CASGLU'R HEN LUNIAU gan Elwyn Hughes

RAI BLYNYDDOEDD yn ôl, dechreuais ymddiddori yn hanes lleol Dyffryn Ogwen, fy ardal enedigol, a bûm wrthi'n ddyfal yn casglu llyfrau, dogfennau, llawysgrifau, etc. yn ymwneud â'r fro. Ddwy flynedd yn ôl, fodd bynnag, sylweddolais fod un bwlch amlwg yn fy nghasgliad, sef lluniau.

Gŵyr y cyfarwydd mor bwysig yw hen luniau o olygfeydd, adeiladau, diwydiannau, digwyddiadau, cymeriadau ac ati o safbwynt hanes lleol; o'u dehongli'n gywir ac ymchwilio i'r hanes y tu ôl iddynt, gallant draethu cyfrolau wrthym am orffennol bro. Gwyddom i sicrwydd hefyd, fod cannoedd, onid miloedd, o luniau pwysig wedi eu llosgi neu eu difa yng nghartrefi llawer o bobl.

Beth a all yr hanesydd lleol ei wneud, felly, i geisio diogelu'r trysorau hyn? Eu danfon i Swyddfa Archifydd, wrth gwrs, yw'r ateb cyntaf a ddaw i feddwl dyn ond ai dyma'r unig ffordd? Yn wir, gellid holi a yw'r person cyffredin yn debygol o hyd yn oed ystyried Swyddfa Archifydd pan ddaw ar draws rhyw hen lun neu'i gilydd.

CREDAF FOD dwy ffordd arall o weithredu o safbwynt yr hanesydd lleol. Yn gyntaf, gall wneud yn hysbys ei fod yn casglu hen luniau'n ymwneud a'i ardal a'i fod yn apelio i bobl gyfrannu eu lluniau er eu diogelu yn ei gasgliad personol ef. Ond y mae anhawster amlwg yn y dull hwn: er bod pobl yn fodlon iawn i rywun weld eu lluniau, nid mor hawdd ganddynt eu trosglwyddo i neb arall, am byth fel petai, er cystal yw cymhellion y casglwr.

Er i mi fanteisio'n aml ar garedigrwydd llawer o'm cyfeillion a'm cydnabod yn y cyfeiriad hwn, gwyddwn o'r gorau mai cyfran fach iawn o'r holl luniau a oedd yn bod a ddeuai i'm meddiant i ac yn rhan o'm casgliad.

Taro ar syniad arall, felly, sef yr unig ffordd bendant a pharhaol i ddiogelu'r hen luniau hyn, a hynny yw gwneud copïau ohonynt. Canfûm fod pawb, fwy neu lai, yn gwbl barod i mi gael benthyg eu lluniau am gyfnod byr.

GAN NA theimlwn y dylid cadw'r hen luniau hyn i hel llwch yn fy nghasgliad personol a phreifat i, dewisais eu copïo ar dryloywderau fel y gallwn eu dangos i lawer o bobl ar yr un pryd, e.e. mewn sgwrs neu ddarlith ar hanes lleol.

Yn raddol, daeth pobl i sylweddoli beth yr oeddwn yn ei wneud a buan iawn y dechreuodd y lluniau ddylifo i mewn. 0 fewn tua phymtheng mis, 'rwyf wedi cael benthyg dros chwe chant o luniau, rhai ohonynt yn brin a hynod werthfawr o safbwynt hanesydd lleol, ac y mae'r casgliad cyfan erbyn hyn yn agos i fil.

Un rhybudd, fodd bynnag, i’r sawl a fynno ymddiddori yn hyn : y mae gwneud copïau tryloywder o'r hen luniau yn waith costus; costus iawn os ydych yn gorfod dibynnu ar arall i wneud y gwaith drosoch!

Wrth derfynu, ni allaf ond gobeithio y bydd hyn o lith yn gyfrwng i sbarduno eraill i ymddiddori yn hen luniau eu hardal.