y Tyst (ar ei ben ei hun fel 'tae) Ion. 1, 1892, ddeng mlynedd wedyn, a gyda llaw, er darllen yn fanwl pob gair o'r rhifyn hwnnw – a'r golygyddol yn arbennig – nid oes unrhyw eglurhad am y talfyriad yn yr enw. Ac nid oes air chwaith yn rhifyn olaf o'r Tyst a'r Dydd Rhag. 25, 1891 yn paratoi'r darllenwyr am enw newydd y papur. Pam tybed? Yr oedd y golygydd, y Dr John Thomas, brawd Owen Thomas, awdur Cofiant John Jones, Talsarn, yn ddi-fai bob amser fel golygydd.

Er Mai 5, 1882 yr oedd tudalen flaen Y Tyst a'r Dydd wedi ei chymryd yn glwt i hysbysebu "Stephens' Stomach & Liver Pills: Y Feddyginiaeth Anffaeledig Rhag Anrheuliad a Dolur yr Afu" – hanner yr hysbysebiad yn Gymraeg a hanner yn Saesneg.

O'r cychwyn cyntaf yn 1867 yr oedd Y Tyst Cymreig wedi dweud mai ei fwriad oedd "i fod yn bapur i'r Enwad Annibynnol ac hefyd yn groniclydd cyffredinol i'r genedl". Oherwydd y bwriad olaf, naturiol oedd edrych ar rifyn Awst o'r Tyst a'r Dydd am hanes Eisteddfod 1882, ac ni siomir y darllenydd. Ond nid yn ystod wythnos gyntaf Awst y cynhaliwyd yr Eisteddfod ond yn yr wythnos yn dechrau y 25ain o'r mis. A Dinbych oedd ei chartref.

"Dechreuwyd y gweithrediadau gan Gymdeithas y Cymmrodorion nos Lun yn y Neuadd Drefol, o dan lywyddiaeth Syr Robert Cunliffe. Traddododd araeth agoriadol ar addysg y genedl. Yna darllenwyd papyr galluog gan Dr. Richardson ar 'Y Cenhedloedd a breswyliant ym Mhrydain, gyda golwg ar eu bywyd anianyddol a meddyliol, a beth fydd eu dyfodol, mor bell ag y gellir barnu beth fydd y dyfodol oddi wrth y gorffennol'." A yw'n iawn awgrymu y byddai pen y sawl a awgrymai destun o'r fath heddiw mewn perygl?

"Boreu ddydd Mawrth, am hanner awr wedi saith agorwyd yr Orsedd yn y Castell o dan lywyddiaeth y Prifardd Clwydfardd" - a aned, gyda llaw, yn Ninbych, yr oedd yn 82 oed ar y pryd a bu farw yn 94!- "yn cael ei gynorthwyo gan Hwfa Môn, Nathan Dyfed, Gwalchmai, Elis Wyn o Wyrfai, etc." . . . " Teneu oedd y cynulliad yn y cyfarfod hwn eto" meddir am gyfarfod naw o'r gloch gan y Cymmrodorion a'r llywydd Mrs. Rhys, gwraig "y Proffeswr Rhys yn rhoi anerchiad rhagorol ar y pwys o roddi addysg briodol i ferched . . . "

"Agorwyd yr Eisteddfod am 11 o'r gloch trwy i Pedr Mostyn, arweinydd y dydd, alw ar Gôr yr Eisteddfod, i ganu y gerdd Genedlaethol. Yn absenoldeb Duc o Westminster, y llywydd etholedig, cymerwyd y gadair gan Major Cornwallis West ... Yn absenoldeb Eos Morlais (yr hwn oedd heb gyrhaedd), canodd Mr Ben Davies 'Mentra Gwen'." Da gennym wybod, fodd bynnag, cyn diwedd yr adroddiad a diwedd y dydd "Yr oedd Eos Morlais wedi cyrhaedd erbyn hyn a chanodd 'Y Gadlef ' gan Emlyn Evans." Ni ddywed y gohebydd i'r Eos ymddiheuro nac egluro pam nad oedd yno mewn pryd.

***

AM RAI o enillwyr y dydd meddir: "Enillwyd y wobr o £3 am chwareu 'Elgie' ar yr harmonium gan Mr. Richard Pritchard o Gaernarfon", "Enillwyd y wobr o £1 am ganu penillion gyda'r delyn, yn ôl dull y Gogledd, gan Edmund Bevan, bachgennyn bychan chwe mlwydd oed o Gwm Rhondda". "Derbyniwyd 77 o englynion i'r `Eira'. Y goreu oedd eiddo Mr. John Davies (Ap Myfyr), Pontypridd. Gwobr £1. Yr oedd y buddugol fel y canlyn:–

"Prif gystadleuaeth gerddorol yr Eisteddfod, sef i'r côr heb fod dan 120 mewn nifer, a ganai oreu `Dyna'r gwyntoedd yn ymosod' gan Tanymarian, a 'Judge me, O God' gan Mendelssohn. Gwobr £100, a bathodyn aur i'r arweinydd." "Penrhyn Quarry Choir" (arweinydd Dr Roland Rogers, Organydd, Bangor) oedd y buddugol. "Yr oedd cynulliad lluosog yn y Babell heddyw, llawer iawn mwy nag arferol ar y dydd cyntaf, ond yr oedd hynny i'w briodoli am fod y brif gystadleuaeth gerddorol yn cymeryd lle."

***

YN RHIFYN nesaf Y Tyst a'r Dydd, Medi 1, 1882 y ceir gweddill hanes yr Eisteddfod. Meddai'r golygydd: "Mae yr Eisteddfod Genedlaethol 1882 wedi myned heibio, ac wedi myned heibio yn llwyddiannus, mor belled ag yr oedd pob peth allanol. Rhaid aros i gael gweld y cynnyrch a ddaw oddiwrthi yn ariannol a llenyddol. Dywedir y bydd y draul yn rhyw £3000, a dylai fod cynnyrch mawr i dalu am y fath draul. Y babell sydd yn myned ag arian mawr bob blwyddyn. Aeth hon eleni yn Ninbych yn rhyw £1200. Gresyn nas gellid cael pabell symudol, yr hon a ellid ei symud a'i rhoddi i fyny ar ychydig gannoedd . . ."

"Nid ydym yn tybied fod angen dweyd er amddiffyn yr Eisteddfod mai iddi hi yr ydym yn ddyledus am gadwraeth yr iaith Gymraeg, ac mai hi ydyw prif addysgydd y genedl."

"Diflas iawn oedd nad oedd neb yn deilwng o'r Gadair ... Ai tybed nad gormod ydyw cadair bob blwyddyn? Nid yw Cymru hwyrach mor gynhyrchiol o feirdd ag y bu; ac nid pob bardd fedr gyfansoddi Awdl deilwng o Gadair Eisteddfod."

"Gwnaeth yr ystorm a'r gwlaw nos Fawrth babell yr Eisteddfod yn lle annymunol iawn. Yn newydd fod y gwlaw yn parhau i ddylifo yn ddiarbed boreu Mercher, barnwyd yn ddoeth i ohirio cyfarfod yr Eisteddfod o 11 o'r gloch at 1.30." Da deall i'r glaw beidio "a daeth yr haul allan yn ei ogoniant tua chanol dydd".

***

TESTUN y gadair ddydd Iau oedd "Dyn", heb fod dros 1500 0 linellau; yr oedd saith wedi cystadlu ond neb "yn agos yn deilwng". "Miss Mainwaring, Galltfaenen, enillodd y bathodyn arian am y 'Folding Screen' goreu."

Ddydd Gwener, "y tywydd yn fwy ffafriol a'r cynulliadau yn lluosogi" "y peth cyntaf oedd Ceiriog yn datgan nad oedd neb yn deilwng ar y Rhiangerdd 'Angharad ferch Ednyfed Fychan'."

" ... i lywyddu, disgwylid y dydd olaf am Mr. Gladstone. Yr oedd yn wybyddus er's wythnosau nas gallai ddod ar ôl ei lafur caled yn y Senedd - dymor gythryblus sydd newydd derfynu; ond daeth Mrs. Gladstone, a chymerodd y gadair yn ei le, a chafodd dderbyniad na chawsai Victoria ei hun, pe daethai yno, mo'i wresocach ...

Diolch i'r dorf am eu datganiad brwdfrydig o'u teimladau da tuag at gymar ei bywyd. Wrth ddiweddu dywedai y teimlai ei hun yn falch wrth gyfrif ei hun yn un ohonynt hwy - yn Gymraes - "

"Miss Jones o Gaergybi enillodd y wobr o £2 am y 'Patchwork Quilt' goreu."

"Yn yr hwyr cafwyd perfformiad ardderchog o'r Messiah gan yr un personau ag oedd yn datganu yr Elijah y noson flaenorol."

Nid yw Tyst Awst a Medi 1982 yn addo'r un manylder am ddigwyddiadau Eisteddfod Abertawe eleni, ond bydd sôn amdani yn sicr.