HEN WEISG gan P.H.Jones

Gerald Morgan Y Dyn a wnaeth argraff: bywyd a gwaith yr argraffydd hynod John Jones, Llanrwst. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1982. 40 tt. £1.50.

Gwasg Stanhope

DYWED yr awdur mai ei amcan wrth lunio'r gyfrol hon oedd paratoi llyfr 'ar gyfer pobl y fro' yn hytrach na chyhoeddiad 'academaidd a gorfanwl'. Cawn yma bortread bywiog a diddorol nid yn unig o John Jones ei hunan ond hefyd o aelodau o'i deulu.

Amlinellir cryn dipyn o hanes ei swyddfa argraffu ac fe geir trafodaeth o'i chynnyrch. Mae'r lluniau'n bwrpasol, er nad ydynt bob amser wedi eu hatgynhyrchu'n gelfydd iawn, ac mae'r pris yn rhesymol dros ben.

Ond eto, siomedig yw'r gyfrol. Mae hyn yn rhannol oherwydd amhendantrwydd a diffyg gofal ar ran yr awdur. Mae gan y darllenydd hawl i ddisgwyl cywirdeb hyd yn oed mewn cyfrol boblogaidd.

Yr hyn sy'n ychwanegu at y teimlad o siom yw ei bod yn amlwg fod gan yr awdur ystôr o ddefnyddiau wrth law a fuasai wedi ei alluogi i baratoi dadansoddiad llawer mwy treiddgar o hanes y swyddfa argraffu.

***

SIMSAN iawn yr ymddengys gwybodaeth yr awdur o ddatblygiadau yn nhechneg argraffu yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae hyn yn ei arwain i nifer o lithriadau amseryddol. Dywed, er enghraifft, (tud. 18) mai'r rheswm paham y bu gostyngiad ym mhris papur argraffu yn ystod oes John Jones oedd 'bod y melinau papur yn dechrau cynhyrchu papur o stwnsh coed'.

Nid ydyw hyn yn gywir: bu farw John Jones ym 1865, tua'r adeg y dechreuwyd gwneud defnydd helaeth o wellt esparto yn y melinau papur. Er i bren wedi ei falu'n fân, 'mechanical wood', gael ei ddefnyddio'n arbrofol yn yr UDA o'r 1850au cynnar ymlaen, nid oedd yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd yn Ewrop tan tua dechrau'r 1870au.

Ni ddefnyddiwyd 'chemical wood', pren wedi ei dreulio trwy gyfrwng cemegau, ym Mhrydain tan 1883. Mewn gwirionedd, er i bris papur leihau yn ystod oes John Jones (oherwydd mecaneiddio'r melinau a hefyd oherwydd gostwng ac yna ddiddymu'r dreth ar bapur), 'roedd yn ei fedd flynyddoedd cyn i bris papur argraffu ddod yn wirioneddol rad.

Ceir llithriad ac iddo oblygiadau mwy difrifol ar dud. 9 lle mae'r awdur yn trafod y penderfyniad a wnaeth John Jones (tua 1812-15, mae'n debyg) i sicrhau gwasg newydd yn lle'r hen wasg bren a fu yn Nhrefriw o 1776 ymlaen.

Dywed, 'y peth rhwyddaf i John ei wneud ... fuasai prynu gwasg haearn o'r math a oedd yn disodli'r hen weisg pren – megis y wasg Albion'.

Nid felly: ni ddyfeisiodd Cope ei wasg enwog tan 1820, ac 'roedd angen cryn dipyn o waith datblygu arni cyn iddi ennill ei lle fel un o'r prif weisg haearn (onid y wasg haearn) ym Mhrydain.

Ni fedrai John Jones hyd yn oed fod wedi prynu'r wasg y gellid ei hystyried fel rhagflaenydd yr Albion, sef y Columbian. Mae'n wir fod gwasg Clymer ar werth yn yr UDA erbyn 1814 ond nid oedd ar gael yn Llundain tan tua 1818, a hynny am bris uchel, tua £100-£I20, pris a fyddai ymhell y tu hwnt i'r hyn y gallai John Jones fforddio ei dalu.

Yr unig wasg haearn a oedd ar werth yn gyffredinol oedd y wasg a ddyfeisiwyd tua 1800 gan Iarll Stanhope. Er bod pris gwasg Stanhope wedi disgyn o 90 gini i rhyw £60 - £70 erbyn canol ail ddegawd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, 'roedd hyn yn ôl pob tebyg yn rhy ddrud i John Jones.

Ni fedrai chwaith adeiladu efelychiad o wasg Stanhope gan fod y fframwaith wedi ei wneud o ddarn sylweddol o haearn bwrw. Felly, prin fod ganddo lawer o ddewis os oedd yn awyddus i foderneiddio ei gyfarpar argraffu: 'roedd yn rhaid iddo droi at y wasg y sicrhaodd John (felly y llyfrau safonol, nid Alexander, fel y dywed yr awdur) Ruthven batent (Rhif 3746) arni ar Dachwedd 1af, 1813.

'Roedd y wasg hon yn rhagori ar yr hen weisg pren, gyda'r fantais ychwanegol y gellid adeiladu'r ffrâm o bren neu fetel yn ôl y defnyddiau wrth law. 'Roedd mwy o waith haearn ynddi nag yn yr hen weisg pren ond nid oedd angen mwy nag offer a gallu gof i lunio'r darnau a'u gosod at ei gilydd.

Byddai disgrifiad o wasg Ruthven a'i manteision wedi bod o ddiddordeb i ddarllenwyr y gyfrol. Dylid o leiaf fod wedi crybwyll y prif wahaniaeth rhyngddi a gweisg eraill, sef bod y 'forme' yn sefydlog yn hytrach nag yn symud yn ôl ac ymlaen, a bod y 'platen' felly yn rhedeg drosti ar olwynion.

Dyma, yn wir, un o brif fanteision y wasg: 'roedd y `platen' ysgafn yn haws o lawer i'w symud na'r 'forme' a gludai holl bwysau'r teip.

Mantais arall gwasg Ruthven oedd bod y trefniant o liferau yn effeithiol dros ben. Fel y dywed T.C. Hansard yn ei Typographia (1825): 'The levers beneath the table are well contrived to have the best effect in saving time, and producing an immense pressure ... the handle ... brings the platten down very quickly upon the tympan'.

***

CYN gadael y wasg, dylid sylwi bod yr awdur yn amhendant iawn ynglŷn â'r nifer o weisg a adeiladwyd gan John Jones. Gan amlaf cyfeirir at 'y wasg' er bod ambell i linell yn awgrymu iddo adeiladu mwy nag un.

Wrth graffu ar y lluniau, fe wêl y darllenydd fod y wasg sydd â'i llun ar glawr y gyfrol yn un wahanol i'r wasg sydd â'i llun ar dud. 10.

Ceir goleuni ar y mater wrth droi at Ifano. Ar dud. 66 o'i Printing and Printers mae'n dyfynnu llythyr a dderbyniodd oddi wrth J.J. Lloyd, nai Owen, mab ieuengaf John Jones, a fu yn gofalu am y swyddfa o 1887 ymlaen: 'We have three old presses of the "Ruthven" design here now, but dismantled, which were made by John Jones himself ... up to my day (1887) they were still in use'.

Hwyrach fod y cymal olaf yn ein galluogi i fod yn llai amhendant na'r awdur ynglŷn â pha bryd y rhoddwyd y gorau i ddefnyddio'r gweisg Ruthven. Dywed yr awdur (tud. 31), 'Rywdro ar ôl 1865 rhoddwyd gweisg newydd i mewn, eto ni thaflwyd offer John Jones, ond eu cadw'n barchus', ond awgryma'r llythyr uchod mai ym 1887 neu ychydig yn ddiweddarach y prynwyd y gweisg newydd.

***

YN ogystal ag adeiladu ei weisg ei hun cyflawnodd John Jones y gamp o fwrw ei deip ei hun ag offer o'i wneuthuriad ei hunan. Mae'r awdur o'r farn mai rhywbryd rhwng 1820 a 1830 y dechreuodd wneud hyn.

Ond ar y tudalen sy'n wynebu'r gosodiad hwn ceir llun o offer John Jones mewn cas yn Amgueddfa Wyddonol South Kensington, cas sy'n dwyn label a ddywed, 'These tools ... were made ... about 1809-15'. Onid yw'r awdur yn barod i dderbyn dyddiadau'r Amgueddfa, oni ddylai gynnig esboniad paham i'r darllenydd?

Er nad oedd swyddfa John Jones o ran ei maint nac ansawdd cyffredinol ei chynnyrch i'w chymharu â phrif weisg Cymru'r bedwaredd ar bymtheg – gweisg megis Gwasg Gee, Hughes Wrecsam, Humphreys Caernarfon neu Spurrell – mae i'w hanes ddigon o bwysigrwydd i gyfiawnhau astudiaeth fanwl ac ysgolheigaidd ohoni.

Yn sicr mae'r defnyddiau ar gael (ac ym meddiant yr awdur, yn ôl cyfeiriadau yn y gyfrol) ar gyfer paratoi astudiaeth a fyddai'n canolbwyntio ar restru a dadansoddi'n llyfryddol gynnyrch y wasg. Anodd, i'm tyb i, yw cyfiawnhau cyhoeddi astudiaeth o hanes unrhyw wasg heb fod ynddi lyfryddiaeth fanwl.

Yn wir, gan fod ein gwybodaeth o gynnyrch gweisg Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg mor affwysol o ddiffygiol, gellid taeru bod arnom fwy o angen llyfryddiaethau nag astudiaethau!

Byddai dadansoddiad llyfryddol o'r cyfrolau - yn arbennig y colasiwn, y teip a'r papur - yn ffurfio asgwrn cefn dibynadwy i astudiaeth a fyddai'n trafod agweddau masnachol hanes y swyddfa argraffu.

Mae'n wir i'r awdur gynnwys rhyw ychydig o wybodaeth am hyn. Pwysleisia, er enghraifft, mai argraffydd yn hytrach na chyhoeddwr oedd John Jones, a bod awduron yn gyndyn i'w dalu am ei waith.

Mae hefyd yn trin problemau ariannol John Jones yn ystod y 1850au pan fu'n rhaid iddo droi'n achlysurol am gymorth at ei ail fab, Evan. Ond mae angen dadansoddiad llawer manylach na hyn o'r wasg fel busnes.

Rhaid gobeithio y bydd yr awdur yn ymgymryd yn fuan â'r gwaith o baratoi cyfrol a fyddai'n deilwng o lafur argraffwyr Trefriw a Llanrwst, gwŷr a fu, yn wyneb cymaint o anawsterau, yn gefn i ddiwylliant Cymraeg am dros ganrif a hanner.