SYMUD LLYFRAU BOB OWEN gan David Jenkins

Y TRO cyntaf imi gyfarfod � Bob Owen, Croesor, oedd ar stesion Aberystwyth rhywdro tua chanol y '30au pan ddaeth i annerch Cymdeithas Geltaidd y Coleg. Nid anghofiaf yr olwg arno. Bwrlwm o ddyn byr wedi'i wisgo mewn siwt o frethyn cartre, het wedi'i bwrw n�l ar ei wegil, a'i fysedd yn ceisio ar y cyd ddal bag bychan a rholio sigar�t cyn fod y t�n wedi diffodd ar y bonyn oedd agos � llosgi�i fwstas.

Nid Cymry enwog oedd ei destun gosod y noson honno ond dyna a gawsom - un felly oedd Bob pan chwythai'r awel - a chyn diwedd ei ddarlith hudolus 'roedd wedi'n llwyr argyhoeddi na chyflawnwyd dim o bwys yn hanes gwareiddiad y gorllewin - ac yn arbennig yn yr Unol Daleithiau - heb ei fod yn waith Cymro neu'n un o'r hil. 'Roedd rhywbeth heintus yn y rhaeadr o ffeithiau a bentyrrai i brofi'r naill osodiad ar �l y llall.

Nid oedd s�n am gyfrifiadur yn y dyddiau hynny - a phetai, ni ragorai ddim ar y compiwtar o Groesor. Pwy arall, yn wir, a feiddiai ymhen blynyddoedd dderbyn her i ateb unrhyw gwestiwn wedi'i godi o'r Bywgraffiadur Cymreig yn weddol fuan ar �l cyhoeddi'r gyfrol swmpus honno?

***

'ROEDD llyfrgell Bob Owen yn ddihareb genedlaethol, hyd yn oed cyn yr Ail Ryfel Byd, ac eto, o ran maint nid hi oedd y fwyaf o lyfrgelloedd personol y b�m i'n ei thrafod. Eiddo R.E. Jones, Borthygest (a Thanygrisiau gynt) oedd honno.

Y mae'n wir fod llyfrau Bob yn llythrennol ym mhob stafell ond un yn y tŷ (gan gynnwys y gegin). Parlwr Aelybryn oedd yr eithriad - a hynny o barch i Mrs. Owen, un o'r gwragedd mwyaf graslon ac ystyrlon a gafodd un gŵr erioed - ond fe wyddai eu perchen leoliad pob cyfrol ac 'roedd yn bur hyddysg yn eu cynnwys hefyd.

Tua diwedd y '50au cytunodd Bob ei bod yn bryd iddo feddwl am werthu'r llawysgrifau a llyfrau hynny y medrai bellach eu hepgor ac o ganlyniad fe deithiodd y Dr. E.D. Jones a minnau lawer i Groesor a dewis o fysg y trysorau. Cawsom lawer helfa werthfawr i'r Llyfrgell Genedlaethol ac o bryd i'w gilydd cynigiai Bob ddetholiad o'r gweddill i lyfr�gelloedd eraill.

Hyd yn hyn, oherwydd ei gyfeillgarwch agos �'r Dr. Thomas Richards, y Llyfrgellydd, aethai rhywfaint o flaenffrwyth Croesor eisoes i lyfrgell Coleg y Brifysgol, Bangor, a chredai pawb ohonom yn y byd llyfrgellyddol mai yno hefyd yr �i'r gweddill. Fodd bynnag, un pnawn galwodd Bob yn y Llyfrgell Genedlaethol ar ei ffordd adre wedi bod yn darlithio tua Chastell Nedd.

Wrth edrych yn �l ar yr amgylchiad 'rwy'n sicr yn fy meddwl ei fod yn dechrau synhwyro ei fod yn tynnu i ben ei dalar oherwydd, heb falu awyr, gofynnodd a ofalwn am ei lyfrgell ar �l ei ddydd gan adael i Fangor brynu'r hyn nad oedd ar y Llyfrgell Genedlaethol mo'i heisiau. Cytunais, a bu'r Dr. E.D. Jones a minnau yn fynych ar daith yn y Morris Minor i Groesor.

***

PAN DDAETH yn amser cytunwyd mai'r peth gorau oedd imi symud y casgliad yn ei grynswth i Aberystwyth - ond haws dweud na gwneud. Un peth oedd mynd �'r Morris bach i fyny'r ffordd gul o Lanfrothen er mwyn casglu bocsiaid o lyfrau - ond problem gwbl wahanol oedd symud cannoedd lawer o lyfrau, oherwydd fe gofia'r cyfarwydd fod un o fw�u nodedig Syr Clough Williams Ellis wrth gydiad y ffordd fawr �'r I�n i Groesor fel nad oedd fodd yn y byd mynd � dim byd tebyg i pantecnicon y ffordd honno.

Y diwrnod cyntaf, felly, nid oedd dim amdani ond gwneud arolwg manwl o'r dasg a mesur lled y l�n yn y mannau culaf - a gobeithio. 'Roedd yn gwbl amlwg y cymerai wythnosau imi gyda'r car bach yn unig ac er holi ymhell ac agos ni fedrwn yn fy myw gael hyd i fen bwrpasol.

Y noson honno, fodd bynnag, wrth droi tua thre i Benrhyn-coch (ger Aberystwyth) lle mae'r ffordd yn culhau wrth dynnu at y pentre�, mi ddaliais 'hen fws bach y wlad'. Wrth ddilyn o'i �l yn araf ddirwyn ei ffordd - fe'm trawodd! Neidiais allan o'r car ar y cyfle cyntaf ac er mawr ddifyrrwch a syndod i'r teithwyr mewn chwinciad 'roedd ei berchen, Dafydd Ifans, a minnau wrthi'n ddygn fesur hyd a lled ac uchder y bws.

Prin fodfeddi oedd i chwarae arnynt yn y lled a'r uchder, ond er imi sylweddoli mai dipyn o fenter oedd, llogais y bws yn y fan a'r lle.

***

YMHEN RHAI dyddiau cafodd rhai o'm cyd-weithwyr drip i Groesor mewn bws oedd yn llawn o gistiau gwag. Aethai'r Morris bach ar y blaen yn araf a phetrus ond mae'n rhyfedd beth a ellir dim ond meithrin amynedd a gofal. Cyrhaeddwyd Croesor cyn hanner dydd y diwrnod cyntaf a chychwynnwyd pacio'r llyfrau ar fyrder. Tua chanol y pnawn dechreuwyd llwytho'r bws.

'Roedd hi'n bnawn hirfelyn tesog (chwedl y Bardd Cwsg) a phawb yn y pentre fel petai'n cymryd siesta dda. Ond golygfa dwyllodrus oedd cysgadrwydd Croesor, oherwydd ymhen ychydig 'roedd o'm cwmpas nifer o wragedd cynhyrfus yr olwg yn protestio mod i'n dwyn o'u plith y bri a berthynai i'r lle.

Bu'n ymdaeru hir a glew, ond cwrtais iawn, ac yn y diwedd cytunwyd mai peth godidog oedd trosglwyddo i'r Llyfrgell Genedlaethol y rhan hon hefyd o waddol y genedl. Felly y'n rhyddhawyd ni.

Eithr ar y daith i lawr i Lanfrothen fel petai holl ellyllon Cwm Croesor am ein rhwystro. Teirgwaith y bu'n rhaid lledu'r ffordd, dwywaith y bu'n rhaid troi'n �ddrofers' - ac unwaith fe gostiodd becyn o sigaretau cyn llwgrwobrwyo gyrrwr rhaca ceffyl ei bod yn haws iddo ef droi i mewn i gae gerllaw nag i'r bws fynd yn ei wrth-�l i Groesor.