NID I'R SGOLOR YN UNIG ~ Gerald Morgan yn ei amddiffyn ei hun

RHAID i mi, hynaws Olygydd yn garedig iawn, awgrymu bod bai arnoch yn cynnig fy llygoden fach o lyfr Y Dyn a Wnaeth Argraff i eryr o adolygydd ym mherson P.H. Jones. Mae Mr Philip Henry Jones yn ddarlithydd yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru, ac yn awdur traethawd anghyhoeddedig ar Thomas Gee.

Mae'n amlwg y byddai eryr yn anfodlon ar lygoden fel cinio, ac yn dymuno cael cwningen neu sgwarnog – a chredaf yn wir fod Mr Jones wedi cael poen mawr yn ei fol oherwydd eich camgymeriad damweiniol. Wedi'r cyfan, dyma ddyn sy'n medru treulio ei ddyddiau yn trin llyfrau'n broffesiynol.

Wrth gwrs, yr wyf yn ddiolchgar i Mr Jones am gywiro yr hyn a eilw yn "nifer o lithriadau amseryddol" yn fy llyfryn - er nad yw'n nodi ond dau yn unig, sef amser newid natur papur o racs llin i stwnsh coed, ac amser y newid o'r hen weisg pren i'r gweisg haearn.

Mewn gwirionedd, nid gwall amseryddol oedd yr ail, ond camgymeriad rhwng gwasg Stanhope a gwasg Albion.

Gallai John Jones fod wedi defnyddio gwasg Stanhope fel sail i'w wasg ei hun; nonsens ar ran Mr P.H. Jones yw dweud: "Ni fedrai chwaith adeiladu efelychiad o wasg Stanhope gan fod y fframwaith wedi ei wneud o ddarn sylweddol o haearn bwrw." Fel y dywedais yn y llyfryn (t.8), hyfforddwyd John Jones fel gof, a gallai'n hawdd fod wedi gwneud y gwaith angenrheidiol petasai wedi dewis cynllun Stanhope yn hytrach nag eiddo Ruthven.

Mae Mr Jones wedyn yn gweld bai ar y llyfryn am nad wyf wedi trafod gwasg Ruthven yn fanwl. Ofnaf fod hyn yn esiampl o wir broblem Mr Jones; nid yw'n fodlon gweld cyhoeddi llyfr `poblogaidd' yn y maes hwn.

Fel y mae'n eglur yn y llyfryn, ymdrechais i greu diddordeb lleol yn John Jones a'i gyfraniad i'r byd cyhoeddi yng Nghymru. Ond dymuniad Mr Jones yw imi drafod gwasg Ruthven yn dechnegol, i drafod holl agwedd busnes y wasg yn fanwl, a chyhoeddi llyfryddiaeth fanwl yn rhan o'm cyfrol.

***

OFNAF mai snobyddiaeth ysgolheigaidd yw hyn oll. Onid oes hawl gan y darllenydd cyffredin i gael blas ar hanes, heb ei lwytho a thystiolaeth fanwl? Gofynna Mr Jones am lyfryddiaeth fanwl. Mae gennyf restr (anghyflawn o hyd, wrth gwrs) o gyhoeddiadau John Jones - 300 a mwy o lyfrau a llyfrynnau, a 500 o faledi. Byddai'r rhain, wrth eu rhestru, yn llenwi cyfrol drwchus - a gobeithio y caf ei chyhoeddi ryw ddydd.

Ac ofnaf na fyddaf fyth yn medru cyrraedd nod Mr Jones o gynnwys, nid collation yn unig, ond dadansoddiad o'r papur ac o'r teip. Mae hynny'n bosibl, wrth gwrs, pan drafodir gwaith gwasg megis Gregynog – ond chwerthinllyd yw awgrymu'r posibiliad o ddadansoddi'r papur a'r teipiau a ddefnyddiwyd gan wasg fach gyffredin yn y ganrif ddiwethaf.

Mae'n amlwg na ddealla Mr Jones y broblem o sgrifennu llyfr ar gyfer darllenwyr nad ydynt yn arbenigwyr.

Er enghraifft, y mae'n fy nwrdio am fod yn amhendant am nifer y gweisg Ruthven yn argraffdy John Jones; dyfynna Ifano, a dderbyniodd lythyr oddi wrth J.J. Lloyd yn cyfeirio at dair gwasg. Ond yn anffodus, nid yw mor syml ag y myn Mr Jones yn ei anwybodaeth.

Ni chyfeiria John Jones yn ei lythyrau at dair gwasg – ond ceir awgrymiadau (nid pendant) fod dwy wasg ganddo. Pan sgrifennodd J.J. Lloyd ei lythyr, dywed fod y gweisg Ruthven wedi eu tynnu ar wahân (dismantled), ond ei fod yn cofio'r tair yn gweithio.

Ond i ba raddau y gellir dibynnu ar gywirdeb J.J. Lloyd? 'Roedd yn feddwyn ac yn ddiogyn o fri. Gadawodd seler `Yr Hen Brinting' yn llawn poteli-chwisgi gwag pan fu farw!

A phan fu farw, y cyfan o weisg John Jones a oedd ar ôl oedd un wasg gyfan (a roddwyd yn ôl at ei gilydd yn Amgueddfa South Kensington) a darnau o wasg arall, heb fod yn gyflawn. Mae'n berffaith bosibl, felly, na fodolai'r drydedd wasg yn unlle ond yn nychymyg J.J. Lloyd.

Wrth gwrs, y mae llygad craff Mr P.H. Jones wedi sylwi ar y ddau lun sydd yn Y Dyn a Wnaeth Argraff, y ddau o weisg Ruthven, a'r ddwy yn edrych yn wahanol i'w gilydd. Da iawn - ond ysywaeth, nid yn gywir. Oherwydd y mae'r ddau yn lluniau o'r un wasg sydd yn South Kensington, wedi eu tynnu ar adegau gwahanol. Ni allaf esbonio'r gwahaniaethau, ond dyna'r ffaith - un wasg, nid dwy.

Gobeithio fod pawb arall, beth bynnag, yn sylweddoli pam yr oeddwn yn amhendant am nifer gweisg Ruthven ym meddiant J. Jones - nid oedd modd bod yn bendant.

***

YMDRECHA Mr P.H. Jones I'm helpu trwy geisio bod yn bendant am y dyddiad pan roddwyd y gweisg Ruthven heibio, trwy ddefnyddio llythyr J.J. Lloyd eto. "Awgryma'r llythyr ... mai yn 1887 neu ychydig yn ddiweddarach y prynwyd y gweisg newydd". Ond nid yw prynu gweisg newydd yn golygu rhoi'r hen rai heibio ar unwaith.

Anodd iawn iawn yw dyfalu pryd y prynwyd y gweisg newydd; nid oedd Owen Evans-Jones (mab John) a fu farw yn 1887 yn gymeriad egnïol na blaengar, ond ni ellid canmol J.J. Lloyd chwaith.

'Roedd dyn arall â’i fys yn y potes – Evan Jones, mab hynaf John. Bu ef yn bostfeistr ac yn argraffydd ym Mhorthmadog, a chefais hyd i un neu ddau o lyfrau yn dwyn y geiriau "Porthmadog: Argraffwyd gan E. Jones (e.e. Gweithiau loan Mai, 1891) ond y tebyg yw na wnâi Evan ond mân waith argraffu ym Mhorthmadog, a'i fod yn gyrru'r ychydig lyfrau a llyfrynnau i Lanrwst i'w hargraffu yno.

'Roedd gan Evan ddylanwad yn Llanrwst, mae'n siŵr – ond faint yn fanwl, ni ellir bod yn siŵr.

Eto, wrth grybwyll yr offer-bwrw-teip a wnaeth John Jones, y mae Mr P.H. Jones yn gweld bai arnaf am beidio â derbyn gair Amgueddfa South Kensington mai rhwng 1809 ac 1815 y gwnaethpwyd hwy – a minnau'n awgrymu 1820-1830 yn hytrach na dyddiadau'r Amgueddfa.

Hyd y gwn i, yr unig wybodaeth a oedd gan yr Amgueddfa oedd yr hyn a roddwyd iddynt gan J.T. Evans yn 1935, pan gyflwynodd hen offer John Jones i'r Amgueddfa. Yn anffodus, ni ellir dibynnu bob amser ar wybodaeth J. T. Evans - ei brif ffynhonnell ef am wybodaeth, mae'n debyg, oedd J.J. Lloyd.

Anodd iawn iawn fyddai profi bod y naill awgrym na'r llall yn gywir - ac nid fy llyfryn bach i oedd y lle i fanylu. Ymdrechaf i wneud hynny yn awr.

Ni allaf weld unrhyw dystiolaeth i John Jones ddechrau argraffu cyn 1811/12. Wrth gwrs, 'roedd cynnyrch Trefriw yn dal yn enw Is(h)mael Davies hyd 1817, ond hawdd yw gweld newid yn y cynnyrch yn 1811/12, a cheir englyn o waith John Jones yn Y Blwch Caniadau (1812). Teimlaf yn weddol hyderus, felly, wrth ddweud fod 1809 yn rhy gynnar.

***

OND ni allaf fod yn hyderus am ddim byd wedyn! Pryd y dysgodd John Jones i fwrw teip, ni wyddys. Pryd y dechreuodd ddefnyddio teip o'i wneuthuriad ei hunan, ni wyddys. A fyddai yn creu ffownt gyfan, neu ond yn llenwi bylchau ac yn ychwanegu at ei stoc, ni wyddys.

Y mae safon ei lythrennau ei hun mor uchel (a barnu wrth y patrices a'r matrices) fel na ellir gwahaniaethu rhyngddynt a theip o ffynonellau eraill wrth graffu ar ei lyfrau – heblaw yn y gwaith cerddorol yn unig, lle nad yw'r safon mor uchel. Ac yn anffodus, y mae'r gwaith cerddorol a wnaeth bron i gyd yn ddi-ddyddiad! (Ni pherthyn Mawl yr Oesoedd i'r drafodaeth –gwaith ysgythredig ydyw).

Y llyfryn lle y defnyddiodd y rhan fwyaf o'i deip cerddorol oedd Y Carolydd o waith Pugh Iolen – di-ddyddiad o Lanrwst. Teimlaf mai cynnyrch cynnar Llanrwst ydyw – efallai 1825-1830. Efallai y dylwn fod wedi awgrymu 1815-1830. Ond credaf fod f’amcanion innau yn ddiogelach nag eiddo'r Amgueddfa.

***

YN WIR, yn wir, fe hoffwn dderbyn cais Mr Jones, i mi baratoi cyfrol a fyddai’n deilwng o lafur John Jones a’i deulu. Neu, a bod yn fanwl gywir, fe'i paratoais ers tro byd – ond pwy fyddai am ei gyhoeddi?

Efallai y byddai modd cael cyhoeddwr academaidd i lyfr a fyddai’n trafod yr holl deulu - gan gynnwys Dafydd Jones, Trefriw. Ond y mae'r syniad o ddechrau gwaith o ddifrif ar hwnnw yn fy nychryn.

Gofynna Mr Jones i mi drafod ochr busnes gwaith John Jones yn "llawer manylach" - gan awgrymu bod bai arnaf am beidio. Gwaetha'r modd, nid erys ymhlith llawysgrifau John Jones ond dwy gyfrol gownt flêr ac anghyflawn. Y mae un yn cynnwys manylion ychydig o lyfrau a 'jobs' argraffu, a'r llall yn cynnwys rhestri hirion o lyfrau a roddwyd i'r llyfrwerthwyr crwydrol - ond yr unig farn gall y gellir ei ffurfio am ochr fusnes y gwaith yw ei fod yn hynod flêr!

Yn y cyfamser, disgwyliaf yn eiddgar am gyfrol safonol Mr P.H. Jones ar Thomas Gee, a oedd yn gyhoeddwr ac yn argraffydd anhraethol bwysicach (ond nid mwy diddorol) na John Jones. Gan ei fod yn disgwyl cymaint gan lyfryn bach poblogaidd fel f’eiddo i (ac yn amlwg yn credu na ddylid byth cyhoeddi llyfryn am Thomas Gee i ddiddanu trigolion Dinbych) y mae gennym yr hawl i ddisgwyl rhywbeth anghyffredin iawn o'i law yntau.