CYFROL FAWR EDWARD LHUYD
~ Brynley F.Roberts a'r Archaeologia

Y MWYAF adnabyddus a'r pwysicaf, o gyhoeddiadau'r polymath Cymreig Edward Lhuyd yw'r Archaeologia Britannica, y llyfr safonol cyntaf ar yr ieithoedd Celtaidd. Y gyfrol gyntaf mewn cyfres a arfaethwyd ar hanes a naturiaetheg Prydain Geltaidd ydoedd ond bu farw'r awdur cyn iddo allu paratoi'r ail gyfrol.

Chwalwyd y gymdeithas o ymchwilwyr a sefydlwyd ganddo yn Amgueddfa Ashmole yn Rhydychen lle'r oedd yn guradur ac ni chododd neb i ddwyn y gwaith yn ei flaen. Yr oedd ganddo gynllun enfawr a chynhwysfawr yn ei feddwl a gwmpasai fywgraffiadur hanesyddol, rhestr o enwau lleoedd, trafodaeth ar arferion gwerin, henebion, arysgrifau, yn ogystal â disgrifiad o dirwedd, ffosilau, planhigion ac anifeiliaid Cymru.

Yr oedd ei gynorthwywyr wrthi'n casglu ac yn copio dogfennau hanesyddol pan fu farw, ac yntau'n arfaethu cyhoeddi llyfr 8vo. yn Lladin ar ddulliau'r Galiaid a'r Brytaniaid o lunio enwau priod ac enwau lleoedd.

Ni chyhoeddwyd hwn a hyd y gwyddys ni pharatowyd dim o ail gyfrol yr Archaeologia ar gyfer y wasg er bod William Jones Llangadfan wedi dweud wrth William Owen (-Pughe) yn 1794 fod pymtheg o gopiau o'r ail gyfrol wedi'u hargraffu a bod un gan y 'Revd Mr Tinsley of Llanddinam'. (Mae'r cyfeiriad hwn yn Llên Cymru, I, td. 180).

Ond cynllun y gyfres sy'n esbonio'r 'Vol. I' ar dudalen deitl yr Archaeologia, ac yn anffodus rhaid ei osod yn yr olyniaeth nodedig honno o weithiau na chyhoeddwyd ond eu cyfrol gyntaf - Braslun Saunders Lewis, Cofiant O.M. Edwards, Enwau Afonydd a Nentydd Cymru, Hanes Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, etc.

***

BU Lhuyd wrthi'n hir yn cynllunio'r llyfr. Cyhoeddodd ei `Design' yn 1695 gan apelio am gefnogaeth ariannol i'w gynnal ar y teithiau y gwelai y byddent yn angenrheidiol i gasglu'r deunydd. Yn 1696 lluniodd Holiadur (y Parochial Queries y cyhoeddwyd yr atebion a dderbyniwyd iddynt gan Rupert Morris yn Atodiadau i Archaeologia Cambrensis yn 1909, 1910, 1911).

Yr oedd yr ymateb a'r addewidion yn ddigon calonogol i Lhuyd benderfynu y dylai ymddiried y gwaith o'u casglu a threfnu’r ochr ariannol i asiant, sef Walter Thomas, cyfreithiwr yn Gray’s Inn, ac amcangyfrifiai y câi ryw £30 y flwyddyn i’w gynnal gan yn agos i 200 o bobl, rhai'n tanysgrifio o 20/- i 50/- y flwyddyn, eraill yn talu unwaith.

Gwaith Walter Thomas fyddai sicrhau fod yr addewidion yn cael eu cywiro'n brydlon.

Âi'n fain arno ar adegau, ac ni ellir amau nad oedd y straen o weinyddu'r Amgueddfa trwy ohebiaeth, o drefnu'r teithiau a'r Ilety, o arolygu'r gwaith a dadansoddi'r casgiiadau, a hyn oll mewn cyfnod pan oedd yr hin yn anarferol o oer a gwlyb yn 61 meterolegwyr hanesyddol, yn liethol ac yn gyfrifol i ryw raddau am ei farw cyn cyrraedd ei hanner cant.

O 1697 hyd 1701 bu ef a'i gynorthwywyr ar daith trwy Gymru, yr Alban, Iwerddon, Cernyw a Llydaw yn hel defnyddiau o bob math. Teithient a chasglent eu tystiolaeth yn y gwanwyn a'r haf, ac yna oedi dros y gaeaf i gopïo, i archwilio ac i ddechrau ysgrifennu adrannau o'r llyfr.

Wedi dychwelyd i Rydychen ymroes Lhuyd i'r gwaith o lunio'r gyfrol gan ymneilltuo i bentref Eynsham Ile y câi lonydd i fyfyrio ac i baratoi'r astudiaethau ieithyddol a oedd gymaint o flaen eu hoes fel na ddeallai'i gyfoedion mor newydd oeddynt mewn gwirionedd.

***

DECHREUWYD argraffu'r Archaeologia fis Medi 1703 'At the Theater for the Author'. Nid oes cofnod yng Ngwasg Prifysgol Rhydychen o argraffu'r llyfr gan nad y Brifysgol a'i cyhoeddodd. Mewn amgylchiadau felly talai'r awdur neu'r cyhoeddwr y gweithwyr yn uniongyrchol er y gallai'r Wasg godi tâl ychwanegol a elwid 'poundage' oni fernid bod yr achos yn un arbennig.

Nid oes sôn am 'poundage' ar yr Archaeologia ond ceir un cytundeb a wnaeth Lhuyd â'r gweithwyr pan oedd y gyfrol yn mynd trwy'r wasg: ymrwyment i argraffu 30 dalen yn ôl 3 dalen bob pythefnos.

Lhuyd ei hun a wynebai gostau'r cyhoeddi a gallwn ddeall ei ofid pan ddywed 'I have put myself in some debt by the printing; and, therefore, the sooner the subscribers send up the remainder of their money, the greater will be their kindness.'

Pan fu farw, ddwy flynedd wedi cyhoeddi'r llyfr, yr oedd arno £28 o ddyled i'r Brifysgol, costau'r argraffu o bosibl, ac yr oedd arno F8-16-6 i Lewis Thomas, Argraffydd y Brifysgol, am bapur a brynwyd o Chwefror 1704 hyd Fawrth 1707.

***

DIGON cythryblus fu perthynas Lhuyd a'r wasg, oherwydd fel pob awdur, gwelai'r argraffwyr yn araf yn dwyn ei waith i olau dydd. Mae'r Archaeologia yn llyfr o 440 o dudalennau, mae ynddo ragymadroddion mewn pedair iaith (Cymraeg, Saesneg, Gwyddeleg, Cernyweg), fe gynnwys dri gramadeg, rhestri o eiriau llawer iaith, cyfresi o gyfnewidiadau seinegol, a gosodir y rhan helaethaf ohono mewn tair colofn ar bob tudalen. Amrywir y teip a gwneir defnydd o arwyddion arbennig.

Dechreuwyd argraffu gyda'r Geiriadur Gwyddeleg (Adran 10), ond buan y canfuwyd nad oedd gan y wasg ddigon o brif lythrennau a bu rhaid oedi. Erbyn mis Awst 1704 yr oeddid wedi cyrraedd S a chwblhau 22 o dudalennau.

Problem arall oedd fod angen ffownt arbennig ar Lhuyd i ddynodi'r 'hen Gymraeg', yr oedd hon yn y wasg ond yr oeddid yn argraffu yr un adeg lyfr George Hickes ar yr hen ieithoedd Germanaidd a galwai hwnnw am yr un ffownt. Y canlyniad oedd nad oedd digon o waith i ddau gysodydd a bod yr Archaeologia wedi dioddef oherwydd prinder teip. Bu rhaid gorffen llyfr Hickes cyn bod gobaith cwblhau cyfrol Lhuyd.

Anfonwyd y Geiriadur Gwyddeleg i siop lyfrau yn Nulyn i ddenu prynwyr, ac erbyn mis Rhagfyr 1704 credai Lhuyd fod traean y llyfr wedi'i wneud. Yr oedd 48 o ddalennau ar gael erbyn mis Gorffennaf 1705 a dwy adran arall wedi'u cwblhau.

Ymhen y flwyddyn gorffennwyd 90 o ddalennau (er bod yr awdur yn dal i ychwanegu at ei lyfr) ar raddfa o un ddalen yr wythnos. 116 o ddalennau a oedd yn y gyfrol erbyn y diwedd pan gyhoeddwyd hi fis Mai 1707.

***

GWERTHU a dosbarthu'r copiau er mwyn adennill ei arian, oedd prif nod Lhuyd yn awr. Fel y gwelwyd, yr oedd tua 200 wedi'i gefnogi ar ei deithiau. Penderfynodd roi copi i bawb a oedd wedi cyfrannu 20/- neu fwy bob blwyddyn ac argraffu'u henwau yn y llyfr.

Anghofiwyd ambell un o'r tanysgrifwyr hyn ond argraffwyd yr enwau ar wahân a gludio'r rhestr yn tua hanner yr argraffiad: byddai'n ddiddorol gwybod faint o'r copïau hyn sydd ar gael.

Yr oedd ganddo 200 o danysgrifwyr ychwanegol i'r llyfr ei hun (140 yng ngholegau Rhydychen, 20 yng ngogledd Lloegr, 30 yng ngogledd Cymru, 12 yn Birmingham). Talai’r rhain goron (5/-) o ernes ac yna 1 1/2d am bob dalen : gan fod 116 o ddalennau yr oedd disgwyl iddynt dalu 9/6 cyn derbyn eu copi. Argraffwyd tua 200 o gopiau pellach (aeth 100 i Ddulyn, 50 i'r Alban, 12 i Gaergrawnt, 6 i Gaerefrog, 4 i Gaerwysg), ac ymddengys felly mai tua 600 o gopiau o'r Archaeologia a argraffwyd. Codai Lhuyd 16/- y copi heb ei rwymo, 18/6 wedi'i rwymo.

Ond yr oedd yn ogystal ychydig o goplau 'on large paper': nid wyf wedi gweld un o'r rhain, ond pan wrthododd Iarll Carbery arddel ei danysgrifiad gwerthwyd ei gopi i lyfrwerthwr am ddwy gini. Copi tebyg a roddwyd i Syr Roger Mostyn.

NID yw'r argraffiad cyffredin o'r Archaeologia yn llyfr prin (er ei fod yn costio tipyn mwy na'r 18/6 gwreiddiol). Cafwyd dau adargraffiad diweddar, y naill gyda rhagymadrodd gan Anne a William O'Sullivan, Irish University Press, 1971, a'r llall gyda rhagymadrodd gan Gwyn Walters, Scolar Press, 1969.

Soniwyd uchod am ddau hynodrwydd – yr argraffiad cain a'r rhestr ychwanegol o danysgrifwyr. Mewn ymgais i hybu'r gwerthiant trefnodd Lhuyd i'w gyfaill, yr ieithydd William Baxter, ysgrifennu broliant arbennig ar ffurf llythyr i Syr Hans Sloane, llywydd y Gymdeithas Frenhinol.

Cyhoeddwyd hwn yn y Philosophical Transactions ym Medi 1707 ond argraffwyd ef yn ddalen ar wahân yn ogystal. Fe'i ceir weithiau mewn copïau o'r Archaeologia naill ai'n ddalen rydd neu wedi'i rhwymo.

Mewn un copi y gwn amdano ceir WB ar yr ymyl uchaf a difyr yw dyfalu ai hwn oedd copi Baxter ei hun. Ond y copi yr hoffwn ei weld yw'r un a fu'n eiddo i'r Parch John Jones, brodor o Gaerfyrddin a fu am flynyddoedd yn gurad i Alexander Young, awdur 'Night Thoughts' yn Welwyn. Yr oedd yn adnabyddus fel casglwr hanesion am wŷr enwog. Cyhoeddwyd peth o'i hanes gan John Nichols yn ei Literary Anecdotes of the Eighteenth Century (1812), 1, 637-640, a chafodd ef rai o bapurau John Jones.

Aeth eraill i ryw Thomas Dawson, a pheth i Lyfrgell Dr Williams. Cyhoeddwyd rhai o'i hanesion am Lhuyd yng Ngeiriadur Bywgraffyddol Alexander Chalmer (1815), ac ar eu diwedd dywed John Jones ei fod wedi rhoi 'some particular anecdotes relating to this extraordinary person' ar ddail gwynion ei gopi o’r Archaeologia.

Bwriadai roi’r llyfr i lyfrgell Academi Caerfyrddin ond os do, ni wn beth a ddaeth o’r copi arbennig hwnnw.