'ORNAMENTS YR HEN YNYS ~ gan Helen Ramage

 

Chwi gewch dorri'r llestri gleision
Gedwis ar y dresal cŷd

....meddai Elin Morys yn Lleisiau'r Fynwent W.J. Gruffydd. At blatiau pren helyg y cyfeirir, mae'n debyg; hwy fu'r mwyaf poblogaidd, a hwyrach mae'r stori ramantus ar y plât a ddenodd y crochenydd a'r cyhoedd.

Ond piwtar sydd yn gweddu orau ar ddresel Gymreig, oherwydd llestri piwtar a ddefnyddid ar y bwrdd bwyd yn y cyfnod pan dyfodd y dresel i'w llawn dwf; hynny yw, pan roddwyd silffoedd arni yn nechrau'r ddeunawfed ganrif - cyn hynny bwrdd hir gyda thair neu bedair drôr ydoedd.

I leoli'r dreselydd, yn fras - i Ogledd Cymru y perthyn rhai â chypyrddau yn y gwaelod, tra bod lle gwag yn y gwaelod i rai De Cymru a'r Canolbarth - a hwnnw'n lle hwylus i arddangos tecell neu badell bres.

Barn un arbenigwr yw mai ym Maldwyn y gwnaethpwyd y rhai mwyaf cywrain a chain eu cynllun. Derw oedd y coedyn a ddefnyddid fwyaf yng Nghymru, a phîn yn ail, a cheir hefyd ambell un o onnen a llwyfen.

Fe hoffwn i gael llond dresel o blatiau piwtar, ond maent yn gostfawr erbyn hyn; fe hoffwn yn fwy byth gael rhai a welais ar ddresel mewn parlwr ym Môn, ie mewn lle o anrhydedd yn y tŷ mae'r dresel heddiw; symudodd o'i hen gynefin, y gegin, a gellid dweud amdani:

Dy fonedd aeth i fyny

***

Y PLATIAU piwtar a welais oedd rhai William Prichard, Clwchdernog, y gwron o Eifionydd a oedd yn arloeswr Ymneilltuaeth ym Môn. Cefais wëir wrth eu gweld, a thorrais y Degfed Gorchymyn.

Y llestri dresel mwyaf anghyffredin a welais erioed oedd pob math o anifeiliaid – ogof Aladdin ohonynt ar ddresel ym Môn. Arni, yn lle'r cŵn arferol, 'roedd gan wraig y tŷ hwnnw ddwy gath fawr - nid cathod rhesog o'r ddeunawfed ganrif na'r cathod bach gwyn neu ddu yn eistedd yn ddel ar glustogau. (rhai Rockingham ydynt yn aml) ond dwy gath werdd o oes Fictoria, bron droedfedd o uchder - y rhai harddaf a welais erioed.

Ar y dresel honno, 'roedd yno hefyd filgi du, a myharen, llew a chwningen, cŵn pwg du a melyn, a holl drigolion y buarth, sef ceffyl a gwartheg, gafr a mochyn, hwyaden, iâr â'i chywion ar ei chefn a iâr gini fawr ar ei nyth.

Daeth cryn dipyn ohonynt oddi ar ddreselydd bythynnod y fro, oherwydd pan fethai rhywun tlawd dalu bil i'w gŵr, neu pan fynnent ddiolch iddo, gofynnai'r wraig honno am 'ornament' oddi ar y dresel yn dâl.

Pan fu hi farw, aeth ei chasgliad o Gymru, ac erbyn heddiw mae ar chwâl.

***

'ROEDD ganddi amryw o `fuchod llaeth' (cow creamers); fel jygiau llefrith y bwriadwyd hwy ar y dechrau, a'r dro ar y gynffon yn gwneuthur clust hwylus, ond digon o waith iddynt gael eu defnyddio lawer ar y bwrdd te; ar y dresel mae eu lle.

 

Mae rhai ohonynt yn dlws iawn, fel y rhai gyda smotiau o lystr pinc; cysylltir lystr pinc yn fwyaf arbennig gyda Sunderland ger Durham ond cofier hefyd y bu cynhyrchu lystr pinc yng Nghrochenwaith Cambrian yn Abertawe am dros gan mlynedd.

 

Llun pafiliwn Caernarfon (a godwyd ar gyfer Eisteddfod 1877) sydd ar y jwg pinc ond yn Eisteddfod 1886 y gwerthid hwn; o dan y llun ceir y geiriau 'Carnarvon National Eisteddfod 1886'. A oes llestri ar gael i goffhau Eisteddfodau Cenedlaethol mewn mannau eraill?

 

Yn ôl y marc oddi tano, yn yr Almaen y gwnaethpwyd ef, ac o'r wlad honno ac Awstria a Bohemia, y deuai dwy ran o dair o'r llestri a werthid fel  'A present from . . .' neu a rhyw ddarlun lleol arnynt.

 

Hoffaf weld dresel â chymysgedd hyfryd arni; o flaen y platiau pren helyg neu'r platiau ffesant Asiatig, gweld jygiau lystr, a llestri a chanwyllbrenni gwydr o bob lliw, gwydrau yfed a'r dicanter - a arhosodd ar y dresel ar waethaf y Mudiad Dirwestol, - fel y gwn o hanes fy nheulu fy hun.

***

RAI blynyddoedd yn ôl prynais mewn arwerthiant – ac arwerthiant yw fy Mingo i – lestri te ag arnynt 'A Present from Bethel Rock'. Anfonid y garreg wen sydd yn y darlun i rywle yn Swydd Stafford mae'n debyg.

Cofiai nain Mr Tomos Roberts, Trefdraeth, weld y cerrig sgwâr gwyn yn cael eu cario i orsaf Bodorgan, a deuai'r llestri porslen tenau hyfryd i Fethel i'w gwerthu yn siop lestri Mrs Prichard.