HON YW FY NGHYFROL I ~ E.D.Jones a'r Ex Libris

 

Llyfrgell Syr Owen M. Edwards yn y Neuadd-wen, Llanuwchllyn
Cynllun J. Kelt Edwards, 1920.

MAE'N rhyfedd na fyddai'r Ex Libris wedi cael sylw cyn hyn yn Y Casglwr. Yn rhan gyntaf y ganrif hon, yr oedd nifer o Gymry yn casglu'r labeli a osodir ar gloriau mewnol llyfrau i ddynodi perchnogaeth.

Y mae nifer o'r casgliadau hyn yn y Llyfrgell Genedlaethol; y rhai mwyaf cynhwysfawr yw'r rhai a adawodd Syr Evan Davies Jones, Abergwaun, Arthur Schomberg a Herbert M. Vau­gan, Aneurin Williams, W.J. Hemp ac R.D. Roberts, rhai ohonynt yn arbenigo ar eitemau Cymreig.

Yr oedd yr arfer o'u casglu mor boblogaidd yn Lloegr ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel y sefydlwyd cymdeithas - yr 'Ex Libris Society' - a fu'n gyf­rifol am gyhoeddi cylchgrawn diddorol iawn o dan y teitl Ex Libris o'i sefydliad yn 1891 hyd ei dirwyn i ben yn 1908.

Rhyw ddeuddeng mlynedd yr ôl, ffurfiwyd y 'Bookplates Soci­ety' sy'n arwydd o adfywiad yn y diddordeb. Ymddengys nad yw eto wedi gafael yng Nghymru.

***

NID yw'r geiriaduron cyffredin Saesneg-Cymraeg yn cydnabod bodolaeth y 'bookplate' chwaethach cynnig gair hwylus Cymraeg am y papuryn bychan hwn i ddynodi perchnogaeth llyfrau. Defnyddia'r Ffrancod y Lladin 'Ex Libris. . .' am y papuryn, o eiriau cyntaf y disgrifiad. Y mae rhai Cymry wedi trosi hyn i 'Un o lyfrau...'

Yn y Termau Llyfryddol a baratowyd gan Goleg Llyfrgell­wyr Cymru dewiswyd 'label perchnogaeth' fel enw, ond o'r braidd y mae'n dderbyniol, gan mai disgrifiad yn hytrach nag enw ydyw.

Y mae'r ffurfiau cyfansawdd 'llyfrgell', 'llyfrbryf' a'r cyffelyb wedi hen ennill eu plwy, a gellid creu enw ar y patrwm hwn. Fe ddefnyddiwyd y gair plâd yn y term 'arfau plâd' (plate armour) gan y Cywyddwyr, a byddai 'llyfrblad' yn derm hwylus am bookplate.

Rheswm arall dros wrthod 'label' yw bod hwnnw'n enw ar is-ddosbarth ymhlith llyfr­bladau, - dosbarth sy'n cynnwys enw'r perchen wedi ei brintio'n syml neu gydag addurn o'i gylch.

Mae'r rhywogaeth hon yn dis­gyn yn uniongyrchol o'r arfer hyn a mwy cyffredin o ysgrifennu enw'r perchen y tu mewn i’r clawr neu ar y ddalen wen gyntaf. Gynt, byddid weithiau'n ych­wanegu rhigwm o rybudd i fenthycwyr anghofus.

***

FFURF fwy datblygedig yw'r llyfrblad. Yn y ffurfiau cynharaf arfbeisiau'r perchnogion yw'r elfennau amlycaf, a pharhânt felly hyd heddiw. Yn y ddeunawfed ganrif y daeth yr arfer i boblogrwydd yng Nghymru.

Gan fod y teuluoedd cefnog, a allai fforddio casglu llyfrgelloedd helaeth, yn meddu ar arfbeisiau arferedig neu gofrestredig yr oedd yn gwbl naturiol iddynt ddefnyddio'r arfbais ar lyfr fel y gwnaent ar eu cerbydau neu eu llestri arian.

Amrywiai'r nodau perc­hnogaeth o darian seml i rai'n cynnwys nifer o chwarteri i ddynodi priodasau ag aeresau, gyda, neu heb, enwau'r perc­hnogion. Y ffurf symlaf oedd defnyddio crib yr arfbais yn unig, gyda, neu heb, yr enw. Fel y newidiai ffasiynau newidiai ffurf y darian a'r addurniadau cyl­chynnol a gellid dyddio'r llyfr­bladau wrth ffasiwn cyfnod.

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg dechreuwyd cynhyrchu labeli mwy cymhleth a mwy dar­luniadol i gystadlu mewn diddordeb gyda'r llyfrbladau herod­rol, a bu nifer o arlunwyr enwog yn treio'u dwylo ar y gwaith.

Datblygiad o hyn yw'r arfer diweddaraf o wneud llyfrbladau cyffredinol gyda lle i'r perchen ychwanegu ei enw arnynt. Nid yw'r rhain mor ddiddorol â'r rhai cwbl bersonol.

Dewisais ychydig esiamplau o lyfrbladau Cymreig o wahanol gyfnodau i roi rhyw syniad am amrywiaeth y ffurfiau.


Am restr gweddol gyflawn o lyfrbladau Cymreig gweler dau lyfr.

Herbert M. Vaughan. The Welsh Book-plates in the collection of Sir Evan Davies Jones, Llundain, 1920 a Catalogue (with notes) of the Aneurin Williams Collection of Book Plates, Y Llyfrgell Genedlaethol, 1938. Ar y pwnc yn gyffredinol, y llyfr hawddaf ei gael yw British Bookplates, & pictorial history, gan Brian North Lee. Davies & Charles, 1979.