CAN MLYNEDD O RECORDIO gan Ifor Jones

AR DDIWRNOD oer ym mis Rhagfyr, gan mlynedd i eleni, fe lwyddodd Thomas Eddison yn ei labordy yn New Jersey i atgynhyrchu'r llais dynol. Y geiriau cyntaf a recordiwyd erioed oedd Mary had a little lamb.

Mae'n anodd dweud pa bryd y daeth y gramoffon yn fenter fasnachol lwyddiannus. Yn wreiddiol fe geisiodd cwmni'r Cylinder Phonograph addasu'r ddyfais ar gyfer swyddfeydd fel y gallesid, trwy'r llais, gofnodi llythyrau a gwybodaethau; ond ni bu'r antur honno'n llwyddiant.

Mewn sioeau a ffeiriau yn America y gwnaed y defnydd cyntaf o'r rhyfeddod newydd. Ond gan mai ar silindrau cŵyr y gwneid yr atgynhyrchu, a'r rheini'n feddal, fe godai cryn broblemau. Ond oddeutu 1895 llwyddodd Almaenwr o'r enw Berliner i wneud y record fflat gyntaf yn America. Ond yr oedd yn rhaid troi ei ddyfais yntau â'r llaw nes darganfuwyd ffordd i ddefnyddio spring i gadw'r record i droi ar gyflymdra cyson.

Oddeutu 1897 sefydlodd y brodyr Gaisberg y Gramophone and Typewriter Company. Aeth adran y teipiaduron i'r wal, ond blodeuodd yr adran Gramoffon. Ond tegan oedd y ddyfais o hyd nes i F.W. Gaisberg glywed Caruso yn canu yn Yr Eidal a phenderfynu rhoi cynnig ar ei recordio. Fel arbrawf talodd gan punt i Caruso am recordio deg cân - ymgymeriad a gwblhawyd mewn un prynhawn; a dyna'r gramoffon wedi cyrraedd.

Yn ystod yr ugain mlynedd a ddilynodd cafodd Caruso filiwn o bunnau o'i recordiau - a'r cwmni'n cael cymaint ddwywaith a'r gwaith o recordio prif gantorion y byd wedi dechrau o ddifri. "Caruso" medd Gaisberg "a roddodd fri ar y gramoffon". Daeth cyfle Adelina Patti (soprano), Nellie Melba (soprano), Luisa Tetrazzini (soprano), John McCormack (tenor), Chaliapin (bas) a llu mawr hyd heddiw.

***

PA BRYD cychwynnwyd recordio caneuon Cymraeg sy'n ansicr iawn. Yr oedd amryw o Recordiau Cymraeg yn y Catalog am 1902. Mae rhai cantorion a recordiwyd yn gynnar ond ni wyddys dim amdanynt : dyna Festin Davies - yr ydym yn gwybod iddo fod yn Arweinydd yr Imperial Singers, a bu'r côr meibion yma amryw o weithiau yn America. Fe'i clywais yn canu ym Mae Colwyn a Threfriw pan oedd yna ddau ganwr o Drefriw yn aelodau o'r parti; ac yr oedd yn barti rhagorol.

Ond un o'r rhai cyntaf i gael ei recordio oedd y bariton David Brazell a hynny ar ddechrau'r ganrif. Dechreuodd recordio i'r Phonograph ar y cyntaf a pharhaodd i recordio hyd tua 1930. Mae gen i ddwy record ohono yn canu BREUDDWYD Y MORWR BACH. (R.S. HUGHES). YR ORNEST (WILLIAM DAVIES) Y MARCHOG (J. PARRY) Y BACHGEN FFARWELIODD Â’I WLAD (R.S. HUGHES).

Fe glywais record o Dr. Mary Davies lawer blwyddyn yn ôl ond methais â chael gafael ar un. Yr oedd hi yn un o'r artistiaid yn Eisteddfod Wrecsam 1888; yr oedd hefyd yn awdurdod ar ganu gwerin. Cymerodd ran flaenllaw yn sefydlu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ym 1906 a chafodd y radd o Ddoethor mewn Cerddoriaeth ym 1916; bu farw ym 1930. Buaswn yn falch o gael record ohoni. Y record a glywais i oedd un Red Label 12" achos dim ond 12" Red Label oedd gan y perchennog ac yr oedd ganddo 500 ohonynt. Ond nis gwn i ble'r aethant yn y diwedd.

***

RYDYM i gyd yn cofio’r ddadl ynglŷn ag Eleanor Jones-Hudson a Bessie Jones; rhai yn ceisio dyfalu oedd yna un gantores ynteu dwy. Yn y golofn Collectors Corner yn y Gramophone bu'r golygydd mewn gohebiaeth â Bessie Jones cyn iddi farw tua dwy flynedd yn ôl. Clywsom hi yn canu ar y rhaglen Rhwng Gŵyl a Gwaith - 0 NA BYDDAI’N HAF 0 HYD pan oedd dros ei phedwar ugain oed ac yn dal i ganu'n wych.

Mae gen i ddwy record o Bessie Jones sef BWTHYN YR AMDDIFAD, SUO GÂN, NANT Y MYNYDD, CLYCHAU ABER­DYFI. Mae gen i record o Eleanor Jones-Hudson yn canu 0 NA BYDDAI'N HAF 0 HYD, LLAM Y CARIADAU - a daw'r record yma o oddeutu 1905.

***

UN ARALL o gantorion Cymru a wnaeth enw iddi ei hun oedd LEILA MEGANNE o Bwllheli ac yn 1912 pan enillodd yn y Gen­edlaethol fe'i clywyd gan Lloyd George a'i helpodd i dalu am ei haddysg gerddorol ym Mharis dan y canwr enwog Jean de Reszke. Daeth yn wraig i T. Osborne Roberts, Ysbyty Ifan, cyfansoddŵr a cherddor gwych.

Yr oedd fy mhriod a mi yn ei hadnabod yn dda at ddiwedd ei hoes, a'r tro diwetha' y clywsom hi'n canu oedd mewn priodas perthynas iddi a'r llais yn dal yn wych. Mae gennyf amryw recordiau ohoni - un record yn y Ffrangeg "LES LARMES" a ganodd yn yr OPERA COMIQUE ym Mharis.

***

UN ARALL y bu llwyddiant iddo yn y Gymraeg er wedi ei eni yn America oedd EVAN WILLIAMS, tenor yn meddu ar lais cyfoethog. Bu'n canu mewn oratorďau ledled Cymru a gwnaeth lawer iawn o recordiau. Yr oedd yn un o artist­iaid y Red Label i H.M.V. Mae gennyf hen record ohono yn canu OPEN THE GATES OF THE TEMPLE.

***

Erbyn hyn mae'r hen recordiau 78 r.p.m. wedi peidio a bod ers talwm, ond y mae artistiaid Cymru ar y blaen o hyd yn enwedig ym myd yr opera; cantorion fel Geraint Evans, Gwyneth Jones, Margaret Price, Stewart Burrows, ac amryw eraill.