J.MILTON - NID J.WILLIAMS ~ Menna Heledd Phillips

 

CEFAIS flas mawr ar ddarllen erthygl Mrs Marian Henry Jones: "Yr Hoelen Wyth" yn y rhifyn diwethaf o Y Casglwr. Ynddo gofynnai a fedrai rhywun daflu goleuni ar y ffigwr a oedd yn ei meddiant ac y dywedwyd wrthi taw John Williams, Erromanga ydoedd.

Tybiais wrth edrych ar y llun yn Y Casglwr nad oedd y ffigwr yn edrych yn debyg i bregethwr neu genhadwr a hefyd nad oedd gwisg y gŵr yn perthyn i'r 19eg ganrif. Oherwydd hyn yr oeddwn yn amheus taw John Williams, Erromanga ydoedd. Yn wir credaf fod osgo'r gŵr, yn pwyso ar ei benelin ar bentwr o lyfrau sy'n gorwedd ar bedestal clasurol ac yn dal llawysgrif yn un llaw, yn dynodi bardd.

Yn llyfr D.P. Gordon Pugh: Staffordshire portrait figures ... (Llundain: Barrie and Jenkins, 1970) ceir y disgrifiad canlynol: "standing bare headed, in doublet, breeches and stockings. His left elbow rests on three books lying on a round pedestal and in his left hand he holds a manuscript. His right hand holds up a corner of his cloak across him."

Y ffigwr a ddisgrifir gan yr awdur yw John Milton, ac y mae'n ddisgrifiad perffaith o'r ffigwr a ddarluniwyd yn rhifyn diwethaf Y Casglwr.

Gyda llaw, dywedir yn yr un llyfr y gwnaed ffigurau'n portreadu'r Cymry canlynol: John Bryan, John Elias, Christmas Evans, Robert Trogwy Evans ac Evan Roberts, y Diwygiwr. Hefyd, y mae'n debyg y gwnaed ffigwr yn portreadu y "Band of Hope".

Tybed a oes enghreifftiau o'r rhain ym meddiant darllenwyr Y Casglwr?

Menna Heledd Phillips
Aberystwyth.

NODYN. Cytuna Helen Ramage mai Milton sydd yma a dywed fod yna gerflun cyffelyb o William Shakespeare.